Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dwylo

dwylo

Wedi dod o hyd i'w phwrs, bydda Bigw yn cael gafael ar yr arian ac yn gwthio rhywbeth gwirion fel punt, neu bumpunt weithiau, i'n dwylo.

Gwasgodd ei phen rhwng ei dwylo.

Dim ond wedi mynd i'r ysbyty mae, mynd yno i wella i gad dod 'nôl at Robin bach.' A gwasgodd wyneb tyner y plentyn rhwng ei dwylo.

Y Sbaenwyr oedd yr Ewropeaid cyntaf i ddwad i wybod am siocled ac yr oedd o'n drît oedd yn toddi yng nghega rheini ymhell cyn i neb arall gael eu dwylo arno fo.

Mae modd rhagweld y troeon yn y ffordd wrth astudio gwifrau teligraff yn y pellter; mae gweld rhywun yn sefyll mewn arosfan bysiau yn arwydd go lew y gallai fod bws rownd y tro nesaf; chwiliwch yn y pellter am geir yn dod i'ch cyfarfod, a gofalwch eich bod yn tynnu a gwthio'r llyw drwy'ch dwylo yn hytrach na chroesi'ch breichiau.

Er bod gennyf chwe wythnos i baratoi yr oedd profiad wedi dysgu na ddylwn laesu dwylo.

Gallai'r ysgub, meddai'r gwiddon fod yn 'beryglus yn y dwylo anghywir oherwydd y nerth sydd ynddi.' Ymddengys i'r helynt achosi cryn bryder i rai o drigolion y pentref a dywedir bod ambell un wedi mynd cyn belled â gosod y Beibl yn ffenestri eu cartrefi er mwyn dadwneud unrhyw niwed.

Petai rhywrai'n digwydd gweld y ffilm hon ar ei hanner, a'r olygfa o'r gweithlu ym mol buwch y sinema, oll yn eu lifrai gwynion a'u helmedau lampiog a'u lanternau yn eu dwylo, gellid maddau iddynt am dybio mai glowyr oedd ar y sgrin.

'Yf, Bigw, yf...' Yn y diwedd, rwy'n cymryd ei phen i'm dwylo ac yn torri pennau'r blodau i gyd i ffwrdd.

Fy hun, fe fyddwn i'n poeni mwy am hynny nag am ferched au mannau goglais yn swrth a chyda mwy o amser ar eu dwylo nag o sens yn eu pennau.

Dilynais gyfarwyddiadau Bryn Roberts pan osododd ef ei ddwylo ar fy mhen a phump o weinidogion eu dwylo ar fy nghefn.

Mae David Griffiths wedi dadlau bod yr Adroddiadau wedi codi nid yn unig yn ateb i gais Cymro o aelod seneddol dros Coventry, William Williams, ond hefyd o fwriadau tu mewn i'r Llywodraeth ei hun, ac nad oedd Williams yn ddim byd ond offeryn yn eu dwylo.

Gallai neidio o'i gar yn Washington gan ysgwyd dwylo a chusanu babis gystal ag unrhyw arlywydd Americanaidd.

y wawr yn codi ar Gymru, hualau'n cael eu lluchio ymaith, iau gormes canrifoedd yn cael ei thynnu, y mynyddoedd yn bloeddio canu, y coed yn curo dwylo, ac felly ymlaen.

Ond er hyn i gyd, ar ôl adrodd ei stori, fe gafodd gymeradwyaeth frwd a churo traed a churo dwylo gan ei gydwladwyr.

cais drwy law'r canolwr Alex Finlayson, dal i ddod 'nôl i'n dwylo ni roedd y bêl, a hynny dro ar ôl tro.

Nid morgrugyn fel Monica yw hoff gymeriadau Saunders Lewis, ond arweinwyr sydd a'r awenau yn eu dwylo: mae cylch eu dylanwad yn gosod rheidrwydd arnynt i weithredu'n ystyriol.

Yn Ysgol Haf y Weinidogaeth Iacha/ u yn Aberystwyth y gwelais i am y tro cyntaf berson yn cymryd arddodiad dwylo dros berson arall a oedd yn glaf.

