Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dyna

dyna

Dyna pam y penderfynwyd ar unedau hyfforddiant mewn swydd cymharol fyr yn hytrach na llyfr.

Dyna fo i'r dim - Alwyn Hughes Thomas - mi faswn i wrth fy modd yn cyhoeddi enw fel yna.

Dyna ddull Natur o'i diogelu rhag ymosodiadau ei gelynion.

'Bygythiad i ni - dyna oedden nhw.'

"Dyna'r peth gorau a ddigwyddodd i mi erioed," ebe'r morwr wrth wylio'r pysgodyn mawr yn troi ar ei gefn ac yn nofio i ffwrdd.

Dyna i gyd.

Dyna'n sicr un o'i gryfdere mawr.

Dyna ddiwedd ar ei phopeth.

A dyna'r siaced law ddibwrpas, ddiystyr honno, y math a wisgai pobl o'i oed e, mae'n siŵr, er mwyn peidio teimlo'n noeth allan ar y stryd.

Doed o hyd i ol ei traed her creigiau Trwyn yr Wylfa drannoeth, a darganfuwyd ychydig o datws yma ac acw, ond ni welwyd byth mo'i chorff.Dyna un rheswm dros i Mam gasau'r mor.

A dyna, yn fy marn i, bennaf camp y Cofiant presennol.

Dyna beth oedd y pysgodyn yna'n dda, i ddenu cath i mewn i'r trap !

Ar ôl cyfnod o ddala, aeth Phil i weithio ffwrnais pan oedd tuag un ar bymtheg mlwydd oed, a dyna'r gwaith caletaf yn y felin bryd hynny.

Ac yn sicr dyna'r disgrifiad gore o'r gêm yn erbyn Lloegr a oedd yn un o'r geme rhyfedda i mi ei chwarae o gwbl.

Does gan y darllenwr ddim ots beth fydd eu ffawd oherwydd eu bod mor debyg i gymeriadau llachar gêm compiwtar, ond efallai mai dyna'r bwriad.

Bydd yr hen dwb golchi sy'n nghefn y ty yn cael ei sbyddu am bryfaid genwair bach rhai rwyf wedi eu casglu'n ofalus drwy'r haf - a dyna fi'n barod am ymweliad â'r Ddyfrdwy i drotio am lasgangen yn ystod y tri mis hwn!

Dyna pam y dwedodd Graham Henry taw Lloegr yw'r ail wlad gryfa yn y byd y dyddiau hyn, drwch blewyn y tu ôl i Awstralia.

Deddf a fyddai yn cydnabod y Gymraeg fel iaith swyddogol yng Nghymru, yn ymestyn i'r sector breifat (dyna pam y targedwyd blychau ffôn BT) ac a fyddai yn effeithio hefyd ar faes technoleg gwybodaeth.

A dyna egluro enw Tirabad.

Dyna ragflas o'r ddamcaniaeth yn y Braslun mai la poe/ sie pure oedd awdlau'r Gogynfeirdd.

Dyna paham y symudant eu gwyl fawr genedlaethol o le i le fel syrcas yn y gobaith y bydd Arthur yn clywed.

A dyna a welwyd yn y daflen y flwyddyn wedyn - Alwyn Hughes Thomas, Tan'rallt .

Dyna pam roedd o'n sleifio i weld y fuwch dan sylw bob awr o'r dydd a'r nos ac yn sbecian trwy hollt yn nrws y beudy rhag rhishio'r fuwch.

A dyna ni.

A dyna'n union ydoedd.

Dyna sydd yn ei galluogi nid yn unig i gynnal ansawdd ei ffrwythau ymhell ar ôl y Nadolig, ond hefyd i ddal ei gafael yn dynnach nac arfer arnynt.

A dyna'r celyn wedyn, arwydd o fywyd tragwyddol, sy'n cael ei ddefnyddio o hyd i addurno tai adeg y Nadolig.

Dyna i chi, mi fedarcariad weld yn andros o bell hab na spectol na speing glas, na dim byd.

Dyna mae'n debyg fydd disgwyliadau Aelodau'r Cynulliad hefyd.

Dyna pam, mae'n amlwg, nad oedd y capel yn ganolfan gymdeithasol i'r teulu.

Digwydd bod yn eu hadnabod dyna i gyd." "Ie, digwydd bod yn eu hadnabod!

Dyna a gredai pawb - o ran hynny.

Dyna ichwi un o'r llyfrau gwersi gorau fu erioed ar gyfer plant.

Dyna wisgo a phincio fu arni am wythnosa' wedyn.

A dyna ddiod ragorol i roi iechyd da!

Dyna'i weledigaeth lywodraethol.

Colli wnaeth y Kurdiaid; yn wir, dyna fu eu hanes erioed.

Dyna i Bantycelyn beth sy'n gwneud hanes y croeshoelio'n rhan o'n hanes ni.

