Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

doeth

doeth

Fel ym mhob brwydr, rhaid i'r cadfridog doeth ymosod ac amddiffyn yn dactegol, a rhaid iddo drefnu ei fyddin yn y fath fodd, fel bod ei filwyr yn ymosod ar y mannau gwan yn amddiffynfa'r gelyn.

Mae Sheikan ddewis doeth fel gwrthwynebydd i Calzaghe.

Doedd e ddim yn sylw doeth, mae'n wir, ond byddai ei ynganu wedi rhoi pleser ofnadwy iddo = dros dro.

Crynhoir arwyddocâd y plasty fel ffynhonnell pob gwareiddiad a'r pencenedl fel cynghorwr ac arweinydd doeth yng ngeiriau'r un bardd: 'pennaeth y gwladwriaeth da; pencenedl ...

Penderfynodd y pwyllgor (oedd yn cynnwys Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith a'r ddau Is-Gadeirydd) hefyd mai doeth fyddai pwysleisio swyddogaeth y Pwyllgor Cyllid yn ei waith o gadw trefn ar y treuliau trwy gyhoeddi rhybudd yn y London Gazette na fyddid yn anrhydeddu unrhyw ddyled os nad oedd y Pwyllgor Cyllid wedi rhoi ei fendith arno ymlaen llaw.

Er y gwelwyd y gellir cael canlyniadau buddiol pan ddefnyddir ychydig o ffrwydron gan arbenigwyr nid peth doeth yw gwneud defnydd eang o'r dechneg hon hyd oni ddee%llir mwy am natur ffurfiad llongddrylliad.

Wedi siarad am y peth yma a'r peth arall, gofynnodd Dafydd i mi yn y man pa beth a fwriadwn ei wneud; a oeddwn yn ystyried mai doeth ynof o dan yr amgylchiadau oedd mynd i'r coleg.

Yn wyneb y dehongliad "treisgar" a roddai rhai pobl barchus ar dân Penyberth, yr oedd e'n tybio mai da fyddai pwysleisio'n gyhoeddus mai plaid gyfansoddiadol a heddychol oedd y Blaid; ond yn ôl y cof sydd gennyf i, nid oedd e'n sicr mai doeth fyddai codi'r mater i'r gwynt yn y Gynhadledd: tebyg ei fod yn ofni yr ai'n ddadl fawr ar y cynnig, a hynny'n fel ar fysedd y collfeirniaid o'r tu allan.

Penderfynwyd, felly, mai doeth fyddai dewis geiriau yn ofalus iawn wrth sôn am y sefyllfa ariannol rhag ofn i'r gweithwyr laesu dwylo.

Yr un modd, diniweidrwydd a barodd iddo gyhoeddi Y Gymraes (neu 'Merched Cymru', yn ôl y pennawd gwreiddiol), ei lenwi â chynghorion doeth ynglŷn â moes a buchedd yn unol â gwerthoedd y dosbarth canol parchus, a chredu y byddai'n apelio at ferched cyffredin.

Dangosodd optimistiaeth a gorhyder ffôl, wedyn, trwy fynnu, yn groes i bob cyngor doeth, ymweld â Dallas, lle 'roedd y trigolion yn ei gasa/ u?

Os yw am ddewis y ffordd hon i gael gafael ar fferm, peth doeth ar ran y darpar-ffermwr fydd trefnu i gael ei eni'n Sais neu'n Bwyliad, os yng Nghymru y dymuna gael ei fferm.

Doedd Rhys ddim yn siŵr iawn fyddai prynu ci swnllydneth doeth.

Mae'n wir nad oedd e mor dal a'i frawd Edward nac yn debyg i'w dad fel yr oedd Henry a doedd e ddim mor hoff o lyfrau ac addysg a'i chwaer Elisabeth, ond serch hynny i gyd roedd Mary'n siwr y byddai ei hetifedd yn dod yn wr doeth, anrhydeddus un diwrnod - yn deilwng o enw ei dad, Richard Games.

