Meddai Raymond Williams eto, wrth drafod y diwylliant dominyddol: Mae o fewn y gymdeithas, felly, wahanol ffurfiau ar yr hyn a ystyrir yn 'synnwyr cyffredin', ac o fewn democratiaeth, rhaid i'r wladwriaeth gael ei gweld i fod yn cynnwys y rhain, hyd yn oed os ydynt weithiau yn sefyll mewn gwrthwynebiad i'w gwerthoedd hi.
Mae'r hegemoni sy'n gweithio drwy'r gymdeithas yn gweithredu tuag at y nod o integreiddio'r holl gymdeithas i mewn i'r drefn ddominyddol - er enghraifft, mae'r system addysg yn gyfrwng tra effeithiol o gyflwyno'r diwylliant dominyddol, a gwneir hyn trwy ddewis a dethol yr wybodaeth sy'n 'berthnasol', 'gwerthfawr', etc., (er nad yw hon yn broses fwriadus ac ymwybodol, fel y nododd Gramsci) - ond mae rhannau o'r gymdeithas nad ydynt yn cael eu hintegreiddio'n llwyr.
Mewn democratiaeth, caiff y rhain eu cynnwys gan y diddordebau dominyddol cyn belled ^a'u bod yn cadw o fewn ffiniau derbyniol, ac nad ydynt yn creu bygythiad i'r drefn ddominyddol.
Ceir deinamig cyson wrth i'r diwylliant dominyddol adgynhyrchu ei hun, ac i'r diwylliant sy'n is-raddol iddo ei wrthwynebu a'i wrthsefyll, gan ffrwyno'r datblygiadau posib.
Mae gwledydd eraill sydd yn cymryd normaleiddio eu hiaith o ddifrif bellach yn gweld twf yn y niferoedd sy'n medru'r iaith ar draws y sbectrwm oedran er gwaetha'r pwysau cynyddol oddi wrth ieithoedd dominyddol y byd.