Ni fyddai dreifwyr yr SSB (tripiau) yn fodlon datgelu eu gwybodaeth i'r un o'r dreifwyr eraill.
'Uw,' meddai Robin, 'dwi wedi dreifio loris mawr, mwy o hyd na'r bysys 'ma o lawer.' Erbyn heddiw, mae'r cwmni yn dysgu dreifwyr cyn eu rhoi ar brawf, ond nid felly'r adeg honno ac i mewn â Robin gyda'r fforman a'r profwr.