Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

drewllyd

drewllyd

Drewllyd braidd ydi'r llosgfynydd hefyd gyda labordy cemeg a wyau drwg dod i'r cof yn syth.

Y gamp fwyaf, fodd bynnag, yw peidio â rhoi eich traed yn y tail drewllyd sy'n britho'r grisiau cerrig.

Gan glymu un pen i'r rhaff o gwmpas boncyff coeden gollyngodd ei hun i mewn i'r twll du, drewllyd.

Archebu llond lle o fwyd, pysgod, crancod, chou doufu (tofu drewllyd, arbenigedd talaith Hunan ac un o hoff fwydydd Mao yn ôl pob sôn) a phob math o lysiau.

Dringodd nifer o'r morwyr i lawr atynt, penderfynodd y capten ac Ibn eu bod hwythau hefyd ag awydd rhoi troed ar dir sych wedi wythnosau ar fwrdd drewllyd y llong a blas yr heli ar bob dim: 'Lle ydan ni?' Ibn ofynnodd y cwestiwn wrth wylio'r lan yn nesa/ u: 'Tuscani.' Atebodd un o'r morwyr cyn ychwanegu: 'Dwi'n meddwl.' Ond doedd Ibn ddim callach.

"Eithr rhyw Samariad, wrth ymdaith, A Ddaeth Ato Ef." Torrodd Cyllell ei gariad mwyaf cu drwy chwyd fy chwerwedd, a rhedodd allan grawn drewllyd.

Rhedai o gwmpas mewn cylch a'i drwyn ar y ddaear, ond pan âi'n rhy agos at y pysgodyn drewllyd roedd yn ysgwyd ei ben ac yn tisian drosodd a throsodd lawer gwaith.

Os oedd crawn drewllyd ar glwyf ar y coesau berwid dail derwen mewn gwin gwyn neu goch a'i roi ar y clwyf.