Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

drydedd

drydedd

Cymeriad annelwig yw Sant Ffolant: efallai mai Esgob Terni ydoedd neu offeiriad o Rufain a ferthyrwyd yn y drydedd ganrif OC Nid yw'r cysylltiad rhwng Sant Ffolant a chariadon yn un arbennig o ramantaidd.

Ond er prinned yw'r cyfeiriadau uchod, ac er nad oedd llawer iawn o gysylltiad rhwng y rhanbarthau hyn a'r taleithiau eraill yn y ddeuddegfed ganrif a'r drydedd ar ddeg, eto, pan gododd Casnodyn ym Morgannwg yn y ganrif ddilynol, gwelir yn ei waith holl nodweddion canu cymhleth y Gogynfeirdd, ffaith sy'n awgrymu fod traddodiad barddol cyffelyb wedi ffynnu yn y de-ddwyrain yn ogystal yn y canrifoedd blaenorol.

Dyma ei degfed cyfrol o gerddi a'r drydedd i gynnwys cyfieithiadau Saesneg ochr yn ochr a'r cerddi gwreiddiol.

Taith i Chesterfield, y tîm ar frig y drydedd adran sy'n wynebu Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yfory.

Golyga hyn fod gan Gaerdydd gyfle i esgyn i'r Ail adran fel pencampwyr y Drydedd Adran.

Mae Sri Lanka, felly, wedi ennill y ddwy gêm gynta a bydd y drydedd - a gêm ola'r daith yn dechrau yn Colombo yfory.

Dibynna'r drydedd dybiaeth, sef mai'r incwm gwladol sy'n pennu treuliant, ar egwyddor cyfranrediad, egwyddor sy'n ganolog i astudiaethau macro-economeg confensiynol.

Clybiau Llangefni a Bodedern oedd yn gydradd drydedd efo Clwb Dwyran yn bumed a Llangoed yn chweched.

Hyd yn oed ar ddiwedd ei oes, ac yntau erbyn hynny yn byw ym Mhenarth, ac yn briod a'i drydedd wraig, Mary Davies, merch un o'i aelodau yn King's Cross, Saesneg oedd iaith y defosiwn teuluol a doi'r darlleniadau fel arfer o gyfieithiad Moffatt.

Yn y Drydedd Adran - efo Abertawe - fydd Bristol Rovers.

Wrth ddarllen y drydedd gyfrol o sgyrsiau Dros fy Sbectol John Roberts Williams i'w hadolgyu ar gyfer y Wawr, chwarterolyn Merched y Wawr, deuthum ar draws hanes merch fach o'r enw Miriam, o Frynengan, Eifionydd.

Flwyddyn yn ôl cododd Abertawe i'r Ail Adran, ond yn ôl i'r Drydedd maen nhw'n mynd ar ôl colli gartre 2 - 1 i Oldham ddydd Sadwrn.

Yn y drydedd, ceisiaf ddangos mai cydgenedlaetholdeb yn hytrach na byd digenedl yw gwrthrych gobaith y Testament Newydd yn ei wedd fydgofleidiol.

Perthynai'r ddwy, yn eu ffyrdd gwahanol, i fudiad llenyddol pur boblogaidd yn Ffrainc tua dechrau'r drydedd ganrif ar ddeg: mudiad a welai ar y naill law ymgais i gysylltu'r chwedl Arthuraidd (cyfraniad mwyaf Cymru i ddychymyg Ewrop, o bosibl) â chyfnod y Testament Newydd a sefydlu'r Greal Sanctaidd yn un o brif themâu llên Ffrainc, a mudiad a oedd yn dyst ar y llaw arall i symud pendant oddi wrth yr hen arfer Ffrengig o gyfansoddi naratif ar fesur ac odl i lunio stori%au rhyddiaith.

Dymar drydedd ffilm Dalmatians ond y mae llawer ohonom o'r farn nad oedd gwir alw am y fersiwn actorion-go-iawn yn 1996 gystled oedd y fersiwn animeiddiedig wreiddiol.

Dim ond chwe mis oed yw plentyn arall, sy'n derbyn triniaeth am pneumonia am y drydedd waith.

Yr eilydd Michael Blackwood rwydodd y drydedd wedi 64 munud, a hynny efo'i gyffyrddiad cynta yn y gêm, a roedd y deiliaid gam yn nes at rownd derfynol arall yn y Cwpan Cenedlaethol.

Yn yr ysgolion newydd, pwnc dewisol oedd iaith fodern, i'w dderbyn neu ei wrthod ar ddiwedd y drydedd flwyddyn (fel pob pwnc arall ac eithrio Saesneg a mathemateg).

