Ma' hi'n gofyn bae'.' 'Drw' Lanengan ac yn deirect i'r dre ydi'r gorchymyn 'dwi wedi gal.
TAI LLAWN Ar y briffordd allan o'r dre heibio'r Castell y mae fferm Felin Ysguboriau ac yr oedd yno lond ty - tri ar ddeg o bobl.
Ganed fy nhad ym Mhen-dre, Ty Nant, Plwyf Llangwm, fferm fechan oddeutu hanner milltir o Benyfed.
Maen' nhw'n deud imi fod arian da iawn i cael yn y Sywth yna." "Gobeithio 'wir, ond mae cimint yn cael i lladd yn y pyllau glo yna." "Mae digon o hynny yn y chwareli yma, petai hi'n mynd i hynny, a digon o bobol yn marw o'r diciâu." "Oes, digon gwir." "A dyna i chi siopau'r dre yna wedyn.
Roedd pawb yn y dre yn gwybod fel roedd hen brifathrawes ysgol y babanod yn rhodio strydoedd gweigion y dre bob nos.
Ar gefn ceffyl ai i'r dre yn y gaeaf i nol neges gyda "maletas" wrth ei sgîl gan mae dyna'r unig ffordd bosibl i fynd.
Cafodd o'i daro gan gar ar ffordd yr A458 ger Garej Drivers yn y dre.
Wedyn fe sleifiem i gysgod drws siop, er mwyn rhoi llwyr rhyddid y dre i Miss Jones.
Ar ddiwrnod cneifio yn Llannerchirfon ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf fe ganodd Selby Price, bardd gwlad hynod ffraeth o'r fro, fel hyn i'r gyllell y cafodd ei benthyg gan Nedi Pen-dre, Tregaron:
Gyda channoedd o rai eraill, cawsom ein hunain ar drên arall.
Fel y gwyddost ti, mae 'na bapur arall yn y dre' 'ma, ond maen nhw wedi methu dwad â fo allan wsnos yma - pibell wedi byrstio yno a'r dwr wedi difetha'u papur nhw.
Roedd hyn yn drêt mawr i blant y Cwm oherwydd anaml iawn y doi danteithion fel hyn i'w cyrraedd.
Mae ceir wedi'u gwahardd o'r canol erbyn hyn gan adfer rhywfaint o awyrgylch canol oesol y dre farchnad - cyn teyrnasiad y brenin glo a dyfodiad diwydiannau alcam, olew a dur i waelod Cwm Nedd.
Yn y dre, mi aethon nhw i siop fawr a phrynu pump cadair newydd a phump gwely newydd.
Cynrychiolir Ceredigion yn y Senedd gan Aelod Seneddol Plaid Cymru ac mae caffis y dre yn llawn o bobl ifanc radicalaidd sy'n trafod syniadau gweriniaethol.
Os ydych chi am weld un o olygfeydd hardda natur sy wedi cael ei chreu gan law dyn, yna ewch i weld Cloc Blodau mewn parc neu mewn gardd gyhoeddus sy'n perthyn i dre fawr.
Mi godon nhw un fawr iawn yn 'dre' ac enw hir arni, Segontium.
Mae 'na drên sy'n cyrraedd yma am hanner awr wedi naw.'
Roedden ni'n aros mewn gwesty diseren yng nghanol y dre.
I fynd lawr i'r dre bu hi'n marchogaeth y tu ôl i Rowland hyd yma, ond heno roedd y ffrog felfed las o dan ei chlogyn merino yn rhy gwmpasog iddi fedru rhannu ceffyl â'i gūr yn gyffyrddus.
Mae hi reit i fyny yn dop y dre, a wedyn mi oedd raid i ni gychwyn yn gynnar, wrth bod 'na dipyn o waith cerddad.
Ar ôl cefnu ar drên Llundain - Caeredin, roedd yn rhaid cad trên yn perthyn i gwmni'r 'Highland Railway' ac roedd oriau i aros cyn bod hwn yn codi stêm i'w siwrnai.
Ei gartref ef a rhai o'i hynafiaid oedd Llwyngwychwyr, y ffermdy mewn cilfach gysgodol rhyw ychydig bellter i gyfeiriad Llanwrtyd o dre Cefn Alltwinau.
Petai chi'n symud i fyw i dre' Castellnedd rhyw ddydd, mae'n debyg na fyddech chi yn eich cartre' newydd yn hir iawn cyn clywed cnoc ar y drws ffrynt.
Ni ddaeth, a gorfu i ni neidio i drên oedd eisoes yn llwythog, a mynd i San Servito, tua chwe milltir i'r gogledd o'r dref.
Mi o'n i wedi meddwl cael mynd am dro i weld y dre, ond mae hi wedi deud na cha i ddim mynd os na fydd hi ne' rhywun arall hefo fi, rhag on i mi fynd ar goll.
Prynodd ūd a gwenith yn un o siopau'r dre i'w rhoi yn y cyntedd, a thalu drwy'i thrwyn amdanynt.
Picton Philipps, aeth dau drên drwodd yn ddidramgwydd.
Ond drannoeth, mi es i brofedigaeth - mi gollais fy mhysan, - a hynny yn y dre, lle y basach chi'n meddwl y baswn i ei hangan hi fwya.
'A rwan mae'n rhaid i chi gael lle i aros yn y dre 'ma, on'd oes?' meddai'r fam pan oedd y te drosodd.
Fel arfer, roedd peth ofn ar y myfyrwyr wrth feddwl am y lle: hogiau'r dre oeddynt - o Buganda.
