Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

draddodiad

draddodiad

Ufudd-dod i draddodiad yw pwnc y llyfr: pwysigrwydd amddiffyn purdeb ffydd y tadau rhag cael ei wenwyno gan heresi uchel-Galfiniaeth.

A phan eir ymlaen yn nes at ganol y ganrif, y mae etifeddion yr 'Ymneilltuaeth Newydd', gwyr fel Lewis Edwards, Henry Rees neu ei frawd, Gwilym Hiraethog, mewn gwahanol ffyrdd yn parhau'r cyfuniad rhwng yr hen draddodiad a'r newydd.

Ac er y gellir barnu bod y dro%edigaeth ysbrydol yn un gonfensiynol iawn, y mae profiad o'r fath yn llawer llai dibynnol ar gyfundrefn resymegol y mae'n rhaid ei gweithio allan yn ofalus, ac mae hefyd yn nes at draddodiad y nofel Gymraeg y dylanwadwyd arni i gymaint graddau gan y cofiant.

Y mae tair elfen felly yn perthyn i draddodiad barddol dyffryn Aman yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Y Fari Lwyd oedd ein ceffyl ni, - digon dychrynllyd i gael gwared ag unrhyw ysbryd aflan (Gweler The Hobby Horse and other Animal Masks - Violet Alford.) Dawns y Glocsen wrth gwrs yw'r unig draddodiad dawnsio di-dor sydd gennym yng Nghymru.

Ar y daith adref ar ôl chwarae ym Manceinion roedd yn draddodiad rhoi triniaeth arbennig i hogiau newydd y flwyddyn gyntaf Mae eli o'r enw 'Sloane's Liniment' i'w gael ar gyfer poenau yn y cyhyrau sy'n creu gwres mawr ar ba ran bynnag o'r corff y'i rhoddir.

Bydd gollwng cardiau, yn enwedig rhai duon, yn ystod gêm yn anlwcus iawn ac wrth gwrs mae'n draddodiad i gysylltu cardiau duon, yn enwedig rhawiau, gyda

Mae gan y Llydawiaid draddodiad cryf o gynnig lloches i alltudion.

Ar ben hynny mae gen i ofn bod 'na draddodiad wedi bod yn y coleg yma o benodi Saeson i gadeiriau gwyddonol hefyd.

Hwyrach mai dim ond teidiau oedd gan y nofelwyr: wedi'r cwbwl dim ond gyda Daniel Owen yn wythdegau'r ganrif ddiwethaf y dechreuwyd sgrifennu nofelau o ddifri yn Gymrag, ond roedd yna draddodiad hŷn o sgrifennu cofiannau y gellid tynnu arno.

Nodwyd eisoes fod grwp o bobl wedi bod yn gweithio mewn maes gwahanol i'r ddau draddodiad uchod yng nghyswllt astudiaethau dwyieithrwydd, a nodwyd fod y rhain yn gweithio o safbwynt perspectif gwrthdaro.

A hyd yn oed pe bai'r testun yn hŷn nag y gallwn ar hyn o bryd ei brofi, mae'r ffaith nad oedd copi%wyr diweddarach wedi moderneiddio nac addasu'r hanes, drwy gydblethu'r cnewyllyn brodorol ag elfennau o draddodiad arall, yn awgrymu'n gryf yr ystyrid y chwedl Gymraeg am Drystan ac Esyllt fel stori wahanol, mewn rhyw fodd, i hanesion eraill a berthynai i'r un un byd Arthuraidd, a bod y chwedl wedi ci thrin yn wahanol o'r herwydd.

Hefyd, ychydig o draddodiad o ddefnyddio Basgeg mewn bywyd cyhoeddus oedd pan sefydlwyd y Senedd.

Mae gan y clwb draddodiad, ers bron 25 blynedd, o groesawu timau tramor.

Y canlyniad oedd i aelodau ei ddosbarth ddod yn ymwybodol eu bod yn perthyn i draddodiad cyfoethog.

Gellir gweld sut y cyfunodd y ddau draddodiad yma - yr un llenyddol a'r un Cristnogol - yn gynnar iawn yn ei hanes.

Pa draddodiad a all fod pan na fo neb yn traddodi?

O ddyddiau Bedo Aeddren, Tomos Prys o Blas Iolyn ac Edward Morus, Perthillwydion, bu gan fro Uwchaled draddodiad didor o feirdd.

Yng ngwir draddodiad roc a rôl fe gawn hanes y grwp yn ymweld a thy un o drigolion gwylltaf Caernarfon ac yn colli eu pennau mewn mwy nag un ystyr , gymaint âu bod yn...colli eu brên a theimlo fel ceffyl pren.

Y gwahaniaeth oedd fod gan y llenorion Cymraeg draddodiad a oedd yn para'n ir yn y cof hyd yn oed os ydoedd mewn gwirionedd ar drai.

Cerdd am yr haul yn codi o'r dwyrain fel grym daionus yw hon, cerdd am ddarpariaeth Duw ar gyfer dyn ac am draddodiad Cristnogol Cymru.

gall seiliau hen draddodiad fod yn gyntefig iawn, ac i'm tyb i, egwyddorion cymdeithasau cyntefig sydd wrth wraidd pob crefydd.

Mae'r ail brif draddodiad ymchwil yn ^ol Martin-Jones yn defnyddio perspectif gwahanol - sef perspectif micro- rhyngweithiol.

Yn ei ragymadrodd i Llwybrau Pridd y mae'r bardd yn nodi rhyw dinc hen-ffasiwn yn ei ganu, fel petai heb ymadael yn llwyr a'r hen draddodiad: 'Un droed yn y gors, y llall yn y concrid', meddai.

