Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

droes

droes

Dyna ran o arwyddocad parodi Williams Parry ei hun ar ei awdl fawreddog, 'Yr Haf.' Yn 'Yr Hwyaden' y mae'n gwneud sbort am ben y confensiynau hurt a ddaeth i ffasiwn yn sgil 'Yr Haf': y macwyaid, y brodyr gwyn a du, holl gyfarpar yr awdl ramantaidd, a droes yn amherthnasol i'r oes.

Hawdd canfod, fellym y gallai'r blynyddoedd hyn fel ffoadur mewn gwlad bell fod wedi cryfhau'n rymus y dylanwadau blaenorol hynny a droes Richard Davies yn Ddiwygiwr eiddgar.

Cafodd afael ar ei dors a phan droes y golau ymlaen gwelodd bod cobras gwenwynig o'i gwmpas ym mhobman.

Er mwyn dathlu'r cof, roedd yr Arlywydd Vytautas Lansbergis, cerddor a droes yn wleidydd, wedi trefnu cyngerdd swyddogol yn yr Opera, y palas celfyddydol moethus a godwyd, medden nhw, am fod Brezhnev unwaith wedi'i addo yn ei feddwdod.

Mae gwyddonwyr modern wedi datrys dirgelwch y dynion a droes yn fleiddiaid - caed yr ateb mewn rhywbeth mor ddiniwed â gwenith, haidd a barlys.

Hyd hynny, paganiaid oedd y Prydeinwyr ac yn wir, gan mai ychydig ohonynt a droes at y grefydd newydd, paganiaid a fuont am amser.

Pregeth nid llyfr a droes Theomemphus a'i awdur o'u hen ffyrdd.

Ond pan droes yn ôl ataf fi yr oedd yn gwenu unwaith eto.

Yn fwy na dim, cyflwynir ni yn y Cofiant hwn i dynged drist a droes asbri a direidi llanc ifanc yn y diwedd yn dorcalon.