Ni wn pa bryd y dêl y drydedd gwaith, ond pan ddaw, ar ysgwyddau prudd ei gyfeillion y bydd John.

Problem elfennol iawn ydi'r drydedd, Lludd annwyl.

Mae Abertawe eisoes wedi disgyn i'r Drydedd Adran, ond mae yna ddigon o gyffro o hyd cyn y gêm.

Ond fedrwn i ddim peidio â chwerthin pan gyhoeddodd Aled yn y car ein bod ni bellach yn mynd heibio i'r twnnel newydd rhwng Conwy a Phenmaenmawr am y drydedd gwaith!

Mae'r drydedd broblem yn broblem sy'n effeithio arnaf i, o fewn y palas, a neb arall, diolch byth.

Ond, yn ôl y patrwm clasurol, daeth llwyddiant gyda'r drydedd ymgais, diolch i gwrteisi a huodledd Gwalchmai.

Gwyddai awdur Gereint ac Enid rywbeth am y ffordd hon o blethu hanesion a'u hystofi'n gyfrodedd gymhleth ac fe'i defnyddiodd yn effeithiol ac yn hollol ymwybodol, er heb holl gywreinrwydd ystyrlon rhamantau'r drydedd ganrif ar ddeg.

Dyma drydedd nofel Shoned Wyn Jones ac mae nofel sydd yn ddarllen byrlymus rhwydd fel hon yn haeddu derbyniad gwresog.

Ac meddir ar glawr Cribau Eryri Rhiannon Davies Jones - sydd hithau'n ymdrin a'r drydedd ganrif ar ddeg : Mynegir ofn ac ansicrwydd gwreng a bonedd yn wyneb creulondeb yr amseroedd a mynych droeon Ffawd....Efallai y gwelir yma arwyddocad cyfoes yng nghymedroldeb meibion y Distain, yng ngweledigaeth y Mab Ystrwyth ac yn bennaf yn nelfrydiaeth yr Ymennydd Mawr.

Ei ddewis arferol fyddai'r drydedd salm ar hugain ynghyd â'r adran honno yn yr Efengyl yn ôl Ioan sy'n dechrau gyda'r geiriau, 'Na thralloder eich calon'.

Roedd Ryan Giggs yn Nhîm yr Uwch Gynghrair; Chris Coleman yn Nhîm yr Adran Gynta a dau o chwaraewyr Caerdydd - Rob Earnshaw a Josh Low - yn Nhîm y Drydedd Adran.

Sefydlu'r Drydedd Reich yn Yr Almaen, Hitler yn ffurfio baner swastika newydd i'w blaid, Plaid Sosialaidd Genedlaethol Yr Almaen, sef y Blaid Natsïaidd.

Ar y llaw arall mae'r alaeth yn y drydedd enghraifft (C) yn un lle mae'r ser yn bell oddi wrth ei gilydd.

Credai L Chr Stern fod beirdd Cymru yn y ddeuddegfed ganrfi a'r drydedd ar ddeg yn gwybod am y farddoniaeth a oedd yn ei bri yn Ffrainc, a'u bod wedi dod dan ei dylanwad; a pharthed Dafydd ap Gwilym, efallai nad oedd yn uniongyrchol ddyledus iddynt, ond am ei ddyled anuniongyrchol nid oedd dim amheuaeth.

Bydd Barnet, sy'n ugeinfed yn y drydedd adran, yn dod i Barc Ninian heno gan wybod bod eu record nhw oddi cartre yn drychinebus.

Difaterwch Y drydedd wedd yr hoffwn ei nodi yw DIFATERWCH.

Mae Lerpwl trwodd i drydedd rownd Cwpan UEFA ar ôl curo Slovan Liberets yn y Weriniaeth Czech neithiwr.

O ddechrau'r drydedd ganrif ar ddeg ymlaen, gyda thwf heresi%au peryglus megis Waldensiaeth ac Albigensiaeth, dwysa/ u a wnaeth yr argyhoeddiad mai 'llyfr gosod', fel petai, i'w neilltuo ar gyfer uwchastudiaethau diwinyddol y prifysgolion oedd y Beibl.

Mae nifer y copi%au llawysgrif o'r ddau destun hyn, ac eraill ar yr un thema, yn dyst i boblogrwydd eithriadol chwedlau'r Greal yn Ffrainc yn ystod y drydedd a'r bedwaredd ganrif ar ddeg, ac yn ystod y ddwy ganrif hynny hefyd fe welwyd tuedd - bron na allwn alw'r peth yn ffasiwn - i gyfieithu gweithiau llenyddol o'r Ffrangeg i ieithoedd brodorol eraill gorllewin Ewrop a'r tu hwnt, a'r Gymraeg yn eu plith.

