Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dreftadaeth

dreftadaeth

Pan aeth Sam i'r ysgol, yr oedd y pethau hyn (Ci Drycin, Y Ffynnon Oer, yr Hen ~r) yn rhyfeddod i blant y pentref ac yntau o'r herwydd yn ymchwyddo'n arwr ac yn meddwl mwy o'i dreftadaeth nag erioed.

Yr wyf yn cofio mai'r Parchedig Eric Grey, rheithor Brechfa, Abergorlech, a Llanfihangel Rhos-y-corn ar hyn o bryd, a'n derbyniodd i'r maes parcio ceir, ac imi lawenhau o sylweddoli ei fod yn ŵr mor gyfrifol yn ei berthynas â'i dreftadaeth genedlaethol.

Penderfynodd Cyngor Bwrdeistref Ynys Môn brynu'r casgliad unigryw hwn o luniau fel eu bod yn cael eu cadw'n rhan o dreftadaeth yr ynys.

Trwy gyfuno natur, hanes, archaeoleg, diwydiant, a hyd yn oed broblemau llygredd, fe gre%ir darlun byw a chyflawn o dreftadaeth Ynys Môn.

Oherwydd iddo barchu treftadaeth ei ardal y mae'n parchu'r iaith a chrefft y llenor: myn hefyd fawrygu ac amddiffyn ei dreftadaeth, a diddanu ei gyfeillion, a chofnodi'i edmygedd o'i etifeddiaeth hen.

Pan fabwysiadwyd llyfrau'r Hen Destament gan yr Eglwys Gristionogol yn dreftadaeth iddi, wrth gymryd yn ganiataol fod parhad rhwng crefydd yr Iddewon a Christionogaeth, fe dderbyniodd yn rhan bwysig o'r dreftadaeth honno y syniad Iddewig mai diben Duw yn cael ei weithio allan mewn amser yw hanes.

Pont yw'r adran hon sy'n mynd â Geraint a'i wraig i Gernyw, ei dreftadaeth a'i deyrnas ei hun, a pharatoir y llwyfan, fel petai, ar gyfer y wir stori, ymddieithrio'r arwr oddi wrth ei wraig a'r cymodi ar y diwedd.

Mae hi'n rhan o dreftadaeth ddiwylliannol pob un yng Nghymru, yn wir ym Mhrydain, yn Ewrop a thu hwnt.

Fe fyddai yntau'n sôn am ryddid, ond nid eu rhyddid hwy eu dau a fynnai ef ond rhyddid i'r Cymry wneud yr hyn a fynnent â'u treftadaeth; yr oeddent hwy eu dau yn Gymry, a pha fath o dreftadaeth oedd ganddynt?

Gwinllan a roddwyd i'm plant ac i blant fy mhlant, yn dreftadaeth dragwyddol.