Yr oedd hyn yn brofiad digon diflas yn aml; llosgi ystafell mewn neuadd neu ysgol mewn pentref, penodi dyddiad a threfnu siaradwr; hwnnw weithiau'n tom'i gyhoeddiad ar y funud olaf ac nid oedd dim amdani ond mynd yno fy hun a chyhoeddi neges y Blaid cystal ag y gallwn Ni chaem fawr ddim cefnogaeth mewn aml ardal, ychydig a ddeuai i'r cyfarfodydd a drefnid - rhyw hanner dwsin a llai na hynny yn aml ac weithiau neb yn troi i fyny.
Dyma'r Rhyddfrydwyr hwythau'n penderfynu cefnogi Ymgyrch ond eu bod hwy am drefnu Cyfamod, fel yn Sgotland, yn hytrach na Deiseb, ac fe drefnid yr Ymgyrch a'r Ddeiseb gan y Blaid Ryddfrydol ei hun.
Yn y tridegau cynnar bu bri ar Ddosbarth Siaradwyr a drefnid gan Gangen y Brifysgol a Changen Dinas Bangor ac fe i cynhelid ar brynhawn Sadwrn mewn caffi ym Mangor Uchaf.