Er mor gryf y bywyd Cymraeg hwn ni buasai, er pan ymgorfforwyd Cymru yn Lloegr, draddodiad balch o wrthsefyll y sefydliad Seisnig mewn unrhyw amlygiad ohono.

Felly, yn unol â hen draddodiad, cawsom ninnau ein gwala a llond gwlad o grempogau i de heddiw.

Mi fydd rhai yn dal i ddadlau bod canu cerdd dant bellach yn draddodiad hen ffasiwn ond mae'n denu pobol ifanc fel aelodau côr cerdd dant Aelwyd Pantycelyn yn Aberystwyth.

Ni fynnai ef, fe ymddengys, fod ynryw ddyled ar Ddafydd i'r Trwbadwriaid: yn hytrach yr oedd ei brif ddyled i'r traddodiad barddol brodorol, i draddodiad barddol 'gwerinaidd' y 'bardd teulu'.

Mae gan Gymru draddodiad cryf o anfon plant i'r ysgol yn ifanc ac, er bod rhyw faint o amrywiaeth yn y polisi%au derbyn o un Awdurdod i'r llall, mae'r arfer o dderbyn plant pedair oed i ysgolion yn llawn- amser wedi ei hen sefydlu.

Bellach, ysywaeth Neuadd William Aston yn Wrecsam sy'n elwa ar draddodiad a gafodd ei feithrin ar lwyfannau'r Rhos.

Nid oedd gan y Saeson, fel yr oedd yng Nghymru, draddodiad cryf o ganu achlysurol a chymdeithasol, a byddai beirdd Saesneg yn troi at y clasuron am batrymau i'w dilyn.

Hyd yn oed eleni yn myd addysg, maes ag iddo hir draddodiad o ddatganoli, ac mewn perthynas â gwasanaeth arolygu'r ysgolion, gwasanaeth o fowldiwyd gan neb llai nag Owen M.

Canrifoedd o brofiad, o draddodiad, o Iwerddon i India.

Mae gan Eds draddodiad o fod yn ddyn mileinig iawn, hyd yn oed gyda'i gymheiriaid ei hun.

Rhoddwyd sylw arbennig i draddodiad barddol toreithiog y cylch, gan gynnwys, yn naturiol, gerddi David Ellis, Penyfed.

Ddeng mlynedd yn ddiweddarach ysgogodd mynyddoedd Gilfach Goch ddarn arall o sgrifennu a barodd dipyn mwy o gyffro trwy'r byd nag a wnaeth Huw Menai: Yma, yn How Green was My Valley Richard Llewellyn, wele gynnig myth a allai gymryd lle admabyddiaeth uniongyrchol o draddodiad.

Fel un 'a faged yn nhraddodiadau'r Hen Radicaliaeth Gymreig', chwedl yntau mewn man arall, ni allai Gruffydd dalu gwrogaeth ond i draddodiad Anghydffurfiol a ganiatâi wrthryfel parhaus yn erbyn pob awdurdod.

Oblegid bod ganddynt draddodiad a hwnnw'n amlwg yn eu gwaith, gwedir eu hawl i weledigaeth.' Un rheswm am y dibrisio hwn, meddai, oedd y modd y dysgid Cymraeg yn y colegau: rhoddid pwyslais ar eirfa a chystrawen yr hen gywyddwyr, ond anwybyddid eu myfyrdodau ar y byd.

Ac ar ben y cwbl, gwnaethant gyfraniad at feithrin yng Nghymru draddodiad gloyw o ddarllen ac adrodd cyhoeddus a oedd yn ddeallus, yn gywir a phwysleisiol.

Ychydig iawn a wyddom am draddodiad llenyddol Morgannwg a Gwent cyn y bedwaredd ganrif ar ddeg; yn wir, gellid dweud am Went na feddai fywyd llenyddol fel y cyfryw yn y canrifoedd dilynol ychwaith, beth bynnag am gyfnodau blaenorol, er bod yno yn adeg y Cywyddwyr lawer iawn o gartrefi nawdd.

Gyrfa a gychwynnodd pan drodd glaslanc un ar hugain allan ryw ben bore, 'lawer dydd yn ôl' bellach, gobaith yn fflachio yn ei Iygaid, tân yn llosgi yn ei fol a thail cefn gwlad Môn yn ffres ar ei 'sgidia' am ei gyfweliad cynta' yn Ysgol Ramadeg Newton le Willows, sefydliad oedd yn drewi gan draddodiad yn Lloegar bell!

Lle bo angen, cewch gyfarwyddiadau ar sut i wneud yr offer - ac mae hyn yn hen draddodiad efo gwyddonwyr - nid yw darganfyddiadau gwyddonol bob amser yn dibynnu ar offer cymhleth a drudfawr.

Ar ôl dyddiau John Griffith, mae'n anodd gweld unrhyw draddodiad o ohebu tramor yn Gymraeg.

Ond nid oedd raid i Gymro fynd nor bell oddi cartref, oherwydd gallai dynnu ar draddodiad cyfoethog o ganu moliant yn ei iaith ei hun.

Mae yna gryn dipyn o gynnwrf wedi bod am y cynnyrch gan fod yna doreth o artistiaid eraill yn cyfrannu at y casgliad sydd bellach yn dipyn o draddodiad gan y grwp.

cyn belled ag y mae'n traddodiad beth bynnag yw traddodiad, neu beth bynnag a olygir wrth sôn am draddodiad cyn belled ag y mae'n traddodiad llenyddol yn y cwestiwn, hyd at y ganrif ddiwethaf roedd traddodiad pob gwlad yn grefyddol, mwy neu lai.