Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dyfynnu

dyfynnu

Mae'n dal i allu dyfynnu Shakespeare ar ei gof.

Y mae Hywel Teifi yn dyfynnu beth a ddywedodd Saunders Lewis am un o nofelau T.

Pam dyfynnu'r Llyfr Gweddi yn Saesneg?

Aeth yno i Salonica ym Macedonia gyda'r uned Gymreig arbennig o'r 'Royal Army Medical Corps (RAMC).' Corfflu Meddygol oedd hwn 'ar gyfer gweinidogion a darpar-weinidogion, myfyrwyr diwinyddol ac eraill o dueddiadau heddychlon a ddymunai wasanaethu yn y Rhyfel Mawr heb orfod trafod arfau.' Ond, a dyfynnu unwaith eto o'r cofiant: 'Hyd yn oed cyn iddo gyrraedd pen y daith, yr oedd Dei Ellis yn dyheu am ddychwelyd i Gymru.

Mae geiriau Gruffydd Robert, wrth gwrs, yn enwog iawn: 'E fydd weithiau'n dostur fynghalon wrth weled llawer a anwyd ag a fagwyd im doedyd, yn ddiystr genthynt amdanaf, tan geissio ymwrthod a mi, ag ymgystlwng ag estroniaith cyn adnabod ddim honi.' A dyma Sion Dafydd Rhys yntau yn mynegi'r un pryder: 'Eithr ninheu y Cymry (mal gweision gwychion) rhai o honon' ym myned morr ddiflas, ac mor fursennaidd, ac (yn amgenach nog vn bobl arall o'r byd) mor benhoeden; ac y daw brith gywilydd arnam gynnyg adrodd a dywedud eyn hiaith eynhunain' - ac ymlaen ag ef i ddiarhebu'r cyfryw bobl mewn iaith braidd yn rhy liwgar i'w dyfynnu yn gysurus yn Hebron Clydach!

Mewn gwaith yn cael ei gyhoeddi gan Wasg y Brifysgol, yr wyf yn credu ei bod yn deg mynnu fod awduron yn dyfynnu o'r ffynonellau gorau.

Mae'n werth dyfynnu'r paragraff hwn oherwydd mae'n dweud mwy am y gwir bryder ynglŷn ag addysg academaidd ac uwchradd nag y mae cyfeiriadau Iolo Caernarfon (er enghraifft) at y Cwrdd Misol yn haeru mai 'hunan a balchder oedd wrth wraidd' dymuniad Dr Owen Thomas i fynd i Brifysgol Edinburgh.

Yr oedd ei thad yn 'rhyw berthynas i Twm o'r Nant' ac wedi bod yn cystadlu prydyddu difyfyr ag ef, ac yr oedd hithau wedi gwrando ar anterliwdiau Twm ddigon o weithiau i allu dyfynnu llinellau ohonynt pan oedd dros ei phedwar ugain.

Carwn fedru dyfynnu'r frawddeg ar y cof a dyma ymgais: 'Roedd prif broffwyd llyfrgellwyr Lloegr, a pherson a edmygwn i mor fawr, wedi traethu gwirionedd!

Beth am yr ymdeimlad - a dyfynnu bardd diweddarach, un o genhedlaeth drasig y Rhyfel Mawr Cyntaf - yr ymdeimlad fod Duw ar drai ar orwel pell?

Mae hi'n werth dyfynnu enghraifft o'i waith cyfieithu, o'r Saesneg i'r Gymraeg y tro hwn, er mwyn cael cymharu'r fersiwn gwreiddiol a'r cyfieithiad ochr-yn-ochr.

Nid llawer, efallai, sydd wedi darllen pregethau John Donne, ond daeth un frawddeg ohonynt yn bur hysbys ar ôl i Ernest Hemingway ei dyfynnu ar flaen ei nofel, For Whom The Bell Tolls.

Mae angen ystyried pa fersiynau o destunau Llwyd sy'n cael eu dyfynnu, a'r un modd gyda Chradoc.

Ynteu a ydym i dderbyn nad yw dyfynnu'r geiriau hyn ond yn rhethreg gwag ar ran Tywysog, nad yw'n deall, neu nad yw o ddifrif ynghylch, y geiriau y dewisodd eu llefaru?

Yr oedd y Piwritaniaid yn hynod gysact yn dyfynnu'r Beibl.

Ddarllenais i o yn rywle wsnos dwytha -- a dwi'n dyfynnu i'w gael o'n gywir -- taw swyddogaeth Cymdeithas yr Iaith ydi 'chwalu'r drefn bresennol.' Nid dyna swyddogaeth Deddf yr Iaith Gymraeg na chorff cyfrifol fel Bwrdd yr Iaith.

ôl nodyn gan y Golygydd: Ar derfyn ei ysgrif y mae Thomas Jones yn dyfynnu enghreifftiau o farddoniaeth Hugh Evans.

Gwell dyfynnu crynodeb Elwyn L.

Y mae L'Etang yn dyfynnu rhan o ddisgrifiad rhyw aelod Llafur o ymddygiad Eden yn Nhŷ'r Cyffredin yn gynnar yn Nhachwedd:

Wrth gwrs ni fyddai rhywun byth yn dod i ben a dyfynnu cyfeiriadau difyr allan o gyfrol fel hon a'i dalennau yn brothio ohonyn nhw.

Yr oedd yr adroddiad hefyd yn dyfynnu geiriau swyddog o Eglwys yng Nghymru a ddywedodd: 'Everybody fights against the devil, and it is good to see the DVLC in Swansea are taking people's religious feeling seriously.'

Yn y gerdd Mai, sy'n dyfynnu o waith Dafydd ap Gwilym, mae'r syniad o eironi'n gryf wrth iddi ddefnyddio'r dail a'r coed, fel Dafydd, ond i greu delwedd wahanol.