Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

driniaeth

driniaeth

Câi Meyrick driniaeth gyffelyb.

Pa un âi'r driniaeth oedd wedi ei achosi neu'r ffaith fod cancr y prostad arno, ni wn.

Ni fyddai'n cymryd tâl nes ei fod yn siwr fod y driniaeth wedi bod yn un lwyddiannus.

Y mae'r ffigwr yma ddengwaith uwch nag y byddai rhywun yn ei ddisgwyl ac ugain gwaith yn uwch na'r canlyniadau gorau gyda'r math yma o driniaeth.

Heb driniaeth (sef dognau beunyddiol o cortison, neu gyffur tebyg) ceir llesgedd a nychdod, ansefydlogrwydd emosiynol, difaterwch ac iselder ysbryd.

Rhydd i'r deunydd hwn driniaeth y nofelydd: clywn leisiau'r bobl yn siarad; gwelwn gymeriadau unigol yn cerdded ar hyd caeau a heolydd yr ardal; ac felly deallwn hwy yn eu perthynas â'r byd yn ei agweddau cymdeithasol, masnachol, crefyddol.

Dyma wlad o'r fath dlysaf - gwlad wedi bod unwaith, y mae yn amlwg dan driniaeth uchel; palasau a ffermdai mawrion ar bob llaw i mi, ond heb neb yn byw ynddynt - eu ffenestri yn yfflon, y muriau o'u cwmpas wedi syrthio, y perllanau mawrion a'r gerddi yr un ffordd â'r meysydd, a'r meysydd yn anialwch.

Crefaf mai diddorol yw gweld y gwahaniaeth rhwng ei driniaeth ef o'r pwnc a'r hyn a geir mewn llawer o lyfrau cyffelyb yn Saesneg.

Ni chawsom yr un driniaeth, er bod yn rhaid i ni agor cist y car a dangos pob llyfr oedd gennym.

Mae rhagor o brofion wedi dangos bod angen mwy o driniaeth arno.

Doluriau meddygol ydynt ac y mae'r driniaeth yn dibynnu ar yr achos.

Un canlyniad i hyn yw nad yw llawer ohonynt yn cael digon o brofiad ac o hyfforddiant i feithrin y medrusrwydd angenrheidiol, yn enwedig yn y mathau o driniaeth sydd yn gymhleth ac yn arbenigol.

Câi driniaeth mewn ysbyty ar ôl pob curfa, ond nid oedd dim tynerwch i'w gael yn y fan honno ychwaith--mae'n disgrifio fel y câi ef, a rhyw ugain o ddynion eraill oedd yn dioddef gan effeithiau fflangellu, eu gyrru fel anifeiliaid gwylltion i'r môr bob bore er mwyn i'r dwr hallt losgi'r briwiau.

Os yw llawfeddyg yn gweld bod gwir angen am driniaeth lawfeddygol anodd, cymhleth a pheryglus ar y claf, a honno'n driniaeth nad oes ganddo fawr ddim profiad ynglŷn â hi, yna dylid, ar bob cyfrif, danfon y claf at lawfeddyg arall sydd wedi arbenigo yn y math yma o driniaeth.

Mae Robbie Savage yn gobeithio chwarae ei gêm gynta i Leicester City ers iddo gael llaw-driniaeth i'w benglîn lai na thair wythnos yn ôl.

Ac er bod Paul, y Sais, yn dod o dan lach yr awdur a Harri, ac weithiau'n fflipant ei sylwadau ynglŷn â'r Cymry, mae ei driniaeth ef o Greta yn wahanol iawn i driniaeth Wil o Sali, a thriniaeth Terence, ar un adeg, o Sheila.

Ni fu unrhyw niwed i'r planhigion laswellt er y driniaeth gynnar yma, ond teg ychwanegu hefyd na fu rhew yn fy ardal i ar ochr orllewiol penrhyn Llþn, ac ar yr arfordir, eleni.

Ni chefais i'n bersonol ddim profiad o'r driniaeth, ond deallaf ei bod yn un araf a maith.

O dan amgylchiadau o'r fath, gall y siawns o farw o dan y driniaeth fod cymaint â deg gwaith yn uwch nag y byddai o dan amodau mwy ffafriol.

Nes y ceith plaid Cymru driniaeth deg a chyfartal â'r pleidiau Prydeinig -- yma yng Nghymru o leiaf -- anodd gweld y Blaid yn torri trwodd yn fuan trwy Gymru.