Dyma un o'r bechgyn o Lanfair yn rhoi un dda yn ôl imi trwy ddweud: 'Petaech chi'n troi hogia' Pen â'u pennau i lawr, fasa'r un geiniog yn syrthio o bocedi'u Oxford bags nhw!' Dyna'r fath le oedd y chwarel; os oeddech chi'n tynnu un goes roeddech chi'n siwr o gael y llall yn ôl.

A dyna'r adeg y dechreuodd pethau ddigwydd.

A dyna beth ydyw Paradwys Pythefnos.

Dyna ran o arwyddocad parodi Williams Parry ei hun ar ei awdl fawreddog, 'Yr Haf.' Yn 'Yr Hwyaden' y mae'n gwneud sbort am ben y confensiynau hurt a ddaeth i ffasiwn yn sgil 'Yr Haf': y macwyaid, y brodyr gwyn a du, holl gyfarpar yr awdl ramantaidd, a droes yn amherthnasol i'r oes.

Dyna wnaeth iddo fe ddwgyd pethe ambell waith, i ddial arnyn nhw, a gweithio siape arnyn nhw trwy'r ffenestri ...

A dyna pam y dywedwn ei fod ym mlynyddoedd cynnar ei weinidogaeth yn fath o eni~,ma i lawer, ac edrychent arno â gradd o amheuaeth.

"Ie, dyna ti.

Ar gefn ceffyl ai i'r dre yn y gaeaf i nol neges gyda "maletas" wrth ei sgîl gan mae dyna'r unig ffordd bosibl i fynd.

Dyna drist fod arwydd o gymdogaeth glo\s yn rhywbeth i synnu a rhyfeddu ato yma.

"Mam," gofynnodd, "ydych chi'n meddwl bod rhinoserosys yn lecio rhinoserosys?" "Mae'n rhaid 'u bod nhw, 'ngwas i," oedd yr ateb, "neu fyddai 'na ddim rhinoserosys bach, yn na fyddai?" A dyna Sandra a Hubert wedyn.

achos dyna'r cyfan y medrem ei ddweud yn Saesneg yr adeg honno.

Dyna sydd wedi digwydd yn America a dyna a ddigwydd ym Mhrydain hefyd.

"Dwyt ti ddim ffit, rhaid iti gael o leiaf wythnos arall cyn y byddi di'n ddigon da i fynd i'r ysgol." "Nid dyna oeddwn i'n feddwl Mam," atebodd Alun yn dawel.

Dyna sydd wrth wraidd llawer iawn o'r anniddigrwydd a fynegir ar hyn o bryd ym mhob cwr o'r wlad.

A dyna pam yr oedd Malcym yn gorfod cario pwcedeidia o ddŵr o'r tap yn y sied ddefaid ar draws yr iard i'r camal sychedig yn y beudy.

Dyna neges y Pwyllgor Datblygu Addysg Gymraeg (PDAG) i'r Ysgrifennydd Gwladol ar drothwy'r flwyddyn newydd.

Dyna fe, ddarllenydd - yn llafn main, tal, teneu, gwledig, - mewn gwisg ddiaddurn a digon cyffredin yn dyfod trwy ddrws y capel - am dano y mae coat winlliw o frethyn gwlad wedi ei wau yn lled fras, a hono wedi gweled ei dyddiau goreu; ac oblegid ei fod wedi tyfu ar ol ei chael, edrychai yn fer a chwta - gwasgod o stwff ac un rhes o fotymau yn cau i fynu yn y glos am ddolen ei gadach India oedd yn dorch am ei wddf - llodrau o ffustian rhesog; a phar o esgidiau mawrion cryfion, gyda dwbl wadnau am ei draed, wedi eu pedoli yn ol ac yn mlaen; a'u llenwi â hoelion, ac ymylau hoelion y rhesau allanol yn amgylchu ymyl y gwadnau, fel y gallesid tybio y buasai eu cario yn ddigon o faich i unrhyw ddyn, heb sôn am gerdded ynddynt.

'Dyna Gaenor!' 'Ma fi'n mynd te, blantos.

A dyna'r paratoad gwaethaf un ar gyfer y prawf i ddod.

A dyna fi, yn hollol anfwriadol, wedi taflu dþr oer ar yr 'ha ha' a minnau wedi bwriadu codi'ch calonnau chi, a f'un innau i'ch canlyn.

Dyna pam y mae Menem wedi rhyddhau'r rhan fwyaf o'r milwyr a gafwyd yn euog ar ôl y 'rhyfel brwnt' yn erbyn y bobl yn ystod dyddiau'r juntas.

Dyna pam mae'r pysgodyn yn drewi cymaint." "Pam na fuasai'n dod yma i'w gario i ffwrdd neu i'w symud?

Dyna paham yr ydym wedi gosod yn deitl i'r papur hwn Her i Ysgolion Gwledig. Dyna paham y gresynwn wrth glywed addysgwyr yn cwyno am 'broblemau' ysgolion pentrefol.

dyna hi o'r golwg ...

