Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

drwyddi

drwyddi

Dyma nhw'n sisial eu ffordd drwyddi, a ninnau'n clywed ambell enw, '...

Nid yn herwydd eu cariad ati y traethasant ynddi, ond am mai drwyddi hi yn unig y gellid achub eneidiau'r Cymry, a oedd gan mwyaf yn uniaith.

Yr oedd yn ddull newydd, tymhestlog, rhy frochus hyd yn oed i Thomas Charles o'r Bala, y gwr y byddai clywed John Elias yn bwrw drwyddi'n codi croen gwydd arno.

Edrychid ar briodas, nid fel modd i barhau gweddau materol ar y teulu'n unig, ond hefyd fel disgyblaeth y byddid drwyddi yn cryfhau cyfathrach deuluol a pheri bod sadrwydd oddi mewn iddo.

Mae'r ysgrif drwyddi'n enghraifft odidog o'r tyndra a geir yn aml yng ngwaith R.

Ac am ei bod hi'n ynys ym môr y gorllewin, yr oedd Iwerddon wedi cadw mwy o'i nodweddion cenedlaethol, ac fe allai Waldo ymdeimlo, ac ymglywed, â'i hen hanes a'i chwedloniaeth gyfoethog, wrth deithio drwyddi ar gefn ei feic.

Daeth rhai o'r corachod at yr hafn, yn barod i fentro drwyddi, heb weld y tri milwr a safai yno.

Mae'r adroddiad yn cydnabod gwerth a nerth cyfraniad y mudiadau gwirfoddol ac asiantaethau eraill i'r maes ac mae ynddo gynigion cadarn ar gyfer datblygu a gwella'r ddarpariaeth drwyddi.

cyffrôdd drwyddi, trodd ei phen tuag ataf, y llygaid yn dân, a dweud yn glir glir, 'Am lefydd, nid am grefydd, am Rosgadfan.' Yna ymlonyddodd drachefn.

ddim eisiau imi fynd i Fryste.' Roedd yn ferw drwyddi a neb yn deall.

Wrth gwrs, ni all y bardd (mwy na ninnau) groesi o'r presennol yn ol at y profiad; ni all, pan fynno, ddiflannu o'r Fan-a'r Foment-yn-Awr ac iengeiddio am bob ysbaid o gamu'n ol drwyddi.

Gobeithio y dôi Jonathan bach drwyddi eto ...

Pwysodd ei lygaid yn ei herbyn a llwyddo i weld rhyw ychydig drwyddi.

"Yn nwylo'r bagad o bregethwyr a chlerigwyr, yn gystadleuwyr a beirniaid, a'i cynhaliai ni allai'r eisteddfod lai na bod ar bob gwastad, yn sefydliad ymatalgar a byddai'n annichon i feirdd a llenorion y dosbarth gweithiol a fynnai 'ymddyrchafu' drwyddi droseddu yn erbyn chwaeth...

Crynodd drwyddi unwaith eto a throdd oddi wrth y grisiau.

Dim ond un peth oedd ar feddwl pob un o drigolion y dref - roedd byddin bob amser yn newynog - boed hi'n gyfeillgar neu'n elyniaethus - ac roedd disgwyl i fyddin fyw ar y wlad roedd hi'n teithio drwyddi.