Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dueddol

dueddol

Mae'r adroddiad yn argymell cynnal cronfeydd bwyd mewn ardaloedd sy'n dueddol o ddioddef oherwydd sychder, a sicrhau bod yna system effeithiol i ddosbarthu'r bwyd pan fo angen.

Y gred gyffredinol bellach ydyw na chafodd ymyriadau'r llywodraeth yn y cyfnod hwn agos cymaint o effaith ar lefel y gweithgarwch economaidd ag yr oedd pobl ar y pryd yn dueddol i gredu.

Does na ddim llawer o eiriau sy'n ddieithr i'r plant ac erbyn hyn rwy'n dueddol o ddefnyddio mwy o'r ffurfiau gogleddol.

Byddem wedi disgwyl i'r patrymau prynu fod dipyn yn llai, ond efallai bod y sawl oedd yn llenwi'r holiadur yn dueddol o wneud hynny ar ran y teulu cyfan gan nodi, felly, mai ef/ hi a'u prynodd ei hunnan.

Yma fe geir ochr aeddfetach i'r mynegiant yng ngherddoriaeth Chouchen, wrth iddynt gyfeirio at y ffaith nad yw pobl yn dueddol o gofio'r hyn a ddysgir mewn ysgolion a cholegau, ond eto i gyd yn cael dim trafferth hel atgofion am yr holl sothach a geir ar y teledu.

Gormod neu ddim ydi hi'n dueddol o fod, a chwarae teg i'r gynulleidfa, mae gormod o unrhyw beth yn gallu tagu.

Fel Cymro, dwi'n meddwl fy mod i'n dueddol o glywed llais y lleiafrif, yn hytrach na'r mwyafrif; mae gen i fwy o glust i glywed yr ochr leiafrifol, neu'r ochr sy'n colli a'r ochr sy'n cael ei gormesu.

Yn dilyn agoriad mor arbennig fe geir tair o ganeuon Saesneg, ac mae'n rhaid cyfaddef fod rhain yn dueddol o atgoffa rhywun fwy o'r hen Gwacamoli.

O ran y gerddoriaeth, serch hynny, ‘rydym yn dueddol o ffafrio yr hyn a geir ar drac un.

Byddai'n bwrw i'r darllen â brwdfrydedd gwyntog, ond os digwyddai fentro i faes cymhleth y 'bennod gladdu' yn y Corinthiaid, byddai'n dueddol o faglu ar draws brawddegau aml-gymalog yr Apostol Paul.

Tuedd y rhan fwyaf o lenorion Lloegr, hyd at yr Oes Ramantaidd, fu ystyried fod popeth Groeg a Rhufeinig yn rhwym o fod yn well na'r dulliau brodorol; ond yr oedd y Cymry, mewn cyferbyniad, yn dueddol o edrych ar farddoniaeth Gymraeg fel traddodiad clasurol arall, a oedd yn llawn mor hynafol yn ei wreiddiau, yn llawn mor gaeth a ffurfiol, an yn llawn mor deilwng o barch ac astudiaeth â'r traddodiad Groeg a Rhufeinig.

Os yw'ch cefnogwyr yn dueddol o gerdded i ffwrdd pan fyddwch yn siarad am wobrau, yna prynwch rhywbeth eich hun.

Mae'r rhan fwyaf ohonom yn dueddol o feddwl mai adrodd rhyw fymryn o linellau ydi'r hyn mae rapwyr yn ei wneud ond gwelir yma fod meistrolaeth o rhythm a geirfa yn hanfodol hefyd.

'Rydan ni'n dueddol o feddwl am chwerthin fel peth pleserus, cynnes, afieithus; cyfrwng i ddangos a rhannu llawenydd.