Dyna brofiad Ieuan Brydydd Hir, Michael Jones, ac Emrys ap Iwan.

Dyna oedd yn egluro pam yr oedd o wedi bod yn cysgu yn ei ddillad ers wsos ag un goes allan o'r gwely!

beth sy'n fy nigio fi'n fwy na dim yw'r holl sôn am gabledd dyna whitehouse yn dwyn achos o gabledd yn erbyn gay news a dyna'r ffatwa ar salman rushdie a sawl ffatwa sydd ar naguib mahfouz erbyn hyn?

Dyna fu'n gyfrifol fod un brawd wedi cael clod am redeg "hanner can milltir" at y teliffon i alw'r frigâd pan aeth ei dy ar dân.

Cerdd yw hi, wrth gwrs, mewn vers libre, a dyna ran bwysig o'i champ hi.

Dyna ganlyniad arall y trais parhaol sydd ledled y byd.

Dyna ni.

dyna fo eto !

dyna faint o arian sydd yn yr amlen.

Dyna awgrym holl naws y llyfr a diau y bydd ambell un mwy eangfrydig yn gwrido braidd wrth rai o'r sylwadau.

Cael golwg ar fy nghartref am y ddwy flynedd nesaf - wel dyna sioc.

Dyna oedd y perygl, fel heddiw, yng nghyffiniau porthladd Eilat.

Byddai tarddu Arthur o Artorius yn rheolaidd yn ieithegol, ond os dyna ffurf wreiddiol ei enw ni chadwyd unrhyw gof am hynny.

Bydd pawb yn ôl ymhen deuddeg mis a dyna wir lwyddiant y gystadleuaeth.

Dyna chi wedi cael digon o sgwrs.

Dyna ydi cynllunio i mi: synthesis gweledol.

A dyna Rick, mor surbwch â lemon.

A dyna ni wedi sôn am Colin Stephens: onid llawenydd pur yw i ddyn weld maswr yn rhedeg fel y gwnâi hwn brynhawn Sadwrn?

Bu Plaid Cymru yn rhyddach i ganoli'n gyfan gwbl ar ei gwaith gwleidyddol, canys dyna ei gwir phwrpas.

Dyna fy nghred ac y mae'n gywir dweud mai mewn gwasanaethu'r Efengyl trwy bregethu a hyfforddi myfyrwyr y cefais y boddhad dyfnaf.

Dyna un gred wedi ei chwalu i mi...

Dyna'r adeg y byddai wedi mynd i'r môr ar un o'r llongau gwyliau oedd yn morio am rai wythnosau ar hyd a lled y byd.

Dyna i chi Jason Little, i enwi dim ond un.

A dyna'r olwg olaf a welwyd arni.Diflannodd, ysywaeth,am byth.

Dyna enghreifftiau yn yr oes 'oleuedig' hon o rai pethau na ddylem eu gwneud oherwydd eu bod, meddir, yn anlwcus, er nad ydym yn rhyw siwr iawn pam.

Dyna paham nad yw'n ddiogel derbyn barn pobl am ddoe, yn enwedig eu doe eu hunain, heb gael cadarnhad annibynnol.

Diflannu oddi ar wyneb y ddaear, dyna ddywedodd o.

"Y John Preis na, dyna'r cena agorodd y giât." Ond cafodd Edward ras rhyfedd i ddal rhag ei ysgwyd yn reit dda.

Dyna pam yr ymddiddorant yn ein hymdrechion ni i ennill deddf iaith gryfach i'r Gymraeg, ac i ail-sefydlu'r iaith ym mywyd pob dydd.

'Dyna ddiwedd - alla i ddim cymryd mwy.'

Dyna beth oedd brawddeg wreiddiol.

Diweddodd Phil ei yrfa yn y gwaith tun fel rowlwr yn y Ffôr, ac ystyrid ef gan bawb yn weithiwr heb ei ail - a dyna farn rheolwr y gwaith hefyd.

Dyna fy hen gyfaill y diweddar J. W. Jones, Tanygrisiau, a ysgrifenai'r "Fainc Sglodion" i'r "Cymro% erstalwm, yn un; gþr a chanddo lygad am lyfrau prin, llyfrbryf wrth natur - ac un caredig iawn at hynny.

Ac nid dyna'r cyfan.

Dyna sydd ganddo yn y pennill trawiadol hwn o Golwg ar Deyrnas Crist:-

Dyna rydan ni wedi bod yn anelu amdano ers 'mod i efo'r clwb.

A gaf i apelio am newyddion oddiwrth gymdeithasau ac unigolion; dyna'r unig ffordd i wneud papur bro diddorol, waeth heb a grwgnach os nad yw pawb yn gwneud ei ran.

"Ond bob tro y down ataf fy hun, dyna lle'r oedd Rex yn ail-afael yn fy jersi ac yn tynnu ei orau.