Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

driw

driw

Bu'r cyfuniad o onestrwydd ac unplygrwydd a'r penderfyniad diysgog i gadw'n driw i'r ddelwedd ohoni ei hun heb geisio cyfaddawd â neb yn wrthwenwyn effeithiol i'r wên ffals'.

Hyd yn hyn maent wedi aros yn driw i'r ethos gwreiddiol o recordio'r hyn y maent yn ei hoffi eu hunain, heb gael eu temtio gan arian mawr cynnyrch mwy poblogaidd.

Canlyniad hyn yw y medr yr awdurdodau gyflwyno pob math o reolau newydd, megis gofyn i athrawon dagw ffeil bersonol ar bob un o'u disgyblion, gan wybod na fydd unrhyw wrthwynebiad o du'r athrawon rhag ofn i hynny gael ei ddehongli fel amharodrwydd i fod yn driw i'r cyfansoddiad.

Bu'n driw i'w air a chyn hir roeddem yn glanio ym Muscat, prifddinas Oman.

Mae'n arwyddocaol fod Ankst eu hunain yn awyddus i'w cymharu eu hunain â charfan o gwmni%au annibynnol Lloegr sydd yn y maes heddiw - cwmni%au fel Too Pure, ClawFirst a Rough Neck, sy'n rhyddhau 'miwsig blaengar' ac sy'n driw i'r ethos annibynnol.

mae'r rhaglen Dan yr Wyneb yn driw i'w henw.