Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dybryd

dybryd

Yn wyneb argyfwng dybryd, anogodd yr Ysgrifennydd Cartref, sef Winston Churchill, bob Prif Gwnstabl i ricriwtio aelodau newydd i'r Polîs Arbennig - '...' lle byddai hynny'n bosibl.

Ond os yw am fod yn awdurdod ar ffermio rhaid cydnabod mai anfantais dybryd fyddai hynny.

Mae angen dybryd i wella ansawdd y gwaith o ddadansoddi ystod eang o bynciau ar gynyrchiadau newyddion a materion cyfoes BBC Cymru.

ddim oll i gynnig unrhyw help iddo; a chafodd Waldo siom enbyd, a theimlodd ddigalondid dybryd.

Y mae angen dybryd am ailgydio yng ngwirioneddau sylfaenol yr Efengyl.

Os pery'r sefyllfa fel ag y mae yna mae perygl dybryd na ddefnyddir y Gymraeg o gwbl gan yr aelodau.

Cyfeiriwyd at brinder dybryd mewn rhai meysydd gan y gweithgorau sector, e.e.

Ni all Glyn Ebwy fforddio gwneud siwrne ofer oherwydd maen nhw mewn trafferthion ariannol dybryd ar hyn o bryd.

Er iddo wadu'r cydraddoldeb sydd yn ymhlyg yn nysgeidiaeth Crist cam dybryd a gafodd y meddyliwr gonest hwn pan drodd y Natsiaid ei gred yn yr Uwchddyn i'w melin afiach eu hunain: yn y bon, ei orchfygu ei hun yw camp Uwchddyn Nietzsche a byw'n beryglus yn y meddwl, gan gefnu ar deganau gwael y dorf.

Cyffesaf yn wir fy anwybodaeth dybryd o'm gwlad fy hun.

Yn Andorra, gogledd Sbaen yr oeddwn, ac wedi dewis dod yma am nad oeddynt yn cymryd y sgio o ddifri - camgymeriad dybryd!

Rhediad hir crymaidd o ganol y maes i'r asgell dde gan y maswr bach o Lanelli (a roddodd amser inni gofio am Cliff Morgan a Phil Bennett, a diolch yr un pryd y bydd gennym ni faswr o'r iawn ryw unwaith yn rhagor cyn bo hir), a dau gais, y naill ar ôl camgymeriad dybryd gan Thorburn a James Reynolds, yr asgellwr chwith ifanc, yn eu ceisfa, a'r llall, a'r olaf, pan ddaliodd Simon Davies y bêl o gic gosb Stephens wrth y postyn chwith.