Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dyledus

dyledus

Ar ben hynny roedd wedi gorfod talu llawer rhagor nag yr oedd wedi ei ragweld i was am wneud gwaith y tyddyn yn ei absenoldeb a bu colledion oherwydd nad oedd, ynghanol ei brysurdeb fel Ysgrifennydd Cyffredinol, wedi medru rhoi'r sylw dyledus i'w gartref.

Diolch byth bod yr hen roddwr hael yn cymryd ei dalu mewn darnau plastig meddyliaf wrth fy hun wrth ymuno â'r ffyliaid dyledus eraill sy'n llifo o gwmpas honglaid o warws a'i lond o deganau a rheiny res ar res o'r llawr i'r to ugain troedfedd a mwy uwch fy mhen.

Un cynnig nad yw wedi derbyn y sylw dyledus yw'r cymal sy'n argymell sefydlu Cyngor Rhanbarthau i Ewrop.

Rhan o'n cynhysgaeth ni yw mawrygu'r iaith ac yr ydym yn dra dyledus i'r ysgolheigion hynny, fel Syr John Morris Jones, a'n dysgodd ni i geisio anelu at y safonau uchaf posibl wrth drafod yr iaith.

* roi'r sylw dyledus i'r unigolion a'r grwpiau hynny o fewn dosbarth sydd ei angen am wahanol resymau e.e.

Mae hyn yn crisialu ymrwymiad y BBC i ddatganoli gan sicrhau y caiff materion y dydd y sylw dyledus.

Oedodd am eiliad neu ddwy i roi'r pwyslais dyledus i'w hateb.

Trefnwyd y noson gan Sian Gwenllian, a dyledus yw'r pentref i ymdrechion y wraig dalentog yma am ei holl waith yn y gymdeithas leol.