Ond fel gweddill pobol anabl yr ynysoedd hyn mae Sian Frost bellach wedi cael llond bol ar driniaeth eilradd.

Dylai hyn, o ddyfalbarhau yn y driniaeth, sicrhau ynddo atgasedd cymwys tuag at bridd a baw.

Ar derfyn y driniaeth 'roedd Pengwern wedi rhoi cusan iddi am ei bod yn gorfod gwneud gorchwyl mor

Cafodd Bowser y gair o fod yn gymydog caredig a rhadlon ond tuag at ei deulu mynnodd ddisgyblaeth haearnaidd ac erys hanes y driniaeth a gafodd Elisabeth ganddo yn staen annileadwy ar ei gymeriad o hyd.

Mae Hywel Teifi Edwards hefyd yn gweld gwersi yn y driniaeth o'r glowyr.

Trwy nerth ewyllys a phenderfyniad di-ildio, llwyddodd i gadw'r droed faluriedig a dyfod drwy'r driniaeth yn ddiogel.

Ceir llawer math o driniaeth i'r dolur ac mewn ambell ardal yng Nghymru ceir ennaint wedi ei baratoi yn ôl cyfarwyddyd arbennig.

Ac ni thaflwyd yr un rheolwr, pa mor filain bynnag y bu ei driniaeth o'r gweithwyr, allan ar y clwt.

Dydy'r anaf i'w bigwrn ddim yn gwella er gwaetha'r driniaeth.

Y tro cyntaf gweithredais dros Gymdeithas yr Iaith, daeth y galwad o ddyn a oedd wedi'i ddal am drosedd gyrru, ac roedd e am brotestio am dderbyn yr un fath o driniaeth.

Un golofn yn cynnwys ymadroddion yr oeddwn yn gwbl hapus a'r ffordd y cawsant eu trin; colofn arall o driniaeth dderbyniol ond y gellid fod wedi ychwanegu ati a thrydedd colofn gydag ymadroddion yr oeddwn yn anghydweld a'r driniaeth ohonynt.

Cyn pen hir a hwyr ac ar ôl cael cynnig pob math o driniaeth ddrud cafodd Kate y ddos gyntaf o acupuncture mewn ystafell oedd digon tebyg i ystafell gwesty.

Roedd y driniaeth yn cynnwys arllwys yr eli ar ran go deimladwy o'r corff, a losgai am oriau wedyn!

Dywedodd Dr Roberts fod nifer yn peidio â mynd at eu meddygon oherwydd pryder am y driniaeth.

Ar ôl llaw-driniaeth echdoe maen awr yn sicr y bydd Taylor mâs am o leia chwe wythnos, ac fe allai fod mâs am gymaint â thri mis.

Ac mi gafodd dyn 81 oed ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan am driniaeth ar ôl damwain rhwng car a thractor rhwng Rhuthun a'r Wyddgrug.

Dai Smith, Pennaeth Darlledu Saesneg, BBC Cymru Ehangodd Going Continental driniaeth BBC Cymru o'r Uwch-gynhadledd Ewropeaidd yng Nghaerdydd i gynnwys safbwyntiau, personoliaethau a barnau gwahanol.

Roedd Poppea yn driniaeth arloesol - mewn pum rhan - o Coronation of Poppea Opera Genedlaethol Cymru gan Monteverdi.

O'm profiadau gyda Chymdeithas yr Iaith, roeddwn i wedi cymeryd bod y frwydr am driniaeth deg wedi'i ennill, o leiaf, yn y llysoedd.

Mae 800 yn fwy o bobol o'u cymharu â mis yn ôl yn aros am driniaeth.

Y boen yn ormod iddo fo mae'n debyg." Safodd y pump ar y bont i wylio'r llanciau'n cael eu cario i'r ambiwlans er mwyn mynd i'r ysbyty am driniaeth.

Mae'n driniaeth syml os ydy'r cancr yn cael ei ganfod yn fuan.

Crewyd y broblem yn wreiddiol gan driniaeth ddifeddwl Pwyll o Wawl fab Clud.

Gwaith Angela fydd helpu doctoriaid i ddatblygu cofrestrau afiechydon i sicrhau y bydd cleifion sy'n debyg o ddiodde o glefyd y galon yn cael y driniaeth orau bosib," meddai.