Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

druenus

druenus

Teimlwn yn druenus iawn y noswaith honno.

Stafell druenus gydag un nodwedd arbennig - ei bod yn anhygoel o lân.

Bu farw'n dlotyn wedi oes fer o gynllunio a dyfeisio er lles yr ardal ac ar y diwedd roedd yn druenus ei weld yn ceisio bodoli ar yr ychydig bres a gai oddi wrth Urdd y Seiri yn Llundain.

Posibilrwydd eithaf hyn fyddai trawsnewid y gwledydd sydd heddiw yn druenus o dlawd i fod yn fasnachwyr goludog y dyfodol.

Er hynny i gyd, 'rydw i'n fodlon cyfaddef y gall chwerthin fod yn llesol ac y byddai'n o druenus arnom hebddo.

Y mae ein calonnau yn gresynu, a'n gwaed Cymroaidd yn ymferwi o'n mewn, pan ystyriwn fod yn mysg puteiniaid trefydd Lloegr liaws mawr o ferched glandeg Cymru, y rhai a fagwyd yn dyner gan deuluoedd crefyddol ar lethrau ei mynyddoedd, ond y rhai sydd yn awr yn dilyn bywyd pechadurus a gwir druenus puteiniaid cyhoeddus; .

Bu farw'n dlotyn wedi oes fer o gynllunio a dyfeisio er lles yr ardal ac ar y diwedd roedd yn druenus ei weld yn ceisio bodoli ar yr ychydig bres a gai oddi wrth Urdd y Seiri yn Llundain.YR OES OLEUEDIG HON...?

Pe gadawent eu gwersyllfa druenus a'r ffynnon ger y balmwydden, marw o syched fyddai eu hanes; ped arhosent, marw o newyn.

Efallai bod rhai gwleidyddion, gohebwyr, gwylwyr a gwrandawyr wedi diflasu ar etholiadau'n gyffredinnol eleni, ond roedd ansawdd yr apêl agoriadol yn yr ornest Ewropeaidd yn druenus.

Pan ddaethom yn ein holau i Vasto, yr oedd golwg druenus ar y villa.

Cynddeiriogai wrth weld cannoedd o Gymry ifainc yn gorfod byw mewn tai afiach, bwyta ymborth pitw a derbyn cyflog druenus o fach am eu llafur hirfaith a chaled.

John Jones adref ar nos Sul wedi cael oedfa druenus.

Datganai'r ci ei nwydau hir yn druenus ar gefn ambell leuad.

Udodd yn druenus pan welodd hi gymdeithion Chernysh.

Ond nid mor druenus, efallai nar rhai hynny nad oes ganddyn nhwr ynni am ryw nar arian i fforddio golffio.

De minimus non curat lex. Nid estyn y Llywodraeth fys i achub lleiafrif sy mor boliticaidd aneffeithiol, mor druenus ddihelp, mor anabl i'w amddiffyn ei hun ag yw'r lleiafrif Cymraeg yng Nghymru.