Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dor

dor

Y Fari Lwyd oedd ein ceffyl ni, - digon dychrynllyd i gael gwared ag unrhyw ysbryd aflan (Gweler The Hobby Horse and other Animal Masks - Violet Alford.) Dawns y Glocsen wrth gwrs yw'r unig draddodiad dawnsio di-dor sydd gennym yng Nghymru.

Bydd Anthony Copsey wedi byw yn ein plith yn ddi-dor ers chwe blynedd erbyn Dydd Calan, sy'n golygu y bydd ym gymwys i'w ddewis i'n Tîm Cenedlaethol yn erbyn ei wlad ei hun.

Yn wir, yr oedd yr Academi Bresbyteraidd yn barhad di-dor o'r traddodiad y bu Samuel Jones, Brynllywarch, a'i debyg yn mwydo'i wreiddiau.

Yr haul a'r gwynt a'r traeth yn gynnes gynnes - y gwynt di-dor!

Ac mae academydd, Gareth Thomas, sy'n sgrifennu llyfrau am dor-cyfraith, hefyd yn dangos diddordeb mawr yn yr hyn sy'n digwydd.

Bu'n rhaid i gyd-gadeirydd Cymdeithas yr iaith Gymraeg, Branwen Brian Evans o Aberystwyth, dreulio awr a hanner yn Swyddfa'r Heddlu Aberystwyth neithiwr (Nos Lun Rhagfyr 4ydd). Cafodd ei holi ynglŵn ag ymgyrch dor-cyfraith y mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ei gynnal yn erbyn Coleg Ceredigion.

Caf fy nghalonogi hefyd gan y ffordd y cyfoethogwyd ein cydberthynas ag S4C dros y flwyddyn ddiwethaf, drwy fentrau ar y cyd fel darllediadau teledu digidol di-dor o'r Cynulliad Cenedlaethol, a pharodrwydd i ystyried partneriaethau eraill yn y dyfodol.

Pan fo un plaid mewn awdurdod am ddegawd a rhagor yn ddi-dor gall y gweision sifil mewn adran gymharol fychan lithro i rigol meddwl sy'n eu dallu rhag gweld rhinweddau'r gwrthddadleuon.

Roedd yn rhaid i ni, er hynny, ddilyn ymarferiadau milwrol am dair wythnos bob blwyddyn a hwnnw'n gyfnod di-dor, ond caem ddewis i ba adran o'r lluoedd arfog y dymunem ymuno â hi.

Edrych dros wastadedd gwyn yr eira, gyda'i glytiau o goed pin a bedw arian, a sylweddoli fod tir yn ymestyn yn ddi- dor oddi yma i'r Arctig, y Môr Tawel, a'r Iwerydd.

Yr oedd Edmund yn dra ymwybodol fod traddodiad y Piwritaniaid wedi parhau'n ddi-dor trwy'r blynyddoedd digynnwrf.

Fe'u cyfrifant eu hunain yn Gymry i'r carn, er na fyddai ffermwr o Ogledd Cymru sy'n ddisgynnydd uniongyrchol i genedlaethau di-dor o Gymry yn cytuno.

Honnai ar un adeg ei fod ef yn perthyn i fudiad a elwid Brodoliaeth Beirdd Morgannwg, a phwysleisiai fod yn ei fro ef feirdd o hyd a oedd, yn wahanol i'r rhai a geid ym mro%ydd eraill Cymru, wedi etifeddu 'Cyfrinach y Beirdd' yn yr hen ffordd draddodiadol trwy iddi gael ei throsglwyddo i lawr o athro bardd i ddisgybl yn ddi-dor er amser y derwyddon, yn wir, o Oes Aur Dynolryw, a'i fod ef yn un o'r etifeddion breiniol hynny.

Cyflogaeth Di-Dor

Mae ei ddyfodiad yn sicr yn garreg filltir: dyma'r sianel adloniant gyntaf gan y BBC mewn mwy na 30 o flynyddoedd ers lansio BBC Dau ym 1964; a'r bloc dwy awr o raglenni di-dor nosweithiol cyntaf yn Saesneg wedi eu gwneud yng Nghymru ar gyfer Cymru - gan bron iawn ddyblu cynnyrch teledu Saesneg BBC Cymru o fwy na 600 o oriau i 1,170 o oriau y flwyddyn. Mae cryn dipyn ohono'n rhaglennu byw.