`Cupar, Leuchars, St Fort, Dundee.' Rhestrodd enwau'r gorsafoedd wrth i'w drên ruthro trwy'r tywyllwch unwaith eto.
Fe ges fenthyg cyllell gan Nedi Pen-dre Hi naddiff fel nedde o chwith ac o dde Rhaid gwasgu'n bur gethin cyn torro bren crin Ni waeth iddi lawer y cefen na'r min.
Mi ddaru 'na ffrindia' i Anti Nel ddod yn ôl i ga'l cinio efo ni - mae hi'n governess ar blant yn un o dai mawr y dre' 'ma, ac mi ddaru Anti Nel fy warnio fi i fyhafio 'ngora'.
Yno, yn ffodus, roedd yna drên i gyfeiriad Llundain yn ein disgwyl a chyn pen chwinciad roedden ni yn ôl yng nghyffiniau Llandudno eto.
Ond wrth fynd heibio i stesion Caernarfon, dyma drên yn gollwng chwibaniad uchel, a'r ceffylau'n neidio ymlaen mewn dychryn.
'Fe elli weld cloc y dre'n hawdd o'r parc ...
Nid oedd yr enw 'Crewe' i'w weled yn unman rhag ofn i Hitler, mae'n debyg, ddod allan o drên a gweld ble'r oedd ac adnabod y wlad!
Ymddengys i Thomas Jones lunio cynllun cadoediad, lle byddai'r ddau drên a gyrhaeddodd nos Iau yn cael mynd trwy'r groesfan, pe byddai'r milwyr yn cilio i'r orsaf am bymtheng munud.
Os cofiwch chi, mi roedd tipyn o strach ynglŷn â'r ffilm wreiddiol (gyda Hywel Bennett yn y brif rhan) oherwydd bod trigolion yr Aber(ystwyth) go iawn yn poeni y byddai twristiaid yn ofni dod i'r dre o'i herwydd.
Digon yw cyfnodi i'r ddau fynd gyda'i gilydd i'r dre un bore Mercher a dychwelyd yn ŵr a gwraig.
Mi feddyliais wedyn y basa fo'n eitha peth pe taswn i'n cael pysan newydd tra oeddwn i yn y dre, ac mi es i mewn i ryw siop grosar i chwilio am rai.
Ac i ffwrdd â nhw i lawr y lôn i ddal y bws i'r dre.
Ysgrifennais adroddiad maith gan lunio stori am hen wraig oedrannus a oedd eisiau bod ym Mhwllheli yn fuan i ddal rhyw drên neilltuol a dweud fel 'roedd fy nghalon yn gwaedu trosti - hyn ynghyd ag esgusodion eraill.
Arhosodd y trên o'r neilltu am beth amser a dyma anferth o drên y Groes Goch yn mynd heibio'n araf.
Roedd y plant yn gorfod sefyll yr wythnos yn Aberhonddu, ac arferai bws rhyw fath o lori - ddod lan unwaith yr wythnos i fynd â nhw i'r dre'.' Er hynny, gwnâi'r athrawon eu gorau i ledu gorwelion eu disgyblion, gyda thripiau i Abertawe i ddangos y môr iddynt, neu i weld Cefn Brith.
Ac i ffwrdd _ nhw i lawr y l_n i ddal y bws i'r dre.
Nid oedd dewis ganddynt ond cydnabod goruchafiaeth y picedwyr, gwarchod y ddau drên ynghyd â theithwyr y Cork Express a waharddwyd rhag mynd ymhellach, ac ymuno yn y canu a'r difyrru a barhaodd ar hyd y nos.
Dyna pam i ni drefnu rali drwy'r dre yn galw am Ddeddf Iaith i'r Ganrif Newydd.
A thra oedd Jock a minnau'n dygnu arni yng ngwres llethol y prynhawn, ac yn chwythu mwg fel dwy injian drên ni allem lai na dyfalu ar ba antur y bu 'Gwep Babi' trwy gydol y bore.
Digon dirmygus oedd trigolion y dre o'n safiad.
A gwnaeth fenyn ac aeth ag eg i'r dre i'w werthu.
Yn yr Haf, byddai yn arwain grwpiau i droedio ar hyd llwybrau cyhoeddus i lefydd hanesyddol o amgylch y dre.
Mae hi'r ochr arall i'r dre,' meddai Cathy yn frwdfrydig.
Ond heno, fel Neuadd enwog y Dre', Gorsaf yr Heddlu ar geg New Street ac ambell un o adeilada' nodedig er'ill y Port, 'ei le nid edwyn ddim ohono ef mwy.' Er y gellir dod o hyd i rai o'i weddillion yn nhafarn y Ship hefyd!
Hoffai deimlo cynhesrwydd byw Barnabas yn symud oddi tani, ac ni ofidiai fyth am fod y ffordd i lawr o Frynmawr i'r dre yn rhy arw i gerbyd.
Dwi'n iawn rŵan, wedi cyrraedd yma, a gweld y dre mor brysur.
Cofiwch, 'doedd dim rhaid iddo fe wneud dim, ac roedd pob un yn meddwl y bydde Luned yn rhoi notis iddo fe'n syth ar ol angladd a mynd i whilo am waith yn y dre - fel y merched ifanc erill.
Bydd yr anlwc yn dod boed y bobl yn cerdded o dan y bont neu'n teithio mewn car neu drên.
Nawr, pe bawn i wedi oedi i ddarllen y print mân ar yr amserlen yn Euston, buaswn wedi gweld fod angen newid i drên arafach yn Crewe.