Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

drwyn

drwyn

Yr oedd yn noson olau leuad glir o hyd ac felly, er iddo danio'r injan, nid aildaniodd oleuadau'r Land Rover, dim ond troi ei drwyn i lawr y rhiw.

A minnau drwy'r ystryw seicolegol a elwir yn ddisodliad a dirprwyaeth yn bachu ar ei drwyn ac yn hoelio fy nghasineb at y Parch.

Llongyfarch Joschka Fischer 'am ei waith ardderchog ac am ei weledigaeth' a wnaeth Chirac, gan dynnu blewyn o drwyn Jospin yn gyhoeddus.

Nid gormod o beth fyddai iddynt rwbio ei drwyn yn y pridd a rhoi chwip din iddo bob tro y daliant ef yn yr ardd.

Mi fydda i'n sleifio heibio'i gawell o am fod yn gas gen i ei weld o'n edrych i lawr ei hen drwyn hir main arna'i efo'r llygaid melyn lloerig yna.

'Hy!' medda fo, a chodi'i ysgwyddau fel ci yn disgwyl ffoniad, 'arni hi mae'r bai - ond paid ti â bod yn hen drwyn.'

Wedi blynyddoedd o fywyd trefol collodd JR lawer o'i archwaeth at fwyd cyntefig fel stwnsh rwdan a pheth dieithr iddo bellach oedd gweld sosban ddu wedi ei gorseddu ar ganol bwrdd y gegin, ond yr hyn a'i blinai fwyaf oedd sylwi ar Hywal y mab yn pigo'i drwyn bobo yn ail cegiad.

Sylwodd yn sydyn ar bloryn pen gwyn yn y plyg rhwng ei drwyn a'i foch.

Nid ei drwyn a ddrwgleciwn, ond ei gulni plwyfol, cyn Gopernicaidd.

Tynnodd Aun ddarn o bren un deg wyth centimedr o hyd o'i fag a cheisio mesur y pysgodyn aflonydd o faen ei drwyn i fforch ei gynffon.

Ond 'na fe, be all e'i wneud yn wyneb eu deddfe Nhw?' Gyda hyn, trodd Mr Williams drwyn y cerbyd i fyny'r rhiw at gartref Dilwyn a bu tawelwch hyd nes iddo stopio y tu allan i ddrws ffrynt Llwyngwern.

'Rhywbeth bach gynnon ni i gyd ichi gadw i chi'ch hun, Elfed,' meddai hi gan wthio'r pecyn seimlyd dan ei drwyn.

Roedd o'n falch iddo'i phrynu, er iddo dalu drwy'i drwyn amdani.

Wedi dod yn rhydd o'r breichiau cryfion cafodd JR ei lusgo i'r gadair freichiau ger y tân a rhoddodd Laura Elin orchymyn siarp i'w mab Hywal, a eisteddai ar y stôl drithroed, yn pigo'i drwyn, i symud 'i hen betha oddi ar y bwrdd i'r gŵr bonheddig gal tamad yn 'i grombil.

Oedodd Priodor Beddgelert a chrafu'n ffyrnig dan ei geseiliau, cyn crychu'i drwyn a chrach boeri.

Mae'n ffordd ryfedd o dynnu blewyn o drwyn rhywun - ond y ffordd fodern o sarhau rhywun yw gwisgo crys T gydau henw arno.

Rhag i anlwc o'r math yma ddigwydd i'r sawl sy'n gweld ambiwlans yn mynd heibio iddo dylai'r person hwnnw afael yn dynn yng ngholer ei got, dal ei anadl a gwasgu'i drwyn nes gweld ci brown neu ddu!

Draw dros y dwr eto o Fangor heibio i Fiwmares ac yna heibio i drwyn Penmon i'r Ynys Unig.

Troes PC Llong at Nel gan dapio'i drwyn yn wybodus.

Tynnwyd yr offer pysgota i mewn, rhoddwyd mwy o ddisel yn yr injan, ei thanio - a chychwyn draw am y creigiau duon ar Drwyn Dinas.

Stwffia'i drwyn o i'r gwtar 'na.'