Dangosir yr un diddordeb mewn darllen dwylo; somatomaneg (y gallu i ddarllen arwyddion ar y corff dynol); cardiau tarrot; a Deja vu (term Ffrengig yn golygu 'gwelwyd eisoes').

Dysgodd Gwyn Alf Williams fod ein dyfodol cenedlaethol yn ein dwylo ni ein hunain wrth ddarllen ei ddysgeidydd, Marx: 'Mae dynion (a menywod) yn gwneud eu hanes eu hunain..

Rodd pawb yn whare i'w gilydd, yn barod i redeg âr bêl yn eu dwylo ac yn paso cyn cal eu taclo.

Cymaint haws oedd ganddi weini trugaredd a thosturi efo dwylo a chusan; gwisgo a dadwisgo, golchi a bwydo, trwsio a smwddio, anwylo a chribo, cysuro teuluoedd 'euog' a dwrdio ambell un esgeulus.

Roeddem ni'n hoffi'r rhain oherwydd, heb lyfr yn ei llaw, roedd hi'n rhydd i actio'r stori, actio efo'i llygaid a'i dwylo.

Wrth i gymeriadau pellennig bennu ar hap beth fydd eu hanes, cipiant awennau eu dyfodol i'w dwylo eu hunain a sicrhau rheolaeth dros eu tynged hwy eu hunain.

Oedd y wrach o'r diwedd wedi estyn ei dwylo gwyrdd, crafangus at y storiwr?

Hwy a aeth o gwmpas yr ysgolion dyddiol yn y tair sir, a'u holiaduron yn barod yn eu dwylo, gan gasglu atebion yn uniongyrchol gan yr athrawon a'r '...' .

phan welsant ar etholiad y `Rail-splitter o Illinois' [Abraham Lincoln], ys gwelid ef, fod tebygolrwydd y buasent hwy bellach yn colli llyw y peiriant o'u dwylo, gadawsant Washington mewn dicter a soriant - wedi moni: symudasant gyda'i gilydd i ganolbarth gwlad y cotwm; yna sefydlasant ym Montgomery, prifddinas y dalaith hon, a gosodasant i fyny lywodraeth fawr o'r eiddynt eu hunain, ac etholasant cotton planter o dalaith Mississippi yn ben arnynt - `yn engineer in chief' - i redeg y peiriant.

Daliai ei hun yn dynn gan wasgu'i dyrnau nes bod ei hewinedd yn torri cledr ei dwylo.

Mae tynged Caerdydd nawr yn eu dwylo nhw'u hunain.

Ddim yn licio'r gwir pan glywi di e.' 'Edrych 'ma gw'boi,' roedd dwylo Dilwyn allan o'i bocedi bellach, 'dyweda di un gair arall am Rhian ac mi ladda i di, fel y dywedais i'r noswaith o'r blaen.'

Magwyd ef yn y cyfnod braf gynt, cyn y Rhyfel Byd Cyntaf, pan feddylid fod popeth yn gwella wrth ei bwysau, a'r unig beth y disgwylid i bawb o'i gyfnod ei wneuthur oedd cadw'u dwylo ar yr olwyn.

Mae yna amryfal bobol yn mynd i fyny ac i lawr yr allt 'ma yn eu cerbydau, yn codi'u dwylo arna i.

Gyda'n pecynnau bwyd - diolch eto i Elin - yn ein dwylo, i lawr â ni at Eglwys Nanhyfer yng nghwmni ein tywysydd lleol Lyn Lewis Dafis, neb llai na golygydd y cylchgrawn hwn.

Penderfynwyd, felly, mai doeth fyddai dewis geiriau yn ofalus iawn wrth sôn am y sefyllfa ariannol rhag ofn i'r gweithwyr laesu dwylo.

I gychwyn y broses hon, rhaid gweithio'r toes yn dda gyda'ch dwylo.

Gafaelodd yn ei dwylo a'i thynnu'n ddiseremoni ar ei thraed a chyn iddi hi ddeall yn iawn beth oedd yn digwydd, cododd hi'n gorfforol a'i chario 'nôl i'r bwthyn.

Curodd pawb eu dwylo'n wresog, ac aeth Guto Hopcyn i eistedd at y Llewod.

