Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dogfen

dogfen

Mae nifer o'r rhaglenni hyn yn adlewyrchu cryfder BBC Cymru o ran newyddiaduraeth materion cyfoes, ac roedd hyn yn amlwg trwy gydol y flwyddyn gyda chyfraniadau i ddarllediadau ar radio a theledu o ddigwyddiadau megis yr Uwch-gynhadledd Ewropeaidd yng Nghaerdydd, a phrif raglenni dogfen ar y teledu megis Place of Safety, am yr ymchwiliad i gam-drin plant yng Ngogledd Cymru, ac In The Red Corner, a ddilynodd gystadleuaeth arweinyddiaeth y Blaid Lafur yng Nghymru.

Mynegodd Alun Michael anfodlonrwydd gydag awgrym mewn dogfen ymgynghorol gan y Swyddfa Gymreig ei hun y byddai'n rhaid aros wyth wythnos am fersiwn dwyieithog o'r cofnodion tra byddai fersiwn Saesneg ar gael ymhen tridiau.

Syniad arall pwysig a ddaeth o Comisiwn Warnock oedd bod rhai plant i'w amddiffyn oddi fewn i'r sustem drwy datganiad o addysg arbennig (DAA), sef dogfen fyddai'n diffinio ac adnabod anghenion addysgol plentyn.

Am 1 o'r gloch Dydd Mercher Rhagfyr 1af ar stepen drws y Cynulliad Cenedlaethol ei hun bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn lansio ei dogfen ddiweddaraf Arwain o'r Gadair.

A gwelwyd cyhoeddi dogfen Cyngor Cwricwlwm Cymru Y Plentyn dan Bump yn yr Ysgol, dogfen sy'n cynnig canllawiau ar agweddau ar gwricwlwm addas i blant dan bump.

Dogfen hanesyddol yw hon yn dyddio yn ôl i ddyddiau Glyndŵr.

Ffordd ddrud o gyrraedd ychydig o bobol fyddai hi, meddai John Ellis o Theatr Clwyd, wrth i Gyngor Ffilm Cymru lansio dogfen Cine/ mobile i Gymru ac fe fydd "fel llong ofod yn ymweld o dro i dro%, meddai David Gillam o Valleys Arts Marketing.

Dogfen bolisi'r Swyddfa Gymreig yw hon, sydd yn nodi hawliau rhieni a chyfrifoldebau darparwyr gwasanaethau.

Ar ffurf dogfen hynafol, bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cyflwyno ei gofynion sylfaenol i'r Cynulliad Cenedlaethol, yn dilyn lawnsio ymgyrch am Ddeddf Iaith 2000 mewn rali ym Mlaenau Ffestiniog ddechrau'r flwyddyn.

Fel y dadleuodd Cymdeithas yr Iaith yn ei dogfen Dwyieithrwydd Gweithredol, rhaid i'r Cynulliad ddatblygu polisi iaith cynhwysfawr ac integredig a sefydlu fframwaith i roi'r polisi hwnnw ar waith.

Fforwm Addysg i Gymru Ceredigion Paratowyd dogfen yn rhoi ein gofynion yng nghyd-destun y sir ar gyfer cynhadledd gyda'r Cyfarwyddwr Addysg, Cadeirydd y Pwyllgor Addysg, undebau, llywodraethwyr etc.

Yn ogystal â'r cymal ynglyn â'r amseru, ac yn y cyfarfod cyhoeddus olaf i drafod y Papur Ymgynghori fe ddatganodd y Grwp eu bod yn derbyn fod rhaid i'r dwyieithrwydd fod yno o'r dechrau, ychydig yn brin o fanylder ar y mater hwn oedd dogfen y Grwp.

Rhwng rwan a hynny bydd y grwp yn paratoi â'r gwaith o baratoi dogfen esblygol fydd yn gosod ein gweledigaeth ni o sut mae grym yn treiddio o'r gwaelod i'r canol ac yna i'r Senedd Gymreig fydd yn goron ar hyn.

Roedd y gyfres ddiweddaraf o raglenni dogfen yn cynnwys Iolo Williams, swyddog rhywogaethau'r RSPB yng Nghymru, a siaradodd yn ddwys am greulondeb wrth drin adar oherwydd anwybodaeth neu fasnacheiddiaeth.

Y canllawiau i'r sector cyhoeddus fydd eu dogfen bwysica' nhw; ar honno y bydd gwaith y blynyddoedd wedyn yn cael eiseilio.

