Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dryswch

dryswch

I ychwanegu at y dryswch, y mae mwy o Saeson yn flynyddol yn prynu siopau yn y Gymry wledig, yn cadw tai bwyta a gwestai, yn sefydlu meysydd carafanau a chrochendai.

Hyd yn hyn, nid oes unrhyw dystiolaeth fod yna weithredu ar yr argymhelliad hwnnw a'r canlyniad yw'r sefyllfa anfoddhaol bresennol lle y mae dryswch ac ansicrwydd ynglŷn â dwyieithrwydd yn y Cynulliad a phenderfyniadau unigol yn cael eu cymryd gan unigolion y tu allan i fframwaith cyffredinol i'r corff cyfan.

Soniodd lawer wrthyf am y wefr a gawsai o forio 'rownd y byd', er iddo fy ngadael mewn peth dryswch pan hysbysodd fi, 'Rydw i wedi bod ar y chwe cyfandir bellach.'

Fe ddechreuodd y dryswch o'r eiliadau cynta', pan gliriodd y cymylau uwch Vilnius ac y trawodd yr awyren DanAir y tarmac ym maes awyr digysur y dref.

Pa loches oedd iddi yn y dryswch hwn?

Mae'r amrywiaeth hwn yn amlwg yn peri dryswch i'r ysgolion.

Efallai bod y dryswch ynglyn â phatrwm prif gynghrair Cymru y tymor nesa ar fin cael ei ddatrys.

Wrth gyrraedd y Plas mae yna sgwrs rhwng y perchennog a'r ddwy ymwelydd sy'n rhoi ymdriniaeth ysgafn o'r dryswch mae'r ddwy dafodiaith yn gallu ei greu.

Mae'r dryswch ynglyn â beth fydd yn digwydd nesa yn parhau.

Dyna ichi broblem y Dryswch Hunaniaeth wedyn.

Ac fe ddaeth mwy o'r un peth gan yr awdur dyfeisgar hwn gyda'r beirniaid swyddogol mewn perlewyg ond llawer o ddarllenwyr eraill yn parhau mewn mewn dryswch.

Fe gytunodd - - a - - y dylid creu canllawiau a'u cyhoeddi yn annibynnol o'r Cytundeb Comisiynu er mwyn osgoi camddealltwriaeth a dryswch.

Y patrwm triphlyg: mae'n ymddangos fod peth dryswch yma rhwng esbonio'r Beibl gyda chymorth teipoleg, a'r syniad am Oes y Tad, Oes y Mab ac Oes yr Ysbryd.

Yn ystod y dryswch sy'n dilyn mae bywyd personol a phroffesiynol Kleff yn chwalu.

Trois at y gŵr penllwyd mewn dryswch.

Diolch byth fod y dryswch yna wedi ei glirio.

Fe fyddai ennill statws swyddogol i'r Gymraeg yn arbed y dryswch presennol: fe fyddai'n neges ddiamheuol i bobl yng Nghymru fod gwerth ar yr iaith a bod modd ei defnyddio heb rwystr.