Curodd pawb eu dwylo pan gyflwynwyd y fedal.

Gwthiais y polion sgio'n ddiogel dan fy nghesail - gafaelais yn dynn a'm dwylo'n uchel ar y polyn a herciodd y lifft.

"Y mae yn hawdd iawn gan gapteniaid roddi cant ac ychwaneg o'r gath naw gynffonnog ar gefn troseddwyr, ond pan yr anturiai un ei fywyd yng nghanol y Ue mwyaf arswydus am sharks yn y byd, ie, ac i achub y Uong a'r dwylo, ni chaiff ond un bunt.

Toc dyna'r dyn ieuanc yn rhoi gwawch uchel: 'Diolch, etc.' Ac ymhen ychydig neidiodd y ddynes ieuanc i fyny gan weiddi a churo ei dwylo a chicio'r sêt, nes daeth rhywrai i fynd â'r ddau aflonyddwr allan i ddod atynt eu hunain.

Yng Nghymru, fodd bynnag, yr oedd gan bobl ddigon o amser ar eu dwylo i ddeialio ac ail-ddeialio ddeg a phymtheg ac ugain o weithiau mewn hanner awr.

Mae llyfrau cyfain wedi eu hysgrifennu am y dwylo ac felly, wrth gwrs, am rannau eraill o'r corff.

Er nad oedd yr un o'r ddau yn disgleirio mewn mathemateg yn yr ysgol, roedd digon yn eu pennau i sylweddoli fod ffortiwn yn eu dwylo.

Fodd bynnag, llaesodd y Gynghrair Geltaidd ei dwylo ar ôl sefydlu'r Wladwriaeth Rydd, a bron na chiliodd o'r maes.

Yn sydyn, roedd ganddyn nhw wlad ar eu dwylo a chyfrifoldeb i'w chynnal, yn economaidd a gwleidyddol.

Rhaid cofio i Strasbourg ac ardal Alsace gyfnewid dwylo rhwng yr Almaen a Ffrainc sawl tro yn ystod y ganrif ddiwethaf.

Yn ei angladd clywais rywun yn dweud am grŵp o ffermwyr ifainc a gafodd eu cyfareddu gan ddarlith ar enwau caeau a roesai iddynt yn ddiweddar ac a safodd ar eu traed fel un gŵr i guro dwylo iddo.

Wrth ymestyn ac anwesu'r gwlân a'i fwydo i mewn i'r dro%ell, symudai ei dwylo mor ystwyth a meistrolgar â dwylo perfformiwr yn canu'r piano.

Dwylo dros eich clustie.

Beth bynnag, mi ddaeth yna gar yn gyflym o'r ochr arall i'r ffordd efo pobl yn hongian allan ohono a machine guns yn eu dwylo.

ar y cleifion y rhoddant eu dwylo, a hwy a fyddant iach.

Maen wastad yn golchi eu dwylo ar ol arbrofi.

Yna, rhaid iddyn nhw olchi eu dwylo cyn derbyn un fisgeden o brotŪn uchel a gyfrannwyd gan Norwy.

Rhown ein dwylo yn y bag a thynnu allan saith llythyren heb eu gweld; edrychwn arnynt a dechrau'r gêm.

20,000 o ferched yn clymu dwylo ac yn amgylchynu gwersyll Comin Greenham mewn protest yn erbyn gosod 96 o daflegrau Cruise yno.

Gyda hyn bydd pob modfedd o'r Penrhyn Balcanaidd yn ei dwylo neu dan ei dylanwad.

Gwaredent ddefaid oddi ar y dwylo drwy wneud plastar rhisgl helygen a finegr a'i roi ar y defaid.

Gwrthgyferbyniai'r dwylo yn drawiadol â gweddill y corff oedrannus, roedd hynny'n wir.

Rhyfeddod pennaf Morfudd, a'i thrasiedi yn ôl rhai, oedd ei dwylo.

Mae'n anodd esbonio beth a barodd imi ysgrifennu'r llyfr hwn yn fy henoed, ac eto bu'r ysfa a'r dyhead ynof ers blynyddoedd i groniclo gwaith dwylo'r gorffennol yn y cylchoedd hyn, ac i ddarganfod mewn dogfen a chofnod ôl yr ymdrechion i wella amgylchiadau bywyd o genhedlaeth i genhedlaeth.

