Cymerodd Dora, gweddw Gwyther, Derek dan ei hadain a rhoddodd arian iddo gychwyn ei fusnes trin ceir ei hun.
'O?' 'Efo Ifan Paraffîn, yn y bus.' ''Ron i'n meddwl 'mod i'n gweld gola' ac yn clywad rhyw swn pan o'n i'n cau ar yr ieir.' Sylweddolodd Dora Williams ei bod hi'n sefyll yn llond y ffenestr yn ei choban, yn wyneb llafn o olau lleuad, a theimlodd ei hun yn cael ei dadwisgo'n gyflym.
...Pst!' Dadfachodd Dora y ffenestr a gollwng y darn ucha' i'r gwaelod nes bod ergyd.
Fel roedd Dora Williams ar syrthio i gysgu lluchiodd rhywun ddyrnaid o fân gerrig yn erbyn y ffenestr.
Chafodd Dora Williams, Cerrig Gleision 'rioed fabi, na gwr iddi'i hun, ac wedi colli ''rhen bobol' yn nechrau'r tridegau ymrodd i droi tyddyn caregog yng ngwynt Porth Neigwl yn amgenach tir ac i fagu stoc a ddenai borthmyn yno o bellter mawr.