Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

drowsus

drowsus

Byseddodd defnydd cras ei drowsus a cheisiodd ddychmygu mai jîns oedd ganddo am ei goesau.

'Wyddai Odo ddim am y bataliwn o forgrug a oedd, yr eiliad honno, yn cynnal mabolgampau y tu fewn i goes ei drowsus.

Nid oedd golwg am ei drowsus na'i esgidiau, na'i sgarff.

O dan ei bennau gliniau cydiwyd ffriliau ei drowsus gan rubanau gwyrdd.

Bu rhwyg o'r tu mewn i ran uchaf ei drowsus ers pythefnos heb iddo geisio rhoi tamaid o edau ar ei gyfyl.

Gwisgai drowsus llwyd a siaced lwydlas, crys gwyn a thei las.

Chwipiai gwynt Ebrill dros Lyn Ogwen gan godi croen gþydd ar fy nghoesau wrth i ni gymeryd y camau cyntaf tua'r cwm - roedd gen i drowsus hir yn y sach cefn rhag ofn!

A oes rhywrai'n cofio amdano mewn dosbarth nos ym Mhreselau ac yntau wedi'i wlychu at ei groen, yn darlithio yn ei drowsus (a'i grys yn sychu ar wresogydd)?

Gwawriodd y gwir ar Willie; tyrchodd i boced ei drowsus a dod o hyd i chwechyn a'i daro ar gledr ei law.

Gwisgai drowsus glas golau ac edrychent yn dda arni.