Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dychrynllyd

dychrynllyd

Yna byddai'r trueiniaid yn cael eu cludo dan amodau dychrynllyd ar draws yr Iwerydd i'w gwerthu am grocbris mewn marchnadoedd megis Havanna a New Orleans.

Y Fari Lwyd oedd ein ceffyl ni, - digon dychrynllyd i gael gwared ag unrhyw ysbryd aflan (Gweler The Hobby Horse and other Animal Masks - Violet Alford.) Dawns y Glocsen wrth gwrs yw'r unig draddodiad dawnsio di-dor sydd gennym yng Nghymru.

Unwaith yn rhagor, mae'n berffaith amlwg i'r rhai sydd wrthi'n brwydro mewn cymunedau Cymraeg fod y cyfan yn gallu bod yn faich dychrynllyd.

Y peth cyntaf y sylwodd Gatti arno oedd y drewdod dychrynllyd a ddeuai o'r ogof.

Amrywia'r actio rhwng yr ofnadwy a'r dychrynllyd gyda'r actorion yn cyhoeddi eu llinellau yn hytrach na'u siarad.

Roedd un o storïau mwyaf dwys y flwyddyn, hanes dychrynllyd Josie Russell ond un sy'n rhoi hwb i'n gobeithion yn bwnc rhaglenni radio a theledu rhwydwaith: adroddodd Josie's Story yr hanes ar BBC Un a defnyddiodd BBC Radio 4 ddyddiaduron personol a theimladwy Shaun a Josie Russell yn Life with Josie.

Holl bleser hen bobl fyddai casglu at ei gilydd wrth dân mawn o dan yr hen simdde fawr ac am y goreu chwedl a'r mwyaf dychrynllyd ei stori.

Cododd y ffrae fywaf dychrynllyd rhwng Eproth ac Ynot (dau hen elyn, debyg iawn) a rhwng Nosliw'r Gweinidog Bwyd a Chynhaliaeth, a Thaeh, y Canghellor.

Doedd dim amdani ond dringo'r grisiau i'r bwyty, a chan ei bod hi bron iawn yn hanner dydd, prynodd ginio i'r tri ohonynt er gwaethaf y prisiau dychrynllyd.

* * * * * Daeth tri phla dychrynllyd i ormesu Ynysoedd Prydain ac ni fedrai'r bobl druan, na Lludd, wneud dim ynglŷn â nhw.

Ym Mosambique yr wythnos diwethaf yr oedd gwraig yn geni ei phlentyn ar ben coeden ller oedd hi ac eraill wedi gorfod dianc rhag y llifogydd dychrynllyd syn boddir wlad.

Sefydlwyd Yr Haul "mewn cyfnod neillduol yn hanesyddiaeth Prydain Fawr", meddai'r golygyddion, "oblegid yn adeg ymddangosiad y Rhifynnau cyntaf, yr oedd y llifddor wedi ei gyfodi, a'r ffrwd dinystriol, mewn agweddiad dychrynllyd, yn bygwth trangcedigaeth sefydliadau gwladol a chrefyddol y deyrnas hon".

Fe'u rhoed i hongian yn y granar ond drannoeth yr oedd y lle'n drewi yn y modd mwyaf dychrynllyd a bu'n rhaid eu claddu ar fyrder.

Yn ei gerdd 'Washington ', mae Gerwyn Williams yn mynd â ni yn ôl at un o'r golygfeydd mwyaf dychrynllyd a welwyd yn yr ugeinfed ganrif.

Er pan rydw i yma, mi dwi'n methu cysgu ar ôl i mi fynd i 'ngwely, achos mae 'na dŷ tafarn mawr dri drws i lawr, ac mae sŵn dychrynllyd yn dod o' 'na, bob awr o'r nos bron iawn.

Cododd ofn dychrynllyd arno.

O gamu ymlaen i Eisteddfod Genedlaethol Nedd ym 1994, mae Gerwyn Williams yn un o gerddi'r dilyniant 'Dolenni' hefyd yn sôn am un o ddelweddau mwyaf dychrynllyd rhyfel Fietnam yn ei gerdd 'Washington'. Mae'n mynd â ni yn ôl at y llun o'r ferch fach Phan Thi Kim Phuc yn ffoi, dan lefain, o gyfeiriad ei phentref, ac yn rhedeg yn noeth, a llosgiadau'r napalm i'w gweld ar ei chroen.

Gollyngir dros gof yn llwyr fod ugain mlynedd o Ffasgi%aeth wedi esgor ar ddirywiad dychrynllyd yn yr Eidal - datblygiad hollol anochel.

Ceir hanes gweithgareddau diweddaraf Mynydd Parys yn yr Oriel gydag eitemau o offer y mwynwyr a dillad arbennig y "copor ladis" (sef y merched a weithiai dan amodau dychrynllyd yn y gwaith) wedi eu gosod ymhlith samplau o gerrig mwynol o'r mynydd.

Gwelwyd sawl achos yn y blynyddoedd diwethaf lle'r oedd pobl wedi lladd fel ymateb i gamdriniaeth annioddefol neu am na allent oddef yn hwy gweld rhywun annwyl iawn mewn ing dychrynllyd.