"MAE'N senario drist ac erchyll ac mae'r digalondid yn gallu arwain at chwilio am gysur mewn potel neu bot gliw.
Yr oedd hyn i gyd pan oedd Alun Oldfield Davies yn Rheolwr rhadlon yng Nghaerdydd a Hywel Davies twymgalon a disglair, a fu farw mor drist o gynamserol, yn Bennaeth Rhaglenni.
Mae stori drist yn gysylltiedig â'r gystadleuaeth.
Ond prin y gellid disgwyl i Gymro ifanc tair ar hugain oed, ar dân o frwdfrydedd tros ei egwyddorion crefyddol, sylweddoli fod y rhod yn troi ac y byddai ei dynged ef ei hun yn dystiolaeth drist i effeithiolrwydd yr adwaith o dan John Whitgift.
Dyna drist fod arwydd o gymdogaeth glo\s yn rhywbeth i synnu a rhyfeddu ato yma.
Edrychais yn drist ar y glaw di-baid.
Yr oedd y ffrae hon braidd yn drist oherwydd yr oedd y teulu'n prysur ymsefydlu fel prif noddwyr y blaid brotestannaidd fwyaf blaengar yn Nyfed.
Bu'r llyfr yn foddion i'm hatgoffa o'r newydd fod rhywbeth reit drist o gwmpas gyrfa Christmas Evans.
Roedden nhw bob amser yn wir, a byddid yn gofyn amdanyn nhw gyda rhyw foesgarwch parchus, ac roedden nhw bob amser yn drist.
Yr oedd y peilotiaid eraill yn drist iawn wrth feddwl na châi o chwarae rygbi na llywio awyren byth wedyn.
Ond y mae'n drist sylweddoli fod llawer hyd yn oed ohonynt hwythau'n bygwth digalonni ac yn mynd yn ddi-ffrwt.
Siaradodd Ef â mi yn nyfnder fy enaid: 'Pam wyt ti'n drist?' ebe Ef.
Yr oedd yn drist gweld y dirywiad yn ei wedd mewn pum mlynedd.
Nos Sadwrn a bore Sul fen llethwyd unwaith eto gan yr olygfa drist o Gymru yn dathlu methu ag ennill gêm bêl-droed arall.
Dywed y bardd fod y sefyllfa drist a fodolai yn peri loes iddo ef a'i deulu.
Mae'n drist meddwl na chaiff merched godre Ceredigion arlwyo gwledd ar gyfer y tywysog mwyn byth mwy ar ben yr odyn yng Nghwmtydu.
Aeth gweddill y pnawn heibio fel pob pnawn Llun arall, ac os oedd rhyw olwg drist ar wyneb eu hathrawes ni ddaeth i feddwl yr un plentyn mai o'u hachos hwy y tarddodd y tristwch hwnnw.
Yn drist iawn bu farw llawer o bobl.
Nodyn chwerw-drist a glywir yn y geiriau, a daw i gof linellau clo cerdd arall gan R.
"Ffrainc?" yn drist, drist, a gwefr y noson yn cael ei dwyn oddi arni.
Yr hyn syn drist ynglyn â phedwar peint ar ddeg y noson William Hague yw nid y ffaith iddo fod yn eu hyfed pan yn llanc ifanc ond ei fod on awr yn teimlor angen i ymffrostio am hynny.
Gobeithiai na fyddai'n rhy drist yn y dawnsio cyn y Plygain, ond doedd dim dichon dweud y dyddiau hyn.
Mae ffrindiau o'r farn fod rhywbeth yn drist yn y ffaith fy mod i'n meddwl fod dillad M&S yn rhy trendi - ond peth arall ydi hynny.
Daeth y meddyg, syllodd yn drist arni a daeth ataf i ystafell arall gan ddweud: Mae'n ofnadwy o ddrwg gennyf am hyn ond peidiwch â disgwyl medru cadw'r beth fach lawer yn hwy." "Fedrwch chi ddim rhoi rhywbeth bach i godi ei stumog?" gofynnais ymhen ysbaid.
Yn nhawelwch y Lotments un noswaith, a'i hoff arddwyr o'i gwmpas yn drist eu hwynebau ac yntau'n dal clamp o wnionyn braf yn ei law, cymerodd y Brenin Affos lw y gwnai ei orau i gadw'r wnionyn a'r Lotments rhag dinistr dan law'r datblygwyr.
Roedd y sefyllfa'n drist ond, fel y dengys yr Athro Glanmor Williams, ceir tystiolaeth i rai eglwysi oroesi Oes y Normaniaid.
Rwyn teimlon drist iawn oherwydd hynna.
"Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau% Dirwynai'r angladd yn araf ar hyd llwybr cul mynydd fel sarff drist ar ei thor.
Hen stori drist o gyfarwydd sydd yma am ferch ifanc, ddiniwed braidd yn ‘gwirioni' ar y cariad cyntaf.
Dyma olygfa drist.
drist i'w bersonoliaeth.
Doedden nhw, yn eu tro, yn gwneud dim ond ysgwyd eu pennau'n drist i gydnabod hyn.
Paham wyt ti'n drist?'
Cyfres o chwedlau enwocaf Cymru yw'r Mabinogion, ac yn un ohonynt ceir hanes Branwen ferch Llŷr, a'i phriodas drist â Matholwch brenin Iwerddon.
Teimlai pawb yn drist iawn wrth wrando geiriau'r Prif Weinidog - yn enwedig yr hen bobl - oedd yn ddigon hen i gofio'r Rhyfel Byd Cyntaf - hwnnw hefyd rhwng Prydain a'r Almaen.
mae'r lluniau trawiadol o drist a welir ar y tudalennau sy'n dilyn yn darlunio eu sefyllfa enbydus.
Fydd gen i ddigon o nerth i ddal i nofio o gwmpas yn araf a chadw'n fyw tybed?" meddyliodd Douglas yn drist.
Wrth iddi adael y ward yn drist penderfynodd Mrs Parker fynd at y ddesg unwaith yn rhagor i holi a oedden nhw wedi cael unrhyw newydd pellach.
"Ac yn waeth fyth, maen nhw'n disgwyl i ddyn heb goesau ein harwain ni!" meddai un yn drist.
Cododd e lan a syllu arno yn drist.
Mae'r hanes yn rhy wybyddus ac yn rhy drist i'w ailadrodd.
Yn fwy na dim, cyflwynir ni yn y Cofiant hwn i dynged drist a droes asbri a direidi llanc ifanc yn y diwedd yn dorcalon.
Llawn mor drist oedd y ffaith na ddylsai'r trychineb erioed fod wedi digwydd.
Roeddwn yn gadael y perfformiadau'n teimlo'n drist, yn teimlo fel petai'n ddiwedd cyfnod.
Dymuna'r teulu ddatgan eu diolch cywiraf am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a estynnwyd iddynt yn ystod eu profedigaeth drist.