Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

domen

domen

Gorchmynnodd y gard ni i ddidoli'r defnyddiau oedd yn yr hen domen: rhoi haearn ar un ochr y coed ar yr ochr arall, hen deiars ceir wedyn, a pharhau i'w gwahanu felly.

Gellir rhoi'r toriadau hyn, os na ddefnyddir chwynladdwr, yn y domen gompost.

Roedd hen dwnnel tanddaearol, gannoedd o droedfeddi islaw, wedi mynd â'i ben iddo a'r tri thŷ uwchben a fu'n gartrefi, efallai, i rai o'r coliars a wnaeth y twnnel, wedi disgyn yn domen flêr o gerrig a fframiau ffenestri, ac yn lle chwarae bendigedig i blentyn wyth oed.

Ac felly, cyn i'r domen ddod i'r beudy, gwell ei symud hi, ferfâd wrth ferfâd yn rhes o dociau i'r caeau.

Aeth yntau i gornel gysgodol, ac wedi cael man cyfforddus i orwedd ar hen domen o deiars, fe syrthiodd i gysgu.

Yno gweithiai ceffyl yn tynnu wagenni i ben y domen, - ond chwech, a dim mwy na chwech, a dynnai ar y tro.

Ond yn ei sicrhau na fynnwn wneud mynydd allan o domen.

Wedi i ddwy fuwch a dynewad a llo fod yn y beudy trwy oerni'r hirlwm, erbyn dechrau Ebrill, mi fyddai'r tamaid awyr fyddai i'w weld trwy'r drws o'r beudy dros ben y domen yn mynd yn llai ac yn llai a'r llwybr i basio rhwng y drws a'i godre yn mynd yn gulach ac yn gulach.

Twyma'r domen wrth iddi gynyddu, gan fod y bacteria sy'n peri i'r defnyddiau bydru'n gompost tywyll yn gweithio arno.

Byddai clewtiau o hen ragiau di-siâp o'r domen yn ffitio'u lle i'r dim ac yn cloi i'w gilydd yn daclus a chadarn.

A dyna lle y buom yn ceisio cael gwared o'r dwr drwy dorri sianeli bychain trwy'r domen laid.

A dyma'r trydydd chwythiad ar y biwgl yn dweud fod pob twll wedi 'mynd allan', a'i bod yn berffaith ddiogel i bawb fynd yn ôl at eu gwaith, a mawr yw'r cerdded o gwmpas y domen gerrig a ddaeth i lawr, a'r ddau greigiwr â'u golwg at i fyny o'r lle y daeth y cerrig, i edrych a yw hi'n ddiogel i'r dynion fynd yno i weithio.

Ar waelod y domen mae'r adar mân fel y robin a'r telor, ond mae rheiny yn gallu osgoi bygythion yr adar trymion wrth gymryd eu siâr o berfeddion y llwyn.

Mae'n siwr fod crynodebau ohono wedi ymddangos yn y papurau newydd pan lofnodwyd ef ond yr oedd y papurau hynny wedi hen fynd i'r domen ac ni allwn gofio dim a ddarllenais amdano.

Nid rhaid ychwanegu fod holl duedd economaidd Prydain Fawr gyda'r canoli fwyfwy ar ddiwydiannau yn gwthio'r Gymraeg fel clwt i gornel, yn barod i'w daflu ar y domen.

Un noson gwthiodd moryn ddrws ei ystafell yn agored pan oedd yn ei wely nes yr oedd yn wlyb domen.

ONd dydi hi ddim yn cyrraedd i'r pwll domen ar ddydd Sadwrn.

Y gost oedd y bwgan yma eto, ond yn hytrach na gwario ar 'bowdwr mawr' o bryd i bryd i geisio'i symud yn ei grynswth, buasai wedi bod yn llawer mwy proffidiol i gael peiriant malu metling ('stone crusher') i lyncu'r gwenithfaen fesul tipyn, a'i werthu i wneud ffyrdd yn hytrach na'i fwrw dros y domen.

Ers degawdau bellach, mae pobl wedi edrych ar y môr fel rhyw domen sbwriel gyfleus i'w gwastraff.

Pan ddengys lilith ichi mor hyfryd yw'r olygfa o ffenestr y llofft ac fel y mae'r domen dail yn rhoi cydbwysedd artistig iddi, peidiwch â'i alw'n rhagrithiwr melltigedig na'i daro dan glicied ei ên.