Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

duwiau

duwiau

Cyfeddyf i Blaton alltudio'r beirdd o'i wladwriaeth oherwydd 'anfoesoldeb eu disgrifiadau o'r duwiau', ond am farddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol, doedd dim culni ar ei chyfyl; eithriad oedd cael moesolwr fel Siôn Cent.

Ofn yr anwybod, ofn y duwiau - yr hyn a alwai'r Groegwyr gynt deisidaimonia; yr hen ofn hwnnw a fu'n llechu yn y galon ddynol erioed ac a fydd eto, bid siwr: ofn newyn, tlodi a dioddefaint; ofn poen, afiechyd a marwolaeth.

A newidiodd un genedl eu duwiau, a hwy heb fod yn dduwiau?" (Jer.

Sylwyd, er enghraifft, fod brenhinoedd y Dwyrain - a'r brenin, wrth gwrs, yn cynrychioli ei bobl - yn haeru mai hwy oedd etholedig y duwiau.

Yn Nhrigle'r Cymylau, y carwn innau ryw ddiwrnod ddychwelyd i'w llwybrau cynefin ddieithr, mae'r duwiau oll yn ymgordeddu fel nadredd ansylweddol ac annelwig yn y glaw a'r niwl.

Arferent addoli nwyddau oherwydd credent mai duwiau oedd y bodau estron a ddisgynnai o'r awyr yn eu peiriannau rhyfel ac a ddeuai ag anrhegion gyda hwy.

Y mae dyn erioed wedi dymuno ennyn bendith y duwiau, ymatal rhag herio ffawd a rhagluniaeth ('Fe ddof yfory, os byw ac iach...' ) Mae'n awyddus i ennill lwc dda a chael bod yn ffortunus neu'n ffodus mewn bywyd (ansoddair sy'n tarddu o'r gair 'ffawd').

Ymgyfoethogodd a lledodd y deyrnas, ond gan mai duwiau'r byd hwn oedd y llywodraethwyr, aflonyddwyd arnynt gan y syniad o angau.

Ond fe'i cysurai ei hun drwy gofio mai hynny oedd hanes dyn drwy'r canrifoedd er pan ddisgynnodd y duwiau yn rhith anifeiliaid, i'r ddaear i garu merched dynion.

Mae Layard yn trafod chwedlau perthnasol eraill, megis hanes Zeus a Hephaestus a Thetis, a hanes geni Athene, byd duwiau'r hen Aifft a byd Aborigineaid Awstralia.

Disgrifiodd Tiglath-pileser I ei hun fel dymuniad calon y duwiau, a ddewiswyd ganddynt a'i osod yn frenin, a chyhoeddodd Cyrus i'r duw Marduc ei alw i fod yn frenin yr holl fyd.