Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

drwytho

drwytho

Y mae Ellis Wynne yn feistr ar holl ystrywiau dychan, ond tra mae Dante yn hamddenol ddwys yn tynnu llun pob amgylchiad yn drwyadl a manwl, a'i drwytho â chydymdeimlad sy'n arswydo dyn gan ei ddifrifoldeb, sboncio'n heini o lun i lun cartwnaidd y mae Ellis Wynne a hynny mor ddisglair ddigri ei fynegiant nes lladd pob ofnadwyaeth gan y pleser o ddarllen; ac yn y proses, lladd ei amcan hefyd, petai waeth am hynny.

Drwy'r Ymofynnydd gofalodd drwytho'r mudiad yn hynt a helyntion ei orffennol, gan groniclo nid yn unig ffeithiau moel eithr eu gwerthfawrogi'n graff, gan danlinellu cyfraniad unigryw 'hen Gewri'r Ffydd' a'u pwysigrwydd i'r eglwys gyfoes.

Pan fyddai hogyn wedi cael ei drwytho yn "Rhodd Mam" ac wedyn, wedi bod yn hogyn drwg byddai gwersi Mrs Wilias yn siwr o ddod yn ôl i'w feddwl yn ddiarwybod iddo, bron ac yn dweud wrtho: "Tro yn dy ôl".