Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dorf

dorf

Os oedd y dorf yn ffyrnig, yna ffars a gafwyd yn y Cyngor ei hun wrth i'r cynghorwyr weiddi ar draws ei gilydd ac i'r offer cyfieithu anghyfarwydd gael ei ddefnyddio am y tro cyntaf fe ymddengys.

Symudodd ymlaen gan ofalu cadw i'r un cyflymdra â'r dorf, er ei fod o'n teimlo fel rhedeg a rhedeg er mwyn cyrraedd ei gartre a'i daid a'r llyfrau.

Yn bersonol, roeddwn yn falch iawn o'r esgus i ymuno gyda'r dorf oedd yn codi ar eu traed ac yn y martsio o gwmpas yr awyren bob awr.

Ymunodd plant yr ysgol a'r dorf oedd wedi ymgasglu ar draeth Cemaes i gofio a chymryd rhan yng ngwasanaeth D-Day.

Arafodd prysurdeb y dorf ar unwaith, ac aeth pawb i'r ochr yn frysiog.

.~ Ynghanol y gêm taflwyd dwy botel tuag ataf o'r dorf ac wrth i mi eu pigoo'r llawr i'w cymryd at yr heddlu rhedodd un o ddyruon camera y papure~ newydd tuag ataf i dynnu llun.

Aeth yr heddlu i blith y dorf.

Y cwbl sydd raid i ti ei wneud ydy tynnu sylw'r ddau oddi ar eu gwaith am eiliad." Cofiodd Jean Marcel am wynebau gwelw y bobl yn y dorf ychydig oriau ynghynt.

Roedd y dorf niferus oedd yn bresennol yn y capel a'r amlosgfa yn dystiolaeth o'r parch.

Disgrifir yr helynt ar fuarth Pen y Bryn gyda chryn afiaith, yn enwedig y modd y caiff yr arwerthwr a'r Saeson eu hannos gan y dorf.

Eto i gyd, mae'r dorf yn dal i ymddwyn fel pe na bai Gadaffi yno.

Llwyddwyd i gael rhai o sêr y cyfryngau i annerch y dorf, canwr pop, actor enwog a chyn-chwaraewr rygbi.

petai'r dorf am ddangos eu gwerthfawrogiad pellach aethant ati wedyn i gyfeirAo'r heddlu tuag at yr unigolyn hurt oedd wedi taflu'r botel a dyna ddiwedd ar y sefyllfa.

Erbyn hyn roedd tymer y dorf yn eirias.

Tynni dy gleddtyf i'th amddiffyn dy hun, ond mae'r dorf yn dy gyrraedd cyn i ti gael cyfle i'w godi uwch dy ben.

Cyfyngir y dorf i 2,500 sydd yn ei dro yn cyfyngu incwm y clwb.

Hynny'n briodol yn ein hoes ddreng Thatcheraidd lle'n dosbarthwyd yn unedau bach preifat hunangynhaliol ar wahan yn hytrach nag y dorf gymdeithasol gydweithredol.

Mae'r dorf yma yng Nghaerdydd yn frwdfrydig iawn, meddai Emyr ar y Post Cyntaf.

Bydd gweld gwraig â llygaid croes yn y dorf cyn dechrau'r gêm yn anlwcus iawn ac ni fydd y chwaraewr hwnnw yn llwyddo i daro'r bêl unwaith y diwrnod hwnnw!

Roedd y dorf o 4,786 yn siomedig, a'r dyfarnwr yn waeth.

Doedd neb call yn cerdded yn gynt na'r dorf rhag ofn tynnu sylw ato'i hun.

Yn araf gwasgarodd y dorf, yr awydd am ymladd wedi'i ddeffro, a dau o'r plant iau yn dechrau arni, ond dim ond ein dynwared ni oedden nhw, ac ni allai smalio tila felly fyth ddigoni syched y dorf am waed go iawn.

Yn fuan roedden nhw'n ymuno â'r dorf a symudai'n araf tua'r neuadd.

Fe'i gwele~ yn dod a llwyddais i guddio r,~ poteli fel na fydde ganddo'r darlun yn ei bapur newydd y diwrnod wedyn danlinellu'r beirniadaethe cyson oedd yn y papure arn y GwyddelodSylwodd y dorf ar yr hyn wnes i ac fe ges i gymeradwyaeth aruthrol.

