Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

draeth

draeth

Llenwaist ein clustiau â seiniau'r greadigaeth - sisial ffrwd ar gerrig, trymru'r môr ar draeth, trydar yr adar, clec y daran ac amrywiol gynganeddion y gwynt.

Roedd fel gwylio rhywun ar draeth yn ceisio codi castell tywod wrth i'r tonnau olchi trosto.

Mae'r bobl ar fin y dŵr ar draeth tywod, tu fewn i ffrâm o greigiau serth ac awyr, yn cael eu cyfleu â phalet ysgafn, syml lle mae shiapiau'r lliwiau wedi eu cyfosod i greu delwedd.

Tybed ydy William Thomposon, Moelfre, yn cofio'r nos Sadwrn honno y cerddodd nifer ohonom ar hyd y traeth o Draeth Coch i Fenllech.

Ymunodd plant yr ysgol a'r dorf oedd wedi ymgasglu ar draeth Cemaes i gofio a chymryd rhan yng ngwasanaeth D-Day.

Yr oedd i'w glywed ym mhobman, mewn tŷ a siop, ar fynydd ac ar draeth, nes o'r diwedd i fasnachwyr llygadog weld cyfle i farchnata'r setiau bach i'w rhoi mewn poced a'u gwifrau'n cysylltu i gyrn ysbwng am y clustiau nes bod y gwrandawyr yn edrych fel pe baen nhw yn rhan o ryw 'dyrfa lonydd lan' a hanner gwen ar eu hwynebau a golau byd arall yn eu llygaid.

Roedd Tony ar greigiau ger Aberdaugleddau ac mi gafodd plisman hyd i Gripper ar draeth Angle.

O'n cwmpas ar y tarmac, roedd hen awyrennau Aeroflot fel morfilod ar draeth ac ambell fodel propeliog yn dadfeilio'n ddi-urddas o dan yr awyr lwydaidd.

Fe fu'n cynnal Dosbarth Allanol yn Nhalgarreg am flynyddoedd, ac fe fu'n arferiad ganddo draddodi 'darlith haf' ar ben yr hen odyn galch ar draeth Cwmtydu, bob mis Awst.

Mi fyddaf yn falch o gael cyflawni fy neges yn y ddinas fawr, brysur, ac ar fy ffordd adref, i'r pentref croesawus lle gallaf gerdded yn eithaf diogel uwch y creigiau, a gwrando ar y môr yn rhuo, ac, ar brynhawn sych, heulog, fy mhleser fydd cerdded ar lan Afon Ogwr a chael ailfywhad o gerdded ar draeth Bae y Gorffwysfa ym Mhorthcawl.

Mi gawson nhw'u rhyddhau'n ôl i'r dwr ar Draeth Sant Ffraid bnawn Sadwrn.

Llenwai'r awyr a'i ru fel ton ar ôl ton yn torri ar draeth.

Biti garw am hynny, achos mi oedd Mrs Robaits, Cae Hen, wedi gaddo ers talwm y caen ni'n tri fynd efo hi a Jên a Jim i draeth y Foryd am ddiwrnod.

Gan fy mod wedi sôn yn barod am yr alabaster ar draeth Penarth, efallai mai yno y dylem fynd nesaf gan gerdded i lawr i'r traeth o'r maes parcio.

Roedd yr achosion mwyaf difrifol yn cael eu trin yn ysbytai'r brifddinas, a gweddill y plant yn cael gofal a gwyliau bythgofiadwy ar draeth y gwersyll.

Cerddad wnaethon ni i draeth y Foryd, i lawr drwy Bont a Llanfaglan, ac er ei bod hi'n reit oer pan gychwynnon ni, erbyn i ni gyrraedd Eglwys Llanfaglan mi oedd yr haul yn twnnu'n braf a minna'n gweld y môr ymhell o'n blaena' ni'n las, las, las.

Disgrifiodd Newton, hyd yn oed, ei waith mewn termau tebyg, fel "casglu graean ar draeth gwybodaeth".

Dros y penwythnos cafwyd pedwerydd Gwyl Pendrawr Byd a hynny ar draeth godidog pentref hudol Aberdaron.

Neu beth am ddianc yn llwyr o'r hwrli-bwrli i draeth gwyn, pellennig?

Yn wir gellir dod o hyd i alabaster ar draeth Penarth sy'n dangos fod yr ychydig lynnoedd o ddþr oedd ar gael wedi sychu yn y gwres mawr gan adael haenau tew o'r halen gypsum pinc.