Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dragwyddol

dragwyddol

Mewn soned arall, 'Y Rhufeiniaid' (Synfyfyrio), mae ef yn ceryddu'r gwŷr a adeiladodd yr Ymerodraeth Rufeinig, nid am fod yn ormweswyr creulon a diystyrllyd o hawliau pobloedd eraill, ond am fethu â sylweddoli na fyddai eu gweithiau hwy yn parhau yn dragwyddol.

Gwyddom, os tynnir i lawr y babell ddaearol hon yr ydym yn byw ynddi, fod gennym adeilad oddi wrth Dduw, tŷ nad yw o waith llaw, sydd yn dragwyddol yn y nefoedd.' Ie, diddorol yntê?

Hefyd, tydi rhywun yn gwneud bwyd yn dragwyddol, yn byw o'r un pryd i'r llall.

Dim ond ar ôl oriau o aros, o obeithio ac o syrffedu y bydd drysau'r cysegr sancteiddiolaf yn agor, ac y daw'r arweinwyr allan i geisio argyhoeddi cynulleidfa o siniciaid proffesiynol fod rhywbeth o dragwyddol bwys wedi ei gyflawni.

Priod y dragwyddol Hanfod Wela' i'n hongian ar y pren...

Y peth sy'n rhoi min ar y genadwri Gristionogol mewn unrhyw oes yw'r argyhoeddiad fod ei derbyn neu ei gwrthod yn fater o dragwyddol bwys.

Mae Ceri wedi dilyn 'Nhad; byddai yntau yn corddi geiriau yn dragwyddol.

Yr oedd grym yn ei ddadl ar y pryd, ond go brin ei bod yn sylfaenedig ar egwyddor feirniadol dragwyddol a di-syfl.

Gwinllan a roddwyd i'm plant ac i blant fy mhlant, yn dreftadaeth dragwyddol.