Taffy was a Welshman, Taffy stole my heart not beef gan ychwanegu'r geiriau Lladin, Sapiens Fidelis - doeth a ffyddlon.

Doedd dim i'w wneud ond trio edrych yn eofn a doeth a gwneud yn union yr hyn a wnai Jan o Wrecsam a eisteddai ar y lifft o 'mlaen i.

Darllenwch ei ryddiaith, naill ai ei ysgrifau beirniadol neu yn ddiweddarach ei Nodiadau Golygyddol yn Taliesin, a'r hyn a welwch yw eglurder meddwl a mynegiant gŵr gwastad, doeth.

Dechreuodd pethau fynd yn flêr, ac yng nghanol eu perfformiad o Ty ar y Mynydd - un o'u caneuon mwyaf poblogaidd yn rhyfedd iawn - penderfynodd aelodau Maharishi mai doeth fyddai iddynt adael y llwyfan.

Ond y mae'n amlwg nad oedd Eden mewn cyflwr i wneud penderfyniadau doeth, pwyllog a chytbwys ar unrhyw fater yn ystod y cyfnod hwn.

Ymddengys na fun benderfyniad doeth.

Ni waeth beth oedd camgymeriadau Hector ar ei wyliau bu'n ddigon doeth i deithio'n ysgafn, gyda'r canlyniad iddo ymwadu a thacsi, a cherdded yn heini o'r orsaf, a'i fag yn ei law, i'r gwesty.

* A ydyw eich nodau'n rhai DOETH?, h.y.,

Doeth o beth fydd ystyried i ddechrau rai o nodweddion y drefn eglwysig a sefydlwyd yn Llanfaches.

Gwþr caredig oedd gwþr Sir Gaerfyrddin; gwþr cymwynasgar, tylwythgar, teulugar, cymdogion da, boneddigion y tir; gwragedd diwyd, doeth a ffrwythlon; pobl heb ddail ar eu tafod, yn lletygar i grwydriaid, yn talu dyledioon, yn rhoi arian ar fenthyg heb wystl ond ymddiriedaeth, yn cynorthwyo'i gilydd; y bobl a fu'n dioddef gorthrwm a thrais y meistri tir a'r stiwardiaid, yn ymladdd yn erbyn anghyfiawnder, yn aberthu pob dim er mwyn egwyddor ac yn dal at eu hargyhoeddiadau hyd y carchar a'r bedd.

Ac wedi iddi fynd i'r hwyl, dyma hi'n deud peth fel hyn: "Os y bydd rhywun yn trio'ch treisio chi, dydy o ddim yn beth doeth i wrthwynebu gormod." Wrth gwrs, mae cyfla yn beth mawr, chwadal nhwtha, ac mi sylwais ar y diwadd, pan oedd pawb yn ei holi hi, na ddarfu neb feddwl gofyn a oedd hi wedi cael y profiad ei hun.

O ganlyniad, gall prynwr doeth sicrhau bargen werth chweil.

Ar ôl i'r fyddin fynd heibio, aeth stori'r hen ŵr doeth o wefus i wefus drwy bob tŷ yn y dref.

Er mwyn gwneud penderfyniadau doeth yn y byd sydd ohoni mae'n ddefnyddiol bod â sylfaen reit dda o gefndir gwybodaeth wyddonol.

Wedi bwlch mor hir, credaf mai doeth ar ôl hirlwm felly yw bwrw golwg yn ôl dros y misoedd a'u digwyddiadau anghyffredin yn bennaf oherwydd y tywydd anhymorol gawsom yn hytrach na chyfyngu i un pwnc.

A dyma'r cwestiwn yn mynnu codi'i ben unwaith eto: ai doeth fu'r drefn o godi ysgolion mor fawr?

Oedd o wedi gwneud y peth doeth?