Cyn pen dim o dro, gwelwyd yr hogyn bach yn cymryd rhan mewn cystadlaethau siarad cyhoeddus ac yn gwefreiddio'r dorf.

'Carchar i Charlie' meddai'r dorf.

Go brin fod y dorf enfawr fu'n cymeradwyo ei fuddugoliaeth fel arlywydd yn sylweddoli gwir ystyr yr araith fer o falconi'r Casa Rosada 'Rwy'n eich gwahodd i enedigaeth cyfnod newydd, cyfle newydd, a all fod yr un olaf a'r pwysicaf yn ein hanes,' meddai.

Ac roedd hynny o arian a feddai wedi'u cadw'n ddiogel mewn cwdyn lleder, main a gyd-darai'n gyson â'i geilliau wrth iddo gamu trwy'r dorf gan wthio rhwng un ceffyl a'r llall.

Dychmygwch am eiliad eich bod yn annerch rali o blaid 'Achub Ciwcymbyrs Coch Prin Powys' - dim problem yn fanna, tan i chi sylweddoli fod Dafydd Morgan Lewis - yr arch derfysgwr - yn llechu ynghanol y dorf yn ei sbectol dywyll, ei farf ffug a'i falaclafa du.

Galwyd milwyr i setlo'r helynt a gododd ar achlysur praw arweinwyr y gweithwyr, a saethwyd pedwar o'r dorf a ymgynullasai - dau ddyn a dwy wraig.

Er iddo wadu'r cydraddoldeb sydd yn ymhlyg yn nysgeidiaeth Crist cam dybryd a gafodd y meddyliwr gonest hwn pan drodd y Natsiaid ei gred yn yr Uwchddyn i'w melin afiach eu hunain: yn y bon, ei orchfygu ei hun yw camp Uwchddyn Nietzsche a byw'n beryglus yn y meddwl, gan gefnu ar deganau gwael y dorf.

Toc wedi'r egwyl methodd Josh Low gyfle gwych i dawelu'r dorf.

Disgwylir i'r dorf fod bedair gwaith yn fwy na'r dorf wyliodd y rasys y llynedd.

Onid oedd perygl i gynulleidfa droi'n dorf ddi-reol?

Roedd y dorf yn gyfarwydd iawn ar gân Bys Yn Dy Glust ac yn heidio i flaen y llwyfan.

Wrth i'r chwaraewyr redeg allan ar y cae a dechrau chwarae bloeddiodd y dorf ei chymeradwyaeth.

Yfory bydd pawb yn y dref yn cael hanner kilo o fara yn ychwanegol fel anrheg." Arhosodd am eiliad gan ddisgwyl bonllef o'r dorf ond doedd dim ond tawelwch yn ei wynebu.

'Ro'dd y dorf yn wych - yn well na maen nhw wedi bod am flynydde.

Aeth dorf o amgylch tref Aberystwyth gan bastio posteri ILDIWCH I'R GYMRAEG ar siopau, banciau, cymdeithasau adeiladu, ac unrhyw sefydliad arall nad oedd yn defnyddio'r Gymraeg pchr yn ochr â'r Saesneg.

Ni welais erioed dorf mor ddig.

Canodd alaw gyfarwydd Donizetti Una furtiva lagrima - nid o reidrwydd yn syniad rhy dda gan ei bod yn hoff gân cynifer o denoriaid enwog - yn felys a chynhesodd y dorf ar drothwy'r egwyl gydag O figli, o figli miei o Macbeth Verdi.

Gwaethygodd y broblem pan ruthrodd plismyn ar geffylau at dorf o 300,000 yn Sgwâr Trafalgar.

Awstralia felly sy yn y rownd derfynol ond Cymru gynhesodd galonnau'r dorf.

Fe ganodd Ivor Thomas "Yr Hen Gerddor" nes gwefreiddio y dorf enfawr.

Hydref ddail, dorf eiddilaf - sy'n eu trem Yn swn troed y gaeaf, Treulient eu horiau olaf Ar ingol ddor angladd haf.

Yna, ymlwybrodd am hanner milltir drwy'r dorf yn y sgwâr i'r Eglwys Gadeiriol.

Sut y medrwn ni fod yn llawen dan draed y gelyn a ..." "Ssh ..." Rhoddodd Marie bwniad iddo i'w dewi pan welodd ddau filwr ar fin y dorf yn edrych yn sarrug tuag atynt.