Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dymer

dymer

Teimlai Geraint fod yr Arolygydd ar fin colli ei dymer.

Torrodd y llinyn brau a fu'n cadw rheolaeth ar dymer Dilwyn.

Arni hi yr oedd y bai i gyd, arni hi a'r dymer wyllt honno a etifeddodd gan hynafiaid Ffrengig ei thad, meddai ei mam.

Meddwl oeddwn i fod pobl 'run fath â ti, rwyt ti'n gweld, bob amser i'w cael mewn tai bach - cachgi yn y cachdy, fel petai.' 'Mae'n ddrwg 'da fi nad oes gen ti ddim byd gwell i'w wneud, Gary, na'm dilyn i o gwmpas y lle, ond mae gen i.' Gwyddai Dilwyn ei bod yn rhaid iddo gadw'i dymer, beth bynnag a ddywedai'r cythraul hwn.

'Mi awn ni yno at ymyl er mwyn inni gael gweld a chlywed' - mewn rhyw dymer gellweirus, gallwn dybio.

Yr oedd yn siriol a dengar gyda'i gydweithwyr, ac ni chollai ei dymer byth gyda'i wrthwynebwyr, ond eu hateb yn gwrtais a bonheddig.

Cyfuniad o'r ystyfnigrwydd a'r dymer a barodd iddo droi'n eglwyswr am gyfnod.

Gwyddai fod ganddo rywbeth personol yn erbyn ei dad, a gwyddai y carai gael gwared ohono, ond medrai ei dad gadw'i dymer, yr hyn na fedrai Wiliam.

Yn ei dymer, meddai, roedd wedi ei tharo yn ei cheg nes tynnu gwaed.

Roedd pawb yn disgwyl y byddai'r cowmon ryw ddiwrnod yn colli'i dymer a churo'r fenyw annioddefol i farwolaeth.

Ond pwysicach na'i arddull na'i ffydd yn y werin oedd naws neu dymer ei ysgrifeniadau.

Ydach chi'n deall?" Roedd ymdrech Rees i gadw ei dymer i'w glywed yn amlwg yn ei lais.

Roedd o'n ei hadnabod hi'n ddigon da i wybod na fyddai ei ffit o dymer yn para'n hir.

Dim golwg o dymer dda, chwaith.

Rwy'i am eich rhybuddio chi - mae'r Proffesor yn - wel - dipyn yn wyllt 'i dymer weithie.

Collodd Douglas Bader ei dymer unwaith yn rhagor.

Roedd hi'n lwcus y gallai ffrwyno'i dymer.