Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dylanwadol

dylanwadol

Er gwaethaf ymdrechion carfan o eglwyswyr dylanwadol o dan arweiniad yr Aelod Seneddol, Benjamin Hall, (Llanofer ac Aber-carn), methodd yr Eglwys ymateb yn ddigon cyflym i ofynion y sefyllfa newydd a gododd yn sgil diwydiannu.

Jones ei Hysgrifennydd mwyaf dylanwadol, bu'r lleiafswm o ddamcaniaeth wleidyddol yn ddigon yn ei olwg.

O fewn ychydig fisoedd i ddrama Iorwerth Glan Aled weld golau dydd cyhoeddwyd yn y papur dylanwadol Yr Amserau ddarnau helaeth o ddrama ddychan yn dwyn y teitl Brad y Llyfrau Gleision heb enwi'r awdur.

Angen golygydd -- mae potensial yma i fod yn gyfrwng dylanwadol.

Ar ôl cael triniaeth at ei alcoholiaeth trodd Stan yn ddyn busnes llwyddiannus a thrwy ei gysylltiadau gyda'r cynghorydd lleol, Herbert Gwyther, a Ieuan Griffiths ar ôl hynny, llwyddodd Stan i fod yn ddyn dylanwadol iawn.

Ceir elfennau dylanwadol yn arbennig yn Lloegr a Ffrainc sy'n wrthwynebol i ddyrchafu'r dalaith ar draul y genedl-wladwriaeth.

Camp raenus oedd ei gwrs addysg trwodd a thro, a chyrraedd ei uchafbwynt trwy gipio'r prif wobrwyon yn Rhydychen a'i ethol yn Gymrawd o Goleg Lincoln, a dyfod yn un o ddarlithwyr mwyaf dylanwadol y Brifysgol.

Mae rhyw gynllwyn anymwybodol i yrru i'r ymylon weithgareddau diwylliannol nad ydynt yn deillio o'r canolfannau pwysig dylanwadol hyn.

Pan dynnwyd sylw'r gwleidydd dylanwadol, Iarll Leicester, un o noddwyr y Piwritaniaid, at yr hyn a ddigwyddodd yr oedd yn bur ddig a mynnodd gan yr esgob atal ei law.

Fel pob rhan arall o'i eiddo, mae hon wedi bod yn ddigon dylanwadol.

O ganlyniad, roedd sicrhau gwisg Gymreig i'r ddwy chwedl hyn, o bosibl i gomisiwn Hopcyn ap Tomas, noddwr dylanwadol o Gwm Tawe, yn fodd i ddarparu ar gyfer y gynulleidfa Gymraeg waith na ellir ond ei ddisgrifio fel un o bestsellers yr oesoedd canol.

Derbyniai nawdd gan amryw o wŷr mawr y cyfnod, a'r rheini'n weinidogion dylanwadol yn ddieithriad, megis Thomas Rees, Abertawe, W.

O ganlyniad yr oeddent yn ddosbarth sylweddol a dylanwadol ym mywyd y Coleg.

Ond wrth fudo i sir Northampton yr oedd yn ymuno â mudiad Piwritanaidd a oedd yn llechu o dan adenydd gwyr dylanwadol ac a oedd yn ymddangos fel petai dyfodol disglair o'i flaen.

Dywed ef wrthym fod tad Waldo'n "ddyn arbennig iawn, yn ddyn o gymeriad cryf a dylanwadol.

yr oedd mawrion lloegr yno, oherwydd yr oedd william preece yn un o beiriannwyr mwyaf dylanwadol ei gyfnod.

roedd ei allu fel pregethwr dylanwadol yn amlwg iawn yn ei ddawn fel areithiwr effeithiol a daeth i fri yn fuan iawn fel siaradwr cyhoeddus.

Yr oedd ef yn gyfreithiwr llwyddiannus gyda chysylltiadau tra dylanwadol.

Y mae ein dyled ni'r Cymry'n ddwfn i'r bobl a'r mudiadau a frwydrodd yn ddiymarbed dros y blynyddoedd i sicrhau na châi'r cyfrwng cyfathrebu pwerus a dylanwadol hwn foddi ein hiaith a'n diwylliant a'n traddodiadau cenedlaethol.

Y mwyaf dylanwadol ohonynt oedd yr Ysgol Sul.

Wrth i'w cynulleidfaoedd chwyddo, tyfai'r gweinidogion yn fwyfwy dylanwadol, a daeth yr ardal ddiwydiannol yn faes cenhadaeth deniadol i ŵyr brwdfrydig a dysgedig megis Thomas Rees, Cendl, Noah Stephens a Robert Ellis (Cynddelw), Sirhywi, John Jones (Ioan Emlyn), Glynebwy a William Roberts (Nefydd), y Blaenau.