Ychydig cyn i mi gyrraedd methodd disgyblion y wlad yng nghyffiniau pentref cyfagos Dolafon â mynd i'r ysgol am wythnosau oherwydd na allai'r bysus eu cyrraedd.
Dywedodd wrthyf un tro, fod ei fywyd bore oes i'w gael yn Y Pentre Gwyn - cyfnod y chwaraeon, y potsio, yr hel priciau yn y goedwig, y cyrchu dwfr o Ffynnon Dolafon, ac mai darlun ohono ef sydd yn 'John Ty Pell', ac yn Y Golud Gwell fel 'Arthur Puw,' sef y bachgen y byddai pobl yn gofyn i Betsi Puw - 'Ai eich bachgen chwi ydyw,' pryd yr atebai yn swta - 'Y fi sy'n ei fagu o'.