Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dwfal

dwfal

"Be ydi mêc fy nghrys i Jini?" Mam druan yn atab "Dwfal", a medda nhad fel ergyd o wn - "Tydw i'n 'dwfalu' fama ers oriau!" Saib - nhad, mam, a ninnau'r plant yn sylweddoli beth oedd o wedi'i ddeud, a phawb fel côr adrodd 'Steddfod Genedlaethol yn chwerthin efo'n gilydd.