Maen nhw wedi syrthio lawr i'r Drydedd Adran ar ôl colli gartre 2 - 1 yn erbyn Wycombe.

Enillodd y rhain fri mawr, am ddysg yn ogystal ag am dduwioldeb, pan sefydlwyd hwy yn y drydedd ganrif ar ddeg.

Mae cricedwyr Lloegr yn paratoi am y drydedd gêm brawf yn erbyn Pakistan yn Karachi ar ôl i ddwy gêm gyntaf y gyfres orffen yn gyfartal.

Yn y drydedd adran bydd y frwydr i aros yn y Cynghrair Pêl-droed yn parhau tan y diwrnod olaf.

Mae'r drydedd adran yn agor â'r un fformiwla â'r ail, A boregwaith yr haf ydd oeddynt yn y gwely.

Yn y drydedd adran rhaid rhestru cenhedloedd llai, a chanddynt rhwng pedwar can mil a miliwn a hanner o siaradwyr - y Cymry, y Llydawiaid a'r Basgiaid yn y Gorllewin; y Slofeniaid, y cenhedloedd Baltig a'r Albaniaid yn y Dwyrain.

Hwyrach fod yna well ffyrdd o fynegi'r uchod ond, yn anffodus, er mor ddeniadol y mae'r 'Drydedd Theori' yn swnio mewn crynodeb, yr un yw arddull gweddill 'Y Llyfr Gwyrdd'.

Bydd clwb Chesterfield, sydd ar frig y Drydedd Adran, yn clywed heddiw beth fydd eu tynged yn dilyn ensyniadau yn ymwneud â thaliadau anghyfreithlon.

Mabel a Cecilia (dwy o fyfyrwyr y drydedd) yn dod draw i goginio inni.

Chesterfield oedd ar Barc Ninian ddoe - y tîm sy ar frig y drydedd adran, ar hyn o bryd o leia - a roedd hi'n gêm i'w chofio.

Wrth astudio'r cudynnau silia hyn ar dentaclau fe ddeuthum ar draws y drydedd amrywiaeth.

Fe ddichon ei fod ef, fel William Salesbury o'i flaen, wedi ymddiddori yn y llenyddiaeth grefyddol Gymraeg (cyfieithiadau gan mwyaf o'r Lladin) a gafwyd yn sgîl deffroad y drydedd ganrif ar ddeg (gw.

Cafodd gyfanswm o 109, gan gynnwys partneriaeth gyda Graham Thorpe o 167 am y drydedd wiced wrth i Loegr gyrraedd cyfanswm o 249 am bum wiced.

Datrys cyfyng-gyngor Enid a chywiro bywyd Geraint yw mater y 'rhamant'; dyna bwnc y drydedd adran y mae'r ddwy flaenorol wedi bod yn arwain ato.

Mae Caerdydd yn yr wythfed safle yn y Drydedd Adran yn dilyn gêm gyfartal oddi cartref yn erbyn Chesterfield, y tîm sydd ar y brig.

Ceid bron hanner cant yno pan oedd lawnaf a'r rheini, o leiaf yn nechrau'r drydedd ganrif ar ddeg, yn cadw rheolau disgyblaeth yr Urdd Sistersaidd yn fanwl.

Cafodd Caerdydd dipyn o ysgytwad ddoe a hwythau am godi o Drydedd Adran Cynghrair Nationwide.

Sgoriodd Morgannwg 220, Matthew Elliott gyda 94, ei sgôr uchaf i'r sir yn y gystadleuaeth, a Matthew Maynard ar ei orau unwaith eto yn sgorio 50 gan rannu 98 am y drydedd wiced.

Bydd Wrecsam oddi cartre yn erbyn Bristol Rovers - sydd eisoes wedi disgyn i'r Drydedd Adran yn barod - a Chaerdydd yn teithio i Hartlepool.

Gwyddom i Seisyll, abad Ystrad Fflur deithio i Lanbedr Pont Steffan i gyfarfod â Baldwin, archesgob Caergaint pan ddaeth hwnnw ar ei daith enwog trwy Gymru i bregethu'r Drydedd Grwsâd.

Dyma'r drydedd gân ar yr albym.

Llai o ddail y flwyddyn gyntaf, a llai fyth yr ail a'r drydedd nes bod y cangau llwm fel parlys gaeaf yn llawnder haf.

