Y mae yna gred gyffredinol fod yma doreth o ddŵr wedi ei gaethiwo yn rhewllyd mewn cilfachau dyfnion o'i mewn yn union fel y ceir rhew parhaus o fewn y Twndra yma ar y Ddaear o fewn yr Artig oer.
Yr oedd Pakistan mewn dyfroedd dyfnion â'r sgôr yn 64 am dair wiced.
Ni wn am harddach tai na ffermdai unigryw yr Engadin - y pyrth mawr bwaog ar gyfer troliau, y ffenestri dyfnion ciwbig, y rhwyllwaith haearn, y patrymau a'r arfbeisiau a'r adnodau Romaneg ar wyngalch neu hufengalch y talcenni, heb son am banelau a nenfydau a meinciau pin y parlyrau gyda'u stofiau anferth addurnedig.
Mae'n llawer rhy hawdd cael benthyciad y dyddiau hyn, a dyw'r sawl sy'n rhoi'r arian yn aml iawn ddim yn poeni os bydd y ddyled yn faen melin am wddf rhywun, ac yn eu harwain i ddyfroedd dyfnion.
Fe allai capten Abertawe, Scott Gibbs, fod mewn dyfroedd dyfnion, hefyd.
Gallaf gydymdeimlo â chyfieithwyr yn yr Alban a fu mewn dyfroedd dyfnion yn ystod trafodaethau'r senedd yn diwygio Cymal 28 yno.
Erbyn i'r chwarae orffen ddiwedd y dydd yr oedd Sri Lanka mewn dyfroedd dyfnion ar 98 am chwech.
Bydd felly obaith na thry ef ddim byd amgenach na thudalen llyfr, ac y cyfyngir ei aredig i dorri cwysi dyfnion ar dalcennau hen ffermwyr anhydrin.
a ni wn am un cwestiwn addysgol, gwleidyddol na chrefyddol nad oes ganddo wreiddiau dyfnion yn y pwnc hwnnw.
'Roedd llifogydd wedi golchi'r hen ffordd yn rhigolau dyfnion, anwastad gan amharu ar geir y bechgyn ar eu taith i'w swyddi bob dydd.
'Roedd Halen yn y Gwaed yn plymio i ddyfroedd dyfnion pechod a chydwybod yr wythnos hon, mewn pennod o actio grymus.
Doedd o fawr o le er fod lliwiau ei wrychoedd a'i goedydd yn rhai na welodd o'r blaen ac roedd amryw o gaeau bychain o gwmpas a chul-lwybrau dyfnion yn ymestyn i'r pellter.
Dacw'r nefoedd fawr ei hunan 'N awr yn diodde' angau loes, Dacw obaith yr holl ddaear Heddiw'n hongian ar y groes; Dacw noddfa pechaduriaid, Dacw'r Meddyg, dacw'r fan Caf fi wella'r holl archollion Dyfnion sy ar fy enaid gwan.