hefyd ni ellir mewn un flwyddyn asesu trwy das a phrawf pob un o'r dogau y mae'n bosibl ei asesu.
bydd cyfle i amrywio o flwyddyn i flwyddyn wrth asesu dogau o'r fath.
dylid asesu'r dogau hyn yn eu tro.
deallwyd mai ymateb i gais athrawon yr oedd yr asiantaeth wrth osod y cynllun marcio ochr yn ochr â'r dogau ac mai ymgais oedd hyn i daflu goleuni pellach ar y dogau.
ar ran yr asiantaeth scya ) cyflwynwyd achos fod y tasau a'r profion yn asesu o leiaf hanner y datganiadau y gellid eu hasesu yn y modd hwn mewn amser rhesymol, a mynegodd y gweithgor fod hon yn egwyddor dderbyniol, o gofio mor gynhwysfawr y mae llawer o'r dogau.