Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dwywaith

dwywaith

Does dim dwywaith nad oedd y geiriau cryfion a ddefnyddiodd Symons wrth ddisgrifio'r ardal wedi rhoi ysgytwad go gryf i bawb a'u ddarllenodd ac a'u clywodd.

Nid aeth i'r eglwys namyn dwywaith, sef ar fron ei fam, ac, ymhen ugain mlynedd, wrth ystlys un o'i gariadon.

Heno mae'r gêm bwysig a 'does dim dwywaith y bydd Iwcrain yn dipyn gwell tîm nag oedd Armenia.

'Does dim dwywaith amdani.

Ond er na dderbyniodd o mo'r ddeiseb i'w law, does dim dwywaith na chafodd o a'i bennaeth y neges yn gwbl glir.

Mae hon yn stori wych a fydd yn gwneud i bobl feddwl dwywaith am frenhines ein Llên.

Gwaith y pwyllgor hwn, a ganolwyd ar CILT, oedd casglu a dosbarthu gwybodaeth, cynnal cynhadledd breswyl genedlaethol, a chyhoeddi cylchlythyr tua dwywaith y flwyddyn (a oedd ar gael oddi wrth CILT).

Perfformiwyd rhai ou caneuon newydd megis Graffiti Cymraeg, Llenwi Fy Llygaid a Gweld y Llun - does dim dwywaith y bydd y caneuon yma yr un mor boblogaidd â Cae Yn Nefyn, Chwarae Dy Gêm, Dawns y Glaw ar clasuron eraill.

Doedd dim dwywaith mai newid gwely oedd yn gyfrifol amdano, gwyddai hynny'n iawn.

Roedd yn werth cant ag ugain ceiniog, sef dwywaith cymaint â buwch.

Mae rhai yn credu mai caethwas ydoedd, yn hen ddyn bychan, cwmanllyd, ond nid oes dwywaith fod ganddo ddychymyg byw iawn a dawn i greu straeon cofiadwy.

Does dim dwywaith nad oedd y fro honno yn un o fannau paradwysaidd y bardd; yn noddfa rhag dyddiau blin ac yn ffynhonnell bodhad arbennig.

Ar ôl sgorio chwe gôl yn eu dwy gêm gynta yn y grwp, dim ond dwywaith y gwnaeth Gwlad Pwyl greu cyfle clir i ychwanegu at eu cyfanswm.

Hanfod arall yw gwrth-ymosod a rhwygo amddiffyn, nid unwaith ond dwywaith neu dair os taw dynar angen.

'Does dim dwywaith nad ydyw'r llyfr yn taflu llawer o oleuni, mewn sawl lliw, ar y chwedl dan sylw; ac, wrth fynd heibio megis, ar lawero weithiau chwedlonol a ffuglenol eraill, o Lyfr Genesis i Un Nos Ola Leuad.

Does dim dwywaith mai tlotach fydd y Cynghrair heb rai o brif glybiau'r genedl.

Does dim dwywaith mai Elis Owen oedd y bridiwr defaid gorau yn y Cwm yn y cyfnod hwnnw.

"Rydyn ni wedi cael ymateb arbennig o dda o'r ysgolion, a does dim dwywaith amdani, mae'n rhaid i ni ddechrau gyda'r plant os ydym am ddatrys y broblem o ysbwriel a diogelu ein cefn gwlad", meddai'r Cynghorydd Tony Hughes.

Gelwir y dyfnant coediog hwn, a'r Rheilffordd o Gaerwen i Amlwch yn dilyn ei llwybr, yn The Dingle, ond 'does dim dwywaith mai ei henw gwreiddiol oedd Nant y Pandy." Enw arall ar y rhan hon o'r dyffryn, ac un hynod o addas ag ystyried sut y'i crewyd yn y lle cyntaf, oedd Nant y Dilyw.

Does dim dwywaith fod William Owen Roberts yn gallu trin geiriau, yn gallu dweud pethau bachog â'i dafod yn ei foch, ac yn deall rhythm a rhediad brawddeg.

Yr haul yw ffynhonnell holl ynni y pethau hyn, yn blanhigion ac yn anifeiliaid ac yn yr haf mae yna tua dwywaith fwy o ynni yn tywallt dros Gymru nag yn y gaeaf.