Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dynesu

dynesu

Un diwrnod pan oedd Hadad a'i warchodwyr, a oedd erbyn hyn yn debycach i noddwyr, yn aros yn y wersyllfa lle gwelsai Hadad griw'r llong ddiwetha, dyma garafa/ n ramantus, estron yr olwg yn dynesu o'r bwlch creigog ac yn aros wrth ffynnon y balmwydden.

Roedden nhw'n dynesu tuag ato o bob cyfeiriad.

Deffrôdd y gelyn mewn dychryn i glywed gwŷr Gideon yn dynesu gan weiddi 'Cledd yr Arglwydd a Gideon'.

Dyma chi'n dynesu at y ffermdy a choesau eich trowsus wedi eu rowlio i fyny hyd at eich pengliniau.

''Da ni'n dynesu at y Cerrig hwnnw?' holodd y Paraffîn fymryn yn bryderus a chraffu o'i flaen.

Wrth weld yr Ymennydd Mawr yn dynesu trodd y Cripil ei lygad chwith mewn rhyw gymysgedd addolgar o drueni a balchder i edrych arno.

'Tasa hi'n ola' dydd a finna' ar 'y nhraed, mi faswn i'n 'nabod Pen Cilan 'ma fel cefn fy llaw.' 'Wel diawl, gwaeddwch os gwelwch chi o yn rwla.' 'Mi 'na i, Ifan Ifans.' Oherwydd eu difyrrwch wrth weld hwch a'i pherchennog yn eistedd yn y sêt flaen bu'r teithwyr yn hir cyn sylweddoli bod y Paraffîn wedi cymryd tac gwahanol a'u bod bellach yn pellhau oddi wrth y pictiwrs yn hytrach na dynesu ato.

Wrth dynesu ato buasech yn gweld mai'r hyn oedd yn symud oedd cannoedd o forloi bach.

Cyn hir, gwelodd ei fod yn dynesu at y fynedfa - yr hollt gul yn y graig.

Yna gwelodd Darren yn dynesu.

Ond dynesu a wnâi y storm o hyd ac yn y man roedd uwch eu pennau.

Wedyn dynesu at y tū heibio i ddrws y beudy.