Er fod Dafydd Elis Thomas wedi sôn flwyddyn yn ôl am annibyniaeth y Bwrdd, mae'r rhan yma o'r broses allan o'u dwylo nhw.

Profiad cyffrous yw arddodi dwylo yn enw'r Crist byw ar y claf.

Profiad pleserus yw cymryd arddodiad dwylo dros rywun sy'n glaf.

Cofio pobl am y tro cyntaf yn cael rhywfaint o arian sylweddol i'w dwylo gyda dyfodiad gwaith yr Atomfa.

Rholiwch y pric yn ol ac ymlaen rhwng cledrau eich dwylo mor gyflym ag y gallwch.

Cameron Peddie am y modd y daeth ef i gredu nad gwaith ar gyfer offeiriaid a gweinidogion yn unig yw arddodi dwylo ond gweithred i bob un a gred â'i holl galon yn yr Arglwydd Iesu Grist.

Cododd Vera ei dwylo i'w hamddiffyn ei hun a gollyngodd ei bag.

Dyna pam roedd dwylo Morfudd yn drasig yn ôl rhai.

"Roedd Gwladys a Meinir eisoes, yn ôl y drefn, wedi rhoi eu dwylo wrth eu cegau crynion, ac wedi dal eu hanadl a sgrechian, ac erfyn am gael peidio â chlywed y manylion gwaethaf.

Gwenent hwythau hefyd, er bod ambell i wg weithiau pan gâi rhywun arall chwarae ran Mair yn nrama'r Geni, ond ciliai'r wg wrth i'r hen ŵr gydio yn eu dwylo wrth gerdded o'r perfformiad.

Mae dirprwy gadeirydd newydd y Bwrdd, Elan Closs Stephens, hefyd yn credu by bydd yn gyfle go iawn i ddangos na fuon nhw'n llaesu dwylo ers saith mis.

Gosododd ei dwylo yn y cilfachau, wedyn ei draed.

Yna rhoddodd fenyg am ei dwylo, sgarff am ei gwddw ac ofyrôl wen dros bob dim gan gynnwys ei chôt.

Am ychydig ddyddiau cyn y ffeiriau 'roedd gan y gofaint fwy na llond eu dwylo o waith.

Eisteddwn yno rhyngddynt yn gwrando a'm dwylo wedi'u plethu'n wylaidd yn fy nghôl.

'Mae 'na lawer i'w wneud acw.' "Fedrwn ni ddim fforddio llaesu dwylo hefo'r etholiad.

Felly, yn ddidrafferth ac yn ddistaw rydych yn gadael y gell gydag arfau'r milwyr yn eich dwylo, yn barod i wynebu'r gelyn.

Erbyn hyn, mae rhyw stryffig o'm cwmpas yn y tren, ac mae arian yn newid dwylo rhwng pobl a'r giard a llawer o Hindi cyflym yn cael ei siarad.

Ond pan nad oes cynnwrf o'r fath, y mae hyd yn oed y selogion yn tueddu i laesu dwylo.

Y mae yn rhaid bellach i'r awdurdodau addysg gydnabod fod mwy o rym yn nwylo y llywodraethwyr ysgolion nag yn eu dwylo hwy.

Cododd y ddau eu dwylo uwch eu pennau yn ofalus.

A roedd ei dwylo'n ddideimlad.

Hwnnw'n rhedeg am ugain llath, cyn taflu'r bêl o'r tu mewn i'm dwylo i, a finne o fewn ychydig lathenni i'r llinell yn llwyddo i groesi, dan gario dau o olwyr ar 'y nghefn.

Crynai dwylo Alun wrth iddo ddatod un ohonynt yn ofalus.

Disgynnodd ei dwylo yn llipa wrth ei hochr.

Gwasgodd Del ei dwylo am ei bochau pan sylweddolodd mai ceisio dal Fflwffen oedd y lleidr.

Bellach nid yw'r mudiad yn rhoddi cymaint pwys ar y gweithgaredd pwysig yma, neu i fod yn gywirach, y mae'r awenau wedi symud o'n dwylo.