Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

droseddu

droseddu

Er bod cyfran fechan o'r troseddwyr a alltudiwyd i Awstralia yn ddihirod arswydus, rhaid cyfaddef fod y mwyafrif ohonynt wedi eu cymell i droseddu gan gyflogau isel, gan ddeddfau gorthrymus, safonau byw gwael, diweithdra achlysurol a diffyg addysg.

Mae'r aelodau i ddatguddio'n onest eu pechodau, i gydnabod daioni a gogoniant Duw, i siarad yn ddiweniaith â'i gilydd ac i gymryd eu ceryddu os digwydd iddynt droseddu.

Y chwaraewr a wynebodd y gosb honno dan law'r dyfarnwr, Meirion Joseph, oedd asgellwr Pen-y-bont, Doug Schick, am iddo droseddu yn erbyn Andy Hill, a hynny pan oedd yr ymwelwyr yn ennill o dri phwynt i ddim.

Awdurdodwyd y Prif Swyddog Cynllunio mewn ymgynghoriad â Chyfreithiwr y Cyngor i erlyn mewn achosion clir o droseddu dan y ddeddf uchod i'r dyfodol ac i gymryd unrhyw gamau angenrheidiol ar ran y Cyngor yn deillio o hynny.

"Yn nwylo'r bagad o bregethwyr a chlerigwyr, yn gystadleuwyr a beirniaid, a'i cynhaliai ni allai'r eisteddfod lai na bod ar bob gwastad, yn sefydliad ymatalgar a byddai'n annichon i feirdd a llenorion y dosbarth gweithiol a fynnai 'ymddyrchafu' drwyddi droseddu yn erbyn chwaeth...