Wedi i Alun Michael deithio o Bennal i Fachynlleth ddydd Gwener, Ionawr 21, bydd yn cael ei gyflwyno â dogfen yn dwyn y teitl 'Ail lythyr Pennal'.

o Rocet yn ei ddweud mai 'gyrru dogfen bolisi sych at awdurdodau lleol' y mae'r Gymdeithas - ond mae'r potensial yma, yn y flwyddyn nesaf, o weddnewid sut mae Cymru yn cael ei rheoli.

Cau eich Dogfen Ar ôl ichwi orffen gweithio gyda'r ddogfen ewch at y ddewislen File a dewiswch Close.

mae'r cwmni wedi cynhyrchu sioeau cerddoriaeth o fri, opera, rhaglenni dogfen ac adloniant ysgafn yma yng Nhgymru a thu hwnt yn cynnwys America, Hong Kong, Scandinafia a rhan helaeth o gyfandir Ewrop.

Lunio dogfen gyda galwadau ar i'r Awdurdodau Unedol newydd dderbyn yr egwyddor uchod a gweithredu polisïau cynllunio economaidd sy'n rhoi llai a gobaith i gymunedau ynghylch eu dyfodol.

Mae'n anodd esbonio beth a barodd imi ysgrifennu'r llyfr hwn yn fy henoed, ac eto bu'r ysfa a'r dyhead ynof ers blynyddoedd i groniclo gwaith dwylo'r gorffennol yn y cylchoedd hyn, ac i ddarganfod mewn dogfen a chofnod ôl yr ymdrechion i wella amgylchiadau bywyd o genhedlaeth i genhedlaeth.

Argraffu I argraffu dogfen dewiswch Print o'r ddewislen File gwnewch yn siwr fod y blychau dewis yn cynnwys y wybodaeth gywir am y tudalennau i'w hargraffu.

Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cyflwyno i Jane Davidson gopi o'n dogfen 'Dyfodol ein Hysgolion Pentrefol' sy'n gosod allan 3 ffordd ymlaen i Ysgolion Pentrefol Bychain.

Dylech nodi fod y Pwyllgor wedi cytuno ar yr ymateb hwn yn sgîl darllen tair dogfen arall yn ogystal, sef

Dangosodd y llwyddiant ym maes rhaglenni dogfen ffeithiol y cysylltiad rhwng rhaglenni rhwydwaith a'r rhai a gomisiynwyd yng Nghymru i Gymru; rhaglenni megis The Man Who Jumped to Earth - stori anhygoel Eric Jones o Dremadog ac yntau'n 61 mlwydd oed a chanddo'r freuddwyd o neidio oddi ar Raeadrau Angel yn Venezuela sy'n 3,212tr o uchder.

Gellir defnyddio Ecstracts o berfformiad yr Artist mewn rhaglenni addysgol, cyfarwyddiadol, beirniadol, cylchgrawn, dogfen neu raglenni tebyg ac mewn rhaglenni cwis, gemau panel a rhaglenni gwobrwyo drwy dalu Tal Ecstract (gweler Atodlen A).

Dylid nodi'r rhain mewn dogfen sy'n amlinellu arfer adrannol da.

Mae'r ddadl na ellir gwneud y Gymraeg yn swyddogol yng Nghymru am nad oes dogfen yn datgan fod Saesneg yn swyddogol yn non sequitur. 04.

Mae'n amlwg nad oes gan y sawl sy'n gyfrifol am eu hysgrifennu ddealltwriaeth na chydymdeimlad a Chymru na'r iaith Gymraeg ac mewn dogfen mor bwysig i ddyfodol ein gwlad gallant brofi'n ddamniol.

Roedd yn naturiol, felly, i ni fod yn uchelgeisiol yn ein hymateb i'r Uwch-gynhadledd Ewropeaidd yng Nghaerdydd ym mis Mehefin 1998: nid adroddiadau a dadleuon yn unig, ond hefyd rhaglenni dogfen, celfyddydol ac adloniant ysgafn.

Pan fyddwch yn cadw dogfen am y tro cyntaf fe ddylech roi teitl iddi neu bydd gennych nifer o ddogfennau i gyd o'r enw Untitled.

Addysg yw'r pedwerydd prif faes yng Nghymru sy'n cyflenwi'r rhwydweithiau - ynghyd â drama, cerddoriaeth, y celfyddydau a rhaglenni dogfen ffeithiol.

Yno, byddai'n ofynnol i ni gael dogfen arbennig er mwyn croesi pont i gyfarfod â'r gwrthryfelwyr yr ochr draw.