Yn ôl yr arfer hwn byddai swyddogion carchar yn gwthio tiwb dwy droedfedd o hyd drwy drwynau'r carcharorion.
O fabwysiadu'r dull hwn, dylid gadael gofod o ddwy droedfedd rhwng pob planhigyn.
Malwyr y gelwid y dynion hyn; yr oedd ganddynt ordd fawr yn pwyso rhywbeth o un pwys ar bymtheg i un pwys ar hugain; math o erfyn oedd hwn a chanddo un pen fflat a'r pen arall wedi ei finio, a choes bren ryw ddwy droedfedd o hyd iddo.
Ar ôl clymu'r wifren wrth ei gar yn ddiogel edrychodd y ffrind tuag at y wal un droedfedd ar ddeg o uchder yn bryderus.