Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dyheu

dyheu

Wyneb 'mor sur â phot llaeth cadw' sydd gan Huw yn y stori 'Gobaith', ac i Poli, mae'r nam ar y diwrnod y bu'n dyheu amdano 'fel pry du wedi disgyn i lefrith' ('Mis Medi').

Un o nodweddion bywyd Cymru ym mlynyddoedd agoriadol y ganrif oedd y dyheu cyffredinol am ddeffroad ysbrydol.

Dyheu'n ofer am ei atgyfodi fel yr oedd sydd yn y trydydd, ond ar ddechrau'r paragraff nesaf mae'r bardd fel petai'n derbyn fod y bedd wedi'i gau, ac wrth ystyried beth roedd Siôn yn ei olygu iddo mae'n ei fewnoli'n rhan ohono'i hun.

Hwyrach bod miloedd o bobl Dwyrain Berlin wedi bod yn dyheu am gael mynd i ryddid Gorllewin Berlin - ond fe fuasen nhw wedi cael eu lladd yn syth pe baen nhw wedi ceisio croesi'r wal.

Aeth yno i Salonica ym Macedonia gyda'r uned Gymreig arbennig o'r 'Royal Army Medical Corps (RAMC).' Corfflu Meddygol oedd hwn 'ar gyfer gweinidogion a darpar-weinidogion, myfyrwyr diwinyddol ac eraill o dueddiadau heddychlon a ddymunai wasanaethu yn y Rhyfel Mawr heb orfod trafod arfau.' Ond, a dyfynnu unwaith eto o'r cofiant: 'Hyd yn oed cyn iddo gyrraedd pen y daith, yr oedd Dei Ellis yn dyheu am ddychwelyd i Gymru.

Ella bod llawer o'r bobl yma'n dyheu am weld pethau'n newid ond eu bod nhw'n dewis gadael y gwaith i bobl eraill.

?' 'Ddim rwan, Bob,' meddai Lisa, gan ysgwyd ei phen yn bendant a dyheu am fedru rhoi rhyw arwydd i'r gŵr ifanc i beidio â datgelu unrhyw gyfrinachau.

Dyheu am weld diogelu'r gymdeithas honno yr oedd pan luniodd y geiriau:

Er inni gael ein creu, yng ngeiriau'r Salmydd, 'ychydig is na'r angylion', er inni gael ein cynysgaeddu â meddwl rhyfeddol a doniau nodedig, pobl ydym o gig a gwaed, llestri llawn craciau, yn dyheu beunydd am angor, am gysur a sicrwydd.

'Bron na ddywedwn ei fod yn dyheu am gael marw'n ifanc.

Pan fo'r bywyd ysbrydol ar drai y demtasiwn fawr yw gwneud Iesu'n foddion i sicrhau unrhyw fendithion yr ydym yn dyheu amdanynt.

Ond ymhell cyn imi ymadael a Rwsia roeddwn innau hefyd yn chwennych taro i Tesco ac yn dyheu am gael agosau at Argos.

Ni wn a fu unrhyw awdur o Gymro 'ymhellach' oddi wrth ei ddarpar gynulleidfa, ac eto'n dyheu am eu sylw.

Nid un o'r ymwelwyr yn dyheu am gipolwg o'r parti tu ôl i'r porth mawr, cywrain, gyda'r geiriau, Welsh Hills Works arno ond un o'r gwahoddedigion.

Roedden nhw mor agos a gwyddai'n iawn fod yr ychydig gannoedd o filwyr y Senedd a oedd yn y castell yn dyheu am ei weld ef a'i fyddin.

Ac fe aeth ymlaen i ddarllen 'Adnabod' - a gwyddwn cyn iddo orffen mai honno oedd ei gân oedd yn mynegi'r hyn yr oedd ef yn dyheu amdano - sef gweld cariad ac ewyllys da yn bodoli rhwng pobl o wahanol genhedloedd.dyma Waldo'n gofyn iddo a oedd ganddo lamp beic i'w gwerthu.

Ceisiodd wau ei ffordd drwy'r dyrfa a'r ceffylau, a chyhyrau'i freichiau'n dyheu am roi'r gurfa.

Yr oedd o'n rhan ohoni hi a'i chorff hi'n dyheu amdano.

Mae'r byd yn dyheu am weld gwledd o bêl-droed y tro hwn