Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

drugaredd

drugaredd

Bustachodd tua phyrth yr orsaf, heb wybod yn iawn i ba gyfeiriad i droi, a thrwy drugaredd fe'i cafodd ei hun wedi ymuno a chwt a ddisgwyliai am dacsiau.

Trwy drugaredd, roedd hi'n ddydd Sul a gallai guddio'r symtomau oddi wrth ei rieni.

Mi fuo'r arglwydd Gruffudd yn rhy hir yng ngharchar Degannwy..." "Mab naturiol ein Tywysog..." "O waed pur Cymreig..." "Yn byw fel gwr bonheddig ers chwe blynedd bron yng ngharchar Degannwy a Sinai'n gywely iddo!" Chwerthin amrwd wedyn nes i rywun eu hatgoffa y byddent at drugaredd yr Ymennydd Mawr a'r Gwylliaid pe rhyddheid yr arglwydd Gruffudd.

Ni raid i mi ofyn pryd ddiwethaf y gwelsoch chi blant deuddeg oed yn codi cyn y wawr i wisgo amdanynt yn y tywyllwch er mwyn mynd i weithio poncen chwarel, achos drwy drugaredd ni welsoch hynny erioed.

Wrth fwrw ymaith yr iaith a'r hen sicrwydd, fe'i cafodd Huw Menai ei hun fel llong ar drugaredd y byd - yn enghraifft drawiadol o beryglon newid diwylliant yn rhy sydyn.

Felly, a yw'r criw yn mentro colli ffilmiau na ellir eu hadfer trwy eu rhoi ar drugaredd yr adnoddau sy'n bodoli neu a ydynt yn dewis bod yn ofalus trwy ddod â'r holl ffilm adref heb ei datblygu?

Trwy drugaredd ddaeth gŵr heibio i roi llaw o help.

Mi fuo jest i mi gael fy ngeni yn l.RA, ond trwy ryw drugaredd mi ddaeth fy mam i Benmaenmawr i roi genedigaeth imi.

O fwd moroedd Bermiwda, ys dywed Euros Bowen yn ei gerdd iddynt, mae'r leptocephalii yn esgor ac esgyn i wyneb y tonnau ac yn cychwyn ar drugaredd Llif y Gwlff.

Yno byddent mewn perygl o gael eu lladd, ond dyna'r unig le lle'r oedd rhyw obaith am fwyd, os caent drugaredd.

Na thybygwch fod drws y drugaredd wedi ei gau yn eich erbyn tra fo anadl ynoch ac ewyllys i ddychwelyd.

Mynegodd ef ei argyhoeddiad, a'i ddilyn gan bob beirniad o bwys, mai'r bardd yw'r un â'r gallu ganddo i feddwl yn drosiadol, i glymu dau argraff efo'i gilydd yn undod clos - i weld henaint yn ddeilen grin ar drugaredd gwynt, i weld bedwen yn lleian, i glywed cân ceiliog yn y pellter yn dristwch mwyn hiraeth, i deimlo yn hen gapel gwag, i droi Angau yn weinidog yn dod i'w gyhoeddiad.

Trwy drugaredd, cofiai ei gosod ar ben postyn llidiart Tandisgwylfa.

Ym mis Mai eleni, hedfanodd Aled i Iran i dynnu lluniau'r Cwrdiaid oedd yn llifo allan o Irac, o afael erlyn di-drugaredd Saddam Hussein.

Mi ddôth y dyn llyfr bach ata i ar ddiwedd yr oedfa bore Sul a dweud wrtha i yn blwmp ac yn blaen na chawn i byth fynd yno wedyn am fy mod i'n rhoi oel ar fy ngwallt.' O drugaredd, 'roedd gan y bachgen hwnnw gryn dipyn o synnwyr digrifwch ac fe ddaeth yn bregethwr poblogaidd iawn ac yn un o arweinwyr 'i enwad - er 'i fod o'n dal i roi od ar 'i wallt.

Tynnir pictiwr o gymuned a sbaddwyd, un ar drugaredd grymoedd dinistriol y farchnad rydd.

Daeth Sam i mewn yn canu emynau, tua deg o'r gloch, a thrwy drugaredd aeth yn syth i'w wely.

Iddo ef, llefydd i'w gadael ar drugaredd natur ydynt, i ddirywio yn eu hamser eu hunain; ac mae'n arwyddocaol mai Dorothea ddadfeiliedig oedd yr ysbrydoliaeth fawr am flynyddoedd, yn hytrach na'r chwareli a drowyd yn atyniadau twristaidd ym Mlaenau Ffestiniog.

Derbyn ein mawl yn dy drugaredd, trwy Iesu Grist.

Ond, o drugaredd, nid rhai fel yna oedd pob dyn llyfr bach.

Cymer drugaredd ar y rheini ymhlith ein pobl ifainc sydd ar ddisberod ac mewn ing ysbryd, rhai yn gaeth i gyffuriau, rhai yng nghrafanc alcoholiaeth, rhai'n distrywio eu bywyd trwy drachwant, rhai'n anobeithio am na allant gael gwaith a rhai'n teimlo fod bywyd yn wag a diystyr am eu bod yn gwrthod goleuni'r Efengyl.

Roedd y lleuad yn llawn a'r wybren yn ddigwmwl wrth i'r llong adael y porthladd a thorri ei chŵys drwy'r môr agored a oedd, trwy drugaredd, fel llyn hwyaid y noson honno.

Trwy drugaredd cafodd ei hesgidiau a'i belt pan ddaeth yn ei hôl.

Ar un adeg meddyliwyd y buasai'n rhaid torri ei draed i ffwrdd oherwydd yr ewinrhew ond o drugaredd fe'u harbedwyd rhag gwneud hynny.

Gellir dehongli Ifans yr Wythdegau a'r Punk (Dafydd Emyr) fel rhai yn cael eu rheoli gan agweddau caled masnachol, a'r ddau yr un mor ofnus a chythryblus eu meddwl ac ar drugaredd newidiadau cymdeithasol.

Fel y gwelir oddi wrth y Salmau, y mae byd natur yn tystio i ogoniant Duw ac felly yr oedd yn gwbl briodol gweu cyfeiriadau at fyd natur â chyfeiriadau at drugaredd a ffyddlondeb Duw wrth addoli.