Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dybio

dybio

Petai rhywrai'n digwydd gweld y ffilm hon ar ei hanner, a'r olygfa o'r gweithlu ym mol buwch y sinema, oll yn eu lifrai gwynion a'u helmedau lampiog a'u lanternau yn eu dwylo, gellid maddau iddynt am dybio mai glowyr oedd ar y sgrin.

Thema ymchwil Wolfgang Kra%tchmer a'i gyd-weithwyr yn Heidelberg a Donald Huffmann yn Arizona dros gyfnod o amser oedd astudio llwch rhyngserol gan dybio mai carbon fyddai'r elfen fwyaf cyffredin yn y llwch.

Gellid yn hawdd dybio mai cynnar yw'r englynion, ond fel y nododd Syr Ifor Williams, er eu bod yn cynnwys enghreifftiau o hen ffurfiau neu gystrawen, ceir ynddynt hefyd odlau a geiriau a awgryma.

Ceisiai Project yr Armada, a drefnwyd gan Sydney Wignall, ddarganfod safle llongddrylliad Armada y gellid yn rhesymol dybio y byddai'n rhoi gwybodaeth inni am yr Armada na ellid ei chael o unrhyw ffynhonnell arall.

Y mae lle i dybio iddo gael bywoliaeth Mallwyd un ai trwy ddylanwad yr Esgob Morgan neu yn rhodd ganddo ychydig cyn iddo farw.

Er bod fy mam am roi'r enw 'Merlin' i'w hunig fab nid oes unrhyw sail i dybio fod ganddi lawer o wybodaeth am yr hen chwedl am Fyrddin Wyllt.

Gan dybio fod Cymreictod ar drai, torrodd y Llywodraeth newydd ei haddewid i roi ei sianel ei hun i Gymru pe câi ei hethol.

Dangos Shane, y ffilm nodwedd gyntaf i gael ei dybio i'r Gymraeg, ar y teledu.

Os oedd Ystorya Trystan, neu'n arbennig y darnau rhyddiaith, wedi cyrraedd ei ffurf bresennol yn gymharol ddiweddar, pan oedd y traddodiadau Ffrangeg wedi cael digon o gyfle i ymledu, gallwn dybio fod elfennau estron wedi eu gwrthod yn fwriadol.

'Mi awn ni yno at ymyl er mwyn inni gael gweld a chlywed' - mewn rhyw dymer gellweirus, gallwn dybio.

Fel arfer heddiw y sillafiad anghywir Cemaes a welir amlaf am i bobl dybio fod cysylltiad rhwng yr enw a'r gair maes.

Rhedodd honno i lawr y grisiau gan dybio fod Pamela'n dechrau gwallgofi ond ychydig wedi hyn cafodd hithau hefyd droedigaeth.

Prin iawn yw ceddi marwnad gan feirdd i'w plant eu hunain yn llenyddiaeth Ewrop yr Oesoedd Canol, ac mae haneswyr wedi tueddu i dybio fod y tawelwch yn dangos nad oedd rhieni'n galaru am eu plant.

Gallech dybio mai yno ar wyliau o'r Rhos yr oedd hi.

Oherwydd ei bod wedi mynd heibio i'r wâl am oddeutu ugain llath cyn dod yn ei hôl drachefn ar yr un trywydd, y mae wedi gadael dwbwl ei thrywydd arferol ar y darn hwnnw o dir a bydd y gelyn yn cael ei gamarwain i dybio ei fod ar ei gwarthaf ac ar fin ei goddiweddyd.

Achos yn y chwedegau diniwed y Galaxy Dark Room Test oedd pinacl trachwant pobl ifanc gallem dybio.

Cyn i mi wneud hynny arferwn dybio fod y bardd, wrth syllu ar donnau'r môr yn torri ar graig, a hynny o bellter teg, yn sydyn wedi eu 'gweld' fel cŵn ymosodol; hynny yw, fod y ddelwedd o gŵn ysgyrnygus wedi ffrwydro i'w feddwl yn y fan a'r lle, yn syfrdanol o uniongyrchol felly.