Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dylent

dylent

Dylent hefyd asesu ar wahân a yw'r safonau hyn yn cyd-fynd ag oedran a gallu'r disgyblion.

Dylent fod wedi cael eu pedoli oriau ynghynt a doedd dim synnwyr iddyn nhw fynd gam ymhellach - fyddai ceffylau cloff yn dda i ddim i neb.

Digwyddodd hyn bron ar ddiwedd y gwyliau ac er bod y fam a'r tad yn sylweddoli y dylent roi cyfrif am yr achlysur ar unwaith i'r awdurdodau yn y Cei, eto sylweddolsant y byddai yn rhaid iddynt aros yn hwy yn Sir Aberteifi nag y trefnasent, felly, dyma benderfynu mynd â chorff y famgu adref gyda nhw a chymryd arnynt ei bod wedi marw gartref gan hysbysu'u meddyg teulu o'r ffaith bod marwolaeth wedi digwydd a gofyn iddo ef ddelio â'r mater ar ôl cyrraedd gartref.

Heblaw am y trysorydd, dylent ffurfio gweithgorau i'w cynorthwyo yn eu gwaith.

Dylai ysgolion fod ag agweddau positif, dylent gytuno ar bolisi%au pynciau a gefnogir gan amcanion a nodau, ac fe ddylent weithredu trefniadau cwricwlaidd a threfniadol i gefnogi disgyblion ag AAA.

yng nghymru ceisiodd pregethwyr o fri ddarbwyllo eu cynulleidfaoedd y dylent gefnogi bob ymdrech i ymgyrchu o blaid heddwch.

fy marn i yw i terry yorath a peter shreeves wneud gwaith da ac y dylent, felly, gael dal ati.

Portreadid y Tuduriaid ar gynfas yn y fath fodd i'w harddangos, nid fel yr oeddynt mewn gwirionedd ond fel y dylent fod.

Dylai arolygwyr gofnodi'r gymhariaeth gyda'r cyfartaledd cenedlaethol ond dylent hefyd ganolbwyntio'n arbennig ar asesu cyrhaeddiad y disgyblion ag AAA mewn perthynas â'u galluoedd.

Rhyfeddach fyth i dipyn o synig a oedd i raddau y tu allan i bethau oedd gweld cefnogwyr gweithredu uniongyrchol yn barnu mai cyflwyno a chadarnhau cynnig ffurfiol mewn Cynhadledd Flynyddol oedd y cam beiddgar cyntaf y dylent ei gymryd.

Dylent hefyd nodi unrhyw faterion sy'n ymwneud ag iechyd a diogelwch.

Tra mae'r myfyrwyr yn penderfynu sut a pham i newid er gwell fywydau'r dosbarth gweithiol (gyda chymorth ysgrifau Mao yn yr achos hwn), maent yn gwrthod yn lân â derbyn y dylent ystyried eu dyheadau eu hunain gyda'r un trylwyredd.

Dylent fod yn ymwybodol yn bennaf o:  sicrhau diogelwch ac amddiffyniad  trafod ymosodiadau fel troseddau  eu gallu i restio tramgwyddwyr a'u cymryd i'r ddalfa  cyhuddo tramgwyddwyr - perygl ceisio cymodi  cadw gwell cofnodion  cydgysylltu ag asiantaethau meddygol a chynorthwyol Y rheswm mai croeso pwyllog a roddir gennym i'r mesur hwn, heb law am resynu'r ffaith nad ymgynghorwyd â ni cyn ei gyhoeddi, yw ein bod yn ymwybodol iawn o'r angen am adnoddau ychwanegol - i'r awdurdodau heddlu er mwyn gweithredu'r canllawiau, ac i asiantaethau eraill fel ninnau i ymateb i'r cynnydd tebygol a fydd yn y galw am ein gwasanaethau.

Dylent 'yswylio a gwladeiddio pan ddywetont ddyeithriaith wrth eu cytwladwyr, o ulaen eu hynrytlawn vamaith, y velusber Gymraeg'.

Dylent hefyd nodi unrhyw faterion sy'n ymwneud ag iechyd a dioglewch.

Ymunai pob sefydliad Seisnig a Saesneg a'r Llywodraeth i'w trwytho â'r gred mai er mwyn Prydain Fawr a thrwy'r iaith Saesneg y dylent fyw.

Dechreuodd fel prentis crydd, ac y mae ef a Daniel Owen yn enghreifftiau da o'r dosbarth o grefftwyr yn y ganrif ddiwethaf sydd yn eu hymdrechion i ddod o hyd i lyfrau da, i'w darllen, ac i ymddiwyllio arnynt yn gyfryw ag y dylent godi cywilydd wyneb arnom ni yn y ganrif hon gyda'n haddysg rad, ein horiau gwaith cwtogedig a'n horiau hamdden helaeth.

* gadw trefn a rheolaeth ar yr hyn a gyflwynir ac a ddysgir trwy benderfynu ar agweddau megis: -faint o'r gwaith y dylent hwy ei gyflwyno, -beth sydd yn addas i'r disgyblion ei wneud ac a fydd yn dangos dealltwriaeth o'r prif syniadau a chysyniadau, -faint o amser sy'n addas ar gyfer eu cyfraniadau hwy a faint ar gyfer cyfnodau plentyn-ganolog, -reoli cyflymder yr addysgu/ dysgu a chadw'r dosbarth gyda'i gilydd i astudio'r un maes er y gellid cyflwyno gwaith gwahaniaethol o'i fewn;