Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

drefnwyd

drefnwyd

` Yn fuan wedyn gwahoddwyd T. W. Jones, AS Meirion, a Goronwy Roberts AS i annerch cwrdd a drefnwyd gan y Pwyllgor Amddiffyn yng Nghapel Celyn.

Yr oedd y cyfarfod yng Nghaerdydd ddiwedd mis Chwefror yn un o gyfres o gyfarfodydd cyhoeddus a drefnwyd yn fuan wedi dechrau'r flwyddyn i wadu honiadau'r Dirprwywyr a'u tystion.

Yn drydydd, cystadleuaeth y Cartref Cymraeg a drefnwyd ar ran yr Eisteddfod ac a ddaeth â dimensiwn arall i lwyddiant a defnydd o'r iaith Gymraeg.

Ceisiai Project yr Armada, a drefnwyd gan Sydney Wignall, ddarganfod safle llongddrylliad Armada y gellid yn rhesymol dybio y byddai'n rhoi gwybodaeth inni am yr Armada na ellid ei chael o unrhyw ffynhonnell arall.

Unwaith y sylweddolodd na fyddai'n gallu dychwelyd i'w gwaith ar y dyddiad a drefnwyd, cysylltodd â chynifer o'i chyflogwyr ag y gallai i ymddiheuro, ac i gwyno am ei merch or-ofalus.

Y mae dwy ysgol yng Nghymru wedi ennill cyfrifiadur i-Mac DV mewn cystadleuaeth i ddylunio safle gwe a drefnwyd gan BBC Cymru'r Byd.

Tanlinellwyd swyddogaeth BBC Radio Cymru o feithrin talent mewn cynhadledd ym mis Tachwedd a drefnwyd gan BBC Cymru, a ddaeth â nifer o bersonoliaethau allweddol at ei gilydd i ystyried ffyrdd o ddatblygu'r sîn bop Gymraeg.

Poblogaidd dros ben oedd y teithiau ar nosweithiau'r Haf a drefnwyd gan Vernon Thomas, Coedrhyd, Pentwyn.

Yn y ddisg ddidoriad, hynny yw, pan fo'r ddau bad ynghlwm, fe drefnwyd y silia mewn parau.

Dyfarnwyd gwaith prosiect disgyblion Dosbarth I yn ail mewn cystadleuaeth a drefnwyd gan Lyfrgell Sir Gwynedd Adran Aberconwy ar gywaith yn ymwneud a'r Esgob William Morgan.

Yn yr Hen Destament cawn brotest gref yn erbyn cyfrifiad a drefnwyd gan y Brenin Dafydd.

Dechreuais fy ngyrfa pan osodwyd yr haul yn ei le, a'r bydoedd ar eu llwybrau o'i amgylch, pan wahanwyd golau ddydd oddi wrth dywyllwch nos, a phan drefnwyd a tymhorau i ddilyn yn eu tro.

Rhwng y Cyngerdd a Raffl a drefnwyd gwnaed elw o dros pedwar cant a phedwar deg o bunnau tuag at Cronfa'r Ysgol.

Mewn cyfarfod cyhoeddus drefnwyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yng Ngwesty'r Angel Caerdydd nos Fawrth Mai 16eg - cyfarfod i lansio deiseb Cymdeithas yr Iaith Gymraeg dros Ddeddf Iaith Newydd, deddf a fyddai yn rhoi statws swyddogol i'r Gymraeg - fe gafwyd cefnogaeth gref gan Elin Jones, llefarydd Plaid Cymru ar yr iaith Gymraeg, a Christine Humphreys ar ran y Rhyddfrydwyr Democrataidd.

Ffodd Melangell i Gymru er mwyn osgoi priodas a drefnwyd gan ei thad yn Iwerddon.

Cystadleuaeth a drefnwyd gan y Cyngor Llyfrau ar gyfer clybiau ieuenctid er hybu gwerthiant llyfrau Cymraeg.

Erbyn hyn fe drefnwyd dosbarthiadau mewn llawer mwy o brofion megis Cneifio, Godro, Mower, Maentumio Tractor, Defaid, Gosod Clwyd, Clawdd Sych a Chodi Gwrych i'r bechgyn, ac yna, Trin Cyw, Addurno Teisen, Crasu, Golchi a Smwddio, Picls a Saws i'r Merched, ac fe ddaeth ffrydlif o fathodynnau aur ac arian i aelodau'r Sir.

Hyd y gwyddom hwn fydd y tro cyntaf i aelod amlwg o'r Blaid Geidwadol i gytuno i siarad mewn cyfarfod a drefnwyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Daliaf i gofio'n arbennig am yr ymadrodd a ddefnyddiwyd droeon ar lafar gwlad i ddisgrifio'r hen sustem greulon, galon-galed a drefnwyd o'r Kremlin: 'Dyw Moscow byth yn wylo.'

Bore trannoeth cerddai yn ôl ac ymlaen y tu allan i'r siop, gan feddwl y byddai'n cael dechrau am hanner awr wedi chwech er mai hanner awr wedi saith oedd yr amser a drefnwyd.

Ni all y Mail gychwyn drachefn i sylweddoli gweledigaeth y Time Table heb y grym a drefnwyd ar ei gyfer.

Bydd hwn yn gyfarfod hanesyddol gan mai dyma'r tro cyntaf i aelod amlwg o'r Blaid Geidwadol siarad mewn cyfarfod a drefnwyd gan y Gymdeithas.

ni olygai hynny eu bod yn gwrthwynebu rhyfel fel y cyfryw, ac arwydd o hynny oedd y dathliadau a drefnwyd ganddynt ar ôl buddugoliaeth prydain ym mrwydr mrwydr.

Nododd un mai'n fras iawn, mewn cyfarfod a drefnwyd gan gydlynydd y sir yn unig, y cafwyd cyfle i drafod y deunydd hwn.

Ehangwyd y cylch mewn cyfarfod a drefnwyd gan Awdurdod Lleol Swydd Gogledd Efrog.