Ar y cefn roedd wedi sgrifennu, 'Philip Nore, bob amser â'i drwyn ar y maen ...' Byddai rhywun wedi chwerthin pe na byddai'n gwybod mai malais oedd y tu ôl i'r llun.

You're not having a meeting are you?" Roedd y fath ymddygaid yn hollol nodweddiadol o Trevor,~roedd raid iddo fod â'i drwyn ym musnes pawb a doedd e ddim am i unrhyw gyfarfod fynd yrnlaen heb iddo fe wybod amdano fo.

Ond pan roddodd ei drwyn ar y ffenast drwchus roedd y fuwch wedi codi ei chlustia, yn cnoi ei chil yn braf, ac yn edrach arno!

Trodd i weld beth oedd wedi'i lorio ac fe'i cafodd ei hun yn wynebu genau glafoeriog un o gŵn Theros, gyda'i drwyn hirfain garw a dannedd fel crocodeil.

Codai'i drwyn ar y fath anifeiliaid di-fudd.

Yn sydyn symudodd ei drwyn ac agorodd ei lygaid yn araf.

Er gwaethaf drewdod y llygoden a'i hymdrech i gosi dy drwyn, llwyddaist i gadw'n hollol lonydd wrth i un o'r milwyr gerdded atat.

Tynnodd ei sbectol a gwasgu pont ei drwyn â'i fys a'i fawd.

Yna daeth Rex gan wthio'i drwyn i law Alphonse.

Trodd Abdwl drwyn yr awyren i gyfeiriad y golau hwnnw ac yn fuan safodd yr awyren o flaen cwt mawr.

Bydd plentyn sy'n pigo i drwyn yn dioddef o lyngyr.

'Ro'n i'n gweld Laura Elin o'r Felin a Hywal y mab yn mynd yno bora a baich o bricia dechra tân ar gefna'r ddau." Gwelodd JR yr annibyniaeth y bu'n hiraethu cymaint amdano yn diflannu o dan ei drwyn, a hynny cyn iddo ef i gyrraedd.

Prysur iawn oedd Nia Chiswell, a'r meic o dan drwyn pawb.

"Mae'n rhaid i mi beidio â thisian," meddai wrtho'i hunan tra'n swatio tan y gwellt a gosai ei drwyn.

Plismon, mewn car neu ar fotobeic, yn goddiweddyd modurwr ac yna'n tynnu i mewn i ochr y ffordd o flaen ei drwyn, gan ei orfodi i stopio.

Dealled y darllenwr nad pasio rimarcs am drwyn llythrennol yr hen frawd cu yr ydw i.

A minnau wedi disgwyl gweled y baedd yma hefyd yn ffornochio ac yn codi ei drwyn tua'r nef mewn ysgrech o fygythiad, a dangos cil- ddannedd fel cilbostiau adwyon wedi eu gwneud gan yr hen bobl.

Ac fe glywes am un boi o Abertawe a gerfiodd garreg fedd iddo fe'i hunan, ond dyma'r tro cynta i fi glywed am ddyn yn talu am gerflun mamor ohono fe'i hunan ac a i ddim i geisio'i ddisgrifio fe, dim ond gweud i fod e'n od o debyg i Madog - yr un pen moel, yr un osgo, a bid siŵr, yr un drwyn.

Fydd hi ddim yn hir cyn y gwelwn blastro ei luniau ar wyneb pob tabloid bob tro y bydd yn newid ei drons neu'n chwythu ei drwyn.

Rhedai o gwmpas mewn cylch a'i drwyn ar y ddaear, ond pan âi'n rhy agos at y pysgodyn drewllyd roedd yn ysgwyd ei ben ac yn tisian drosodd a throsodd lawer gwaith.

Tyfai blewiach brith o dan ei drwyn a edrychai fel mwstash heb ei wrteithio'n iawn, ac ar waelod ei ddwy foch roedd cysgodion pinc a roddai ffurf anghynnes i'w wyneb.

Creadur sur, hir ei drwyn, llym ei dafod oedd Owen Owens, a chanddo draed drwg a barai iddo ddefnyddio'i ffon hir fel rhwyf.

Gwelai Douglas yr haearn yn fflachio o flaen ei drwyn.

Rhoddais y ddau lyfr yn y pac o dan drwyn Syr Ifor a Dr Tom!