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol Sefydlu'r Drydedd Reich yn Yr Almaen, Hitler yn ffurfio baner swastika newydd i'w blaid, Plaid Sosialaidd Genedlaethol Yr Almaen, sef y Blaid Natsïaidd.

Ni ddylech ddechrau gêm am un o'r gloch gan mai dyma drydedd awr ar ddeg y dydd ac felly yn anlwcus.

Eisoes mae nhw wedi disgyn i'r Drydedd Adran a neithiwr ychwanegodd Wrecsam at y diflastod drwy ennill gêm ddarbi Cymru yn yr ail adran - o gol i ddim.

Bydd Chesterfield, sydd ar frig y drydedd adran ar hyn o bryd, yn apelio yn erbyn y penderfyniad i dynnu naw pwynt oddi arnyn nhw, oherwydd anghysonderau ariannol o fewn y clwb.

Hon oedd y flwyddyn gyntaf i brofion graddedig gael eu defnyddio yn Leeds a'r drydedd flwyddyn iddynt gael eu defnyddio yng Nghaer Efrog.

Cynhelir y drydedd gêm rownd derfynol yng Nghymru mewn tridiau heno - ond ddim yn Stadiwm y Mileniwm y tro hwn.

Felly dyma enedigaeth samplau sylweddol o drydedd ffurf alotropig yr elfen carbon.

Fe allen nhw ddisgyn yn ôl i'r drydedd.

Roedd torf o 13,602 yn gwylio'r gêm - torf fwya'r drydedd adran y tymor hwn.

CERDDOR IFANC Y FLWYDDYN: Llongyfarchiadau i Delyth Buse ar ennill y drydedd wobr o ddeugain punt yng nghystadleuaeth "Cerddor Ifanc y Flwyddyn, Clwb Rotari, Bangor".

Byddain ymarfer arno bob nos -a gydag e,f Randall Bevan - un o sêr y drydedd flwyddyn.

Arhosodd nes bod y drydedd garol ar ben ac yna cododd ddyrnaid o'r eira mân a'i wasgu'n bêl.

Estyniad rhesymegol ar yr uchod oedd y drydedd egwyddor.

Yn yr Ail Adran collodd Bristol Rovers. Mae hyn yn rhoi'r mymryn lleia o obaith i Abertawe y gallan nhw osgoi disgyn yn ôl i'r Drydedd Adran.

Llwyddodd Graham Thorpe i lywio cricedwyr Lloegr i fuddugoliaeth annisgwyl yn y drydedd gêm brawf yn erbyn Pakistan yn Karachi.

Gwelodd y flwyddyn gyntaf ni yn cerdded o gwmpas efo'r drydedd.

Dyma drydedd nofel yr awdures o Dregarth.

Beautiful Breakdown ydyr drydedd a Paul syn canu fwyaf y tro hwn.

Mae'r drydedd elfen yn y cefndir yn perthyn i'r un cyfnod.

Diau bod yr ystyron wedi cawlio erbyn y drydedd ganrif ar ddeg pan sonia testun arbennig am 'anfon (lago) yr ard y gynnull cawl y wneithur bressych'.

Y drydedd ar ddeg yng Nghyfres Rwdlan.

Cafodd cricedwyr Lloegr ail ddiwrnod pur dda yn y drydedd gêm brawf yn erbyn Pakistan yn Karachi.

Eto fe ellid dadlau fod rhyw fath ar ddatblygiad ar y syniad am Iawn yn datblygu yn ystod yr ail a'r drydedd ganrif.

Pakistan alwodd yn gywir a dewis batio yn y drydedd gêm brawf yn erbyn Lloegr yn Karachi.

Sgoriodd Sanchez gôl arall - ei ail - yn union wedi'r egwyl, cyn i Gaizka Mendieta sgorio'r drydedd.

Stephen Brooker sgoriodd gôl Port Vale - bydd angen gwyrth ar Abertawe i osgoi dychwelyd i'r drydedd adran.

Maen nhw'n ystyried y blaenwr yn allweddol os yw'r tîm yn mynd i godi o'r drydedd adran.

Dengys yr olion fod Tre'r Ceiri wedi'i chadw gan y Celtiaid drwy'r drydedd a'r bedwaredd ganrif, er bod y Rhufeiniaid yn cartrefu ar yr un pryd yn Segontiwm, eu caer hwy yng Nghaernarfon.

Yn Mansfield neithiwr roedd Caerdydd yn gobeithio gwthio am Bencampwriaeth y Drydedd Adran - ond y tîm cartre'n diffetha'r cynlluniau hynny.