Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

drwodd

drwodd

'Paid a becso, fenyw fach - fe fyddai'n sych gorcyn mewn dou funud!' Ond i'w phlesio, ymysgydwodd rhag y diferynion dŵr, stompiodd ei sgidie'n drwm ar y llawr carreg ac aeth drwodd at y tan.

Ond roedd yn ymyl yr hollt erbyn hyn ac yn barod i wthio drwodd.

Ac os ydi hi'n cau gwrando mi sleifia'i drwodd i'r cefn pan ga'i chefn hi a dy adael di mewn felly ac mi geith hi weld wedyn na tydan ni ddim yn wynt ac yn law drwg drwg go iawn.

Ffrainc sydd drwodd i rownd derfynol Euro 2000 ar ôl i Zinedine Zidane sgorio o'r smotyn ym munudau ola yr hanner awr ychwanegol.

Trodd Gareth i edrych o'i flaen - a sgrechiodd wrth i'r car blymio i lawr pant yn y ffordd a chornel giaidd yn ymddangos yn sydyn - brêcs y car yn sgrechian wrth i'r car fynd wysg ei ochr o amgylch y gornel - ac o'u hôl, y car arall yn ymddangos, ond yn methu â chymryd y gornel - yn taro'r ffens ac yn rhwygo drwodd - am eiliad, ymddangosai fel pe bai'r car am stopio ar ymyl y clogwyn, ond yna plymiodd tua'r môr a tharo'r creigiau islaw.

Gan iddi basio'n syth drwodd, doedd 'na ddim posib astudio'r fwled ond fe gawson ni hyd i ddarnau bychain o'r metel ar y siaced.'

A yw hi'n bryd i ni ystyried pwysigrwydd y pentrefi "pasio drwodd" 'ma yng Nghymru?

mae'r trydydd detholyn, Magnus Norman, drwodd i rownd derfynol Pencampwriaethau Tenis Agored Ffrainc yn Paris ar ôl curo Franco Squillari o dair set i ddim.

Pwysodd ar Dik Siw i wneud cais am godi adeilad o ryw fath ar y tir lle'r oedd y Lotments yn awr, a gofalai yntau yr ai'r planiau drwodd heb ddim anhawster.

Anogwn yr Awdurdodau Addysg Sirol i hyrwyddo arbrofi gyda gwahanol fodelau o glystyru ysgolion - yn amrywio o gydweithio at ddibenion penodol yn unig drwodd at ffederasiynau ffurfiol gydag un strwythur staff.

Picton Philipps, aeth dau drên drwodd yn ddidramgwydd.

"Boehme% sydd wedyn a chan mai dyna'r ffurf sy'n digwydd amlaf, gwell glynu wrthi drwodd.

Daliodd y giât fochyn gyntaf ar agor iddi, ac aeth drwodd o'i flaen.

Daeth y si drwodd fod afon Tafwys yn Llundain wedi ei rhewi mor galed fel y gellid codi stondinau arni i werthu cnau castan poeth i'r rhai oedd yn sglefrio arni.

Mae Tim Henman drwodd i rownd wyth olaf Cystadleuaeth Meistri Monte Carlo ar ôl curo Albert Costa o ddwy set i un.

Mae'r Gymraes Hayley Tullett drwodd i rownd derfynol y râs 3,000 metr ym Mhencampwriaethau Dan-do y Byd yn Lisbon.

Gwnaeth y bwtler ei orau i'm tywys drwodd heb i mi gael peltan yn fy wyneb gan y dail soeglyd, ac ymhen amser daethom i fan agored yng nghanol y jyngl o dan y to crwn uchel.

Yn ôl adroddiad papur newydd; pan ffoniodd yr aelod o'r Cynulliad, David Davies BT gyda rhyw gwyn neui gilydd cafodd ei roi drwodd i ganolfan alwadau yn Lincoln - lle nad oeddan nhw nid yn unig yn gwybod beth oedd y Cynulliad ond yn meddwl mai rhyw fath o warden hen bobl oedd Mr Davies ei hun.

Gwirfoddolodd rhai dynion lleol i yrru, ac o'r diwedd 'roedd trenau'n gallu mynd drwodd, gan gynnwys y Fishguard Express a'r Irish Mail.

Mae Dominic Dale, o Lanfihangel ar Arth, drwodd i chweched rownd Pencampwriaeth Snwcer Liverpool Victoria Prydain.

Daethant at yr ail giât, wrth Goetra Uchaf, ac eto fe'i daliodd ar agor iddi, ac eto mi gerddodd hithau drwodd heb air.

Mae enillwyr Cwpan Gilbert y llynedd, Y Barri, drwodd i rownd derfynol eleni ar ôl curo Llanelli 4 - 1 yn ail gymal y rownd gyn-derfynol ar Barc Stebonheath.

Craffodd Myrddin drwodd i'r ystafell nesaf, oedd hefyd yn dywyll a moel, ond doedd dim golwg o neb ynddi.

Ond treiddiai un sŵn drwodd yn araf: sŵn cyson, rhythmig, yn ceisio'n galed i dorri drwy'r llen goch.

Bu'n rhaid i Modryb fodloni ar hynny a dyma'r ddwy'n mynd drwodd i'r llofft.

Ond pan oedden ni ar fin hedfan ffwrdd, daeth y capten drwodd i'r cefn a dweud bod nhw'n gwrthod rhoi caniata/ d iddo adael.

Roedd Cymru'r Plant a'r Trysorfa Fach yn cael eu darllen drwodd a dywedai dad y dylasem i gyd ddarllen llyfrau Daniel Owen.

Mae Gustavo Kuerten a Juan Carlos Ferrero drwodd i rownd gyn-derfynol y dynion.

Yna bydd Ffrainc ar Iseldiroedd, sydd eisoes drwodd yn Grwp D, yn chwaraei gilydd tra bydd y Weriniaeth Czech a Denmarc yn gobeithio am fuddugoliaeth cyn troi am adre.

Doedd o ddim o bell ffordd